Llinellau Cymorth

Cefnogi Plant, Pobl Ifanc, ac Oedolion Gyda Gwybodaeth, Cyngor ac Eiriolaeth

Mae ProMo Cymru yn deall y pwysigrwydd o gael rhywun yno i wrando, cynghori ac eirioli ar eich rhan.

Mae gennym dros 10 mlynedd o brofiad yn darparu llinellau cymorth cyfrinachol a dienw wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw plant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae ein cynghorwyr medrus yn ymroddedig i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gydymdeimladol. P’un a ydych chi’n wynebu heriau o ran iechyd meddwl, perthnasoedd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, neu angen siarad gyda rhywun, mae ein cynghorwyr yma i wrando ac i helpu.

Diogelu sydd wrth galon ein llinellau cymorth, i sicrhau bod ein staff a defnyddwyr ein gwasanaeth yn ddiogel.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu pedair llinell gymorth ledled Cymru sydd yn cynnig amrywiaeth o ddulliau cysylltu megis ffôn, neges destun, neges WhatsApp a sgwrs ar-lein i sicrhau bod y cymorth yn hygyrch i bawb.