Llinellau Cymorth

Cefnogi plant, pobl ifanc, ac oedolion gyda gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth.

Blonde haired lady sat at desk with her laptop open. She is speaking on the phone.

Mae ProMo Cymru yn deall y pwysigrwydd o gael rhywun yno i wrando, cynghori ac eirioli ar eich rhan.

Mae gennym dros 10 mlynedd o brofiad yn darparu llinellau cymorth cyfrinachol a dienw wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigryw plant, pobl ifanc ac oedolion.

Mae ein cynghorwyr medrus yn ymroddedig i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth gydymdeimladol. P’un a ydych chi’n wynebu heriau o ran iechyd meddwl, perthnasoedd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, neu angen siarad gyda rhywun, mae ein cynghorwyr yma i wrando ac i helpu.

Diogelu sydd wrth galon ein llinellau cymorth, i sicrhau bod ein staff a defnyddwyr ein gwasanaeth yn ddiogel.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu pedair llinell gymorth ledled Cymru sydd yn cynnig amrywiaeth o ddulliau cysylltu megis ffôn, neges destun, neges WhatsApp a sgwrs ar-lein i sicrhau bod y cymorth yn hygyrch i bawb.

Mae prosiectau yn cynnwys

Llinell gymorth sydd yn cefnogi pobl i gael eu clywed, deall gwasanaethau cymdeithasol, a derbyn y cymorth cywir i aros yn annibynnol.

Llinellau Cymorth

Llinell gymorth gwasanaeth eiriolaeth i gefnogi dinasyddion sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i gael llais a dewis o ran gwasanaethau cymorth gofal cymdeithasol.

Llinellau Cymorth

Un pwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth a chyngor