star

10 ffordd i ddangos potensial digidol i’ch uwch arweinwyr

Awdur: David Ainsworth; Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Cam pwysig y siwrne ddigidol i lawer o elusennau yw cael cymorth uwch arweinwyr. Os nad ydych yn derbyn cefnogaeth y prif weithredwr a’r bwrdd, yna bydd cynnydd yn arafach.

Nid yw hyn yn rhwystr i rai elusennau. Y prif weithredwr yw’r man cychwyn. Dyma’r person sydd yn gofyn am gyflwyniad technolegau a ffyrdd newydd o weithio.

Ond mewn rhai elusennau eraill, efallai bod y prif weithredwr a’r uwch swyddogion yn hwyr i fabwysiadau’r syniad. Mae llawer o arweinwyr digidol yn gorfod cyflwyno achos i’r Prif Swyddog Gweithredol i brofi’r buddiannau o fuddsoddi mewn digidol.

Dyma erthygl am sut i fynd i’r afael â’r her yma. Mae’n seiliedig ar:

  • Mewnwelediadau o raglenni mentora digidol
  • Ymchwil a gynhaliwyd ar ran rhwydwaith Catalyst
  • Gwaith Zoe Amar, ymgynghorydd digidol

Pam fod rhwystrau yn bodoli?

Os nad oes gan eich uwch arweinwyr ddiddordeb mewn digidol, mae’n debyg bod rheswm am hynny. Os ydych chi am newid meddyliau, mae angen i chi ddeall o ble maen nhw’n cychwyn a’r pethau sydd yn bwysig iddynt.

Mae llawer o rwystrau posibl.

Un o’r rhain yw ofni newid. Gall trawsnewid digidol fod yn flêr ac yn gymhleth. Pam newid os yw pethau’n llwyddo, mae arian dros ben, ac mae pawb i weld yn hapus?

Neu efallai mai’r rhwystr yw faint o wybodaeth dechnolegol sydd gan yr arweinwyr. Efallai eu bod yn ofni dangos eu hanwybodaeth. Mae digidol yn galw am newidiadau i ddulliau gweithio. Mae angen i uwch arweinwyr fod â rhywfaint o ddealltwriaeth o dechnoleg. Mae’n gofyn am barodrwydd i ddefnyddio dulliau a ffyrdd newydd o weithio. Mae uwch arweinwyr wedi arfer â strwythurau a phrosesau penodol. Efallai nad ydynt yn barod i groesawu newid.

Yna mae’r ffactorau ymarferol: cyllideb, amser ac adnoddau. Efallai nad oes gan y prif weithredwyr yr amser i roi iddo. Neu eu bod yn credu nad oes amser gan y staff. Mae hwn yn wrthwynebiad dilys. Mae prosiectau digidol elusennol yn golygu newid, ac weithiau mae hyn yn boenus. Ychydig iawn o’r elusennau a gyfrannodd i’n hymchwil ddywedodd bod y prosesau eu hunain wedi bod yn hawdd. Felly mae’n ddealladwy i arweinwyr elusennau fod yn wyliadwrus.

Gall profiadau gwael blaenorol waethygu’r pryder yma. Bydd nifer o arweinwyr wedi gweld elusennau yn buddsoddi llawer o arian i brosiectau technolegol mawr aflwyddiannus, fel gwefannau a systemau CRM newydd. Felly os ydych chi’n ceisio cael cefnogaeth gan arweinwyr, efallai y gofynnir i chi ddangos na fydd pethau’n mynd o chwith y tro hwn.

Yn olaf, efallai mai diwylliant sy’n gyfrifol am hyn, a bod yn agored i newid, yn enwedig wrth ddelio â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Yn aml, mae ymddiriedolwyr yn hŷn, gam yn ôl o waith o ddydd i ddydd y sefydliad, ac yn llai tebygol o fod yn frwdfrydig am newid radical. Gallant fod llai tebygol o fod eisiau cymryd risg. Mae perygl ynghlwm â meddwl grŵp. Gall gwneud penderfyniadau fod yn broses llawer hirach.

Fodd bynnag, mae dwy fantais gyda Bwrdd. Yn gyntaf, os bydd uwch staff yn dweud bod angen rhywbeth arnynt, mae’r anodd i’r Bwrdd ei wrthod. Yn ail, bydd y bobl ar y Bwrdd yn newid dros amser. Mae lle i recriwtio unigolion newydd gyda’r sgiliau sydd eu hangen. Wrth i’r syniad o ‘ymddiriedolwr digidol’ ddod yn fwy cyffredin, mae Byrddau’n debygol o ddod yn haws i’w perswadio.

Sut i ddatrys hyn

Felly, wrth feddwl am y rhwystrau yma, sut ydych chi’n cyflwyno’r achos dros newid ymddygiad?

Rhannodd elusennau ac arbenigwyr dechnegau a oedd wedi bod yn llwyddiannus iddynt.

