Augusté Poskaité

Prif Ddylunydd a Chynhyrchydd Cyfryngau

Mae Auguste yn ddylunydd gyda dros saith mlynedd o brofiad yn creu cyfryngau digidol a materol ar gyfer y Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n gweithio ar draws sawl cyfrwng, gan gynnwys dylunio graffeg, celfyddydau cain, ffilm ac animeiddiad. Mae wedi gweithio gyda chleientiaid fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, CGGC, Cwmpas ac Anableddau Cymru.

Mae gan Auguste brofiad helaeth yn cyd-gynllunio cynnwys gyda phobl ifanc a chymunedau, yn rhannu ei sgiliau i roi llais iddynt, gan gynnwys cyflwyno hyfforddiant cyfryngau achrededig. Mae’n mwynhau gweithio gyda’r Trydydd Sector a’r Sector Cyhoeddus yn datblygu syniadau, creu cynnwys gweledol deniadol, hygyrch a chynhwysol sydd yn cychwyn sgyrsiau.

Enillodd ei hanimeiddiad Pili-Pala wobr Marchnata Cyfathrebu Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online.

Os hoffech gymryd dull creadigol i’ch gwaith, yna bydda’i Auguste wrth ei bodd yn bod yn rhan o’r sgwrs.