1. Deall y bobl dan sylw

Meddyliwch am y safonau tystiolaeth a phrawf sydd orau gan eich uwch arweinwyr. A ydynt yn ymddiddori fwyaf yn yr hyn y mae eu cyfoedion wedi’i wneud, neu mewn data, neu brofiad personol? Rydych chi angen defnyddio’r adnodd sydd fwyaf tebygol o newid meddyliau.

2. Dangos yr hyn sydd wedi digwydd yn rhywle arall

Un adnodd i’w ddefnyddio yw astudiaethau achos ac enghreifftiau gan elusennau eraill. Dangoswch fod elusennau eraill tebyg wedi gweithredu newidiadau digidol llwyddiannus. Bydd hyn yn eich cefnogi i wneud hynny hefyd. Mae llawer o uwch arweinwyr yn hoff o efelychu arferion gorau eu cyfoedion.

3. Cael dilysiad allanol

Cynnwys unigolion allanol fel ymgynghorwyr, mentoriaid, a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau digidol. Efallai na fydd angen iddynt ddweud unrhyw beth yn wahanol i neges yr arweinydd digidol. Ond, gan eu bod yn gynghorwyr allanol sydd yno am eu harbenigedd,  mae pobl yn tueddu i wrando fwy arnynt.  

Pethau eraill gall helpu yw derbyn gwobr, cael eich derbyn ar raglen cymorth ddigidol allanol, neu dderbyn cyllid (hyd yn oed swm bach).

4. Creu cefnogaeth fewnol

Os ydych yn brwydro am newid, mae’n debyg mai’r prif weithredwr yw’r person gorau i ofyn am gymorth. Ond nid yw hyn yn bosibl bob amser. Nid yw bob tro’n hawdd mynd at brif weithredwyr a dylanwadu arnynt. Os felly, ceisiwch ddod o hyd i gefnogaeth  gan rywun arall o fewn eich sefydliad. Pa aelodau eraill o staff gallech chi eu perswadio o werth eich achos? Ewch ati i greu consensws o fewn eich tîm, ac ymhlith uwch arweinwyr eraill. Yna, defnyddiwch y gefnogaeth yma i berswadio’r Prif Swyddog Gweithredol a’r Bwrdd.

5. Defnyddio ymchwil

Fe ddylech chi fedru dangos gwerth digidol wrth gasglu tystiolaeth defnyddwyr gwasanaeth. A yw eich ymchwil a data yn dangos bod defnyddwyr eich gwasanaeth yn awyddus i gael mynediad at gefnogaeth yr elusen trwy sianeli digidol? Ydych chi’n gallu dangos bod angen i chi ddefnyddio sianeli digidol i gadw’n berthnasol i’r defnyddwyr hynny? Os felly, defnyddiwch y wybodaeth yma i gyflwyno’r achos.

6. Gwneud achos ariannol

Gallwch hefyd ddangos gwerth ariannol digidol. Gall digidol helpu i godi arian newydd, gwneud arbedion sylweddol ac arbed amser staff. Os ydych chi’n gallu dangos bod buddsoddiad tymor byr yn dod ag enillion hirdymor, mae hynny’n arf pwerus. I brif weithredwr sydd yn brin o arian, bydd digidol yn ymddangos yn ased gwerthfawr, yn hytrach na phroblem i’w thrwsio.

7. Buddugoliaethau bach

Mae cyflwyno achos digidol yn llawer haws os allech chi ddangos ei fod yn gweithio. Rydym yn argymell dechrau’n fach, a gwneud i un system weithio’n well – system fewnol yn aml. Nid yn unig i berswadio eich Prif Swyddog Gweithredol, ond gan mai dyma’r ffordd orau o gyflawni newid digidol. Unwaith i chi brofi hyn, gallwch ei ddefnyddio i ddangos bod digidol yn ddefnyddiol.

8. Helpu uwch arweinwyr i ddod yn gyfforddus â digidol

Mae angen dysgu’r sgiliau sydd ei angen ar eich arweinwr fel eu bod yn dod yn gyfforddus â digidol. Helpwch iddynt ddeall y dechnoleg, yr iaith, a’r ffyrdd o weithio, a pham eu bod yn bodoli. Os yw’ch arweinwyr yn teimlo’n gyfforddus gyda digidol, maent yn llawer mwy tebygol o’i gefnogi.

9. Dangos fod newid yn angenrheidiol

Mae’n llawer haws cael cefnogaeth arweinwyr os yw newid yn angenrheidiol. Efallai bod angen i chi newid i blesio cyllidwyr, neu i ennill cytundeb, neu am nad yw’r hen systemau yn gweithio bellach. Er enghraifft, mae llawer o elusennau wedi gorfod addasu i ffyrdd newydd yn ystod y cyfnodau clo.

Gwybodaeth i’ch helpu i gymryd y camau hyn

  • Cod Digidol Elusennol
  • Gwell Egwyddorion
  • Rhestr Wirio Covid 19 Ymddiriedolwyr

Os ydych chi eisoes wedi bod yn fuddugol yn rhai o’r brwydrau yma, ond yn awyddus i symud ymhellach ac yn gyflymach, ceisiwch ddefnyddio adnodd asesu: Matrics Aeddfedrwydd Digidol.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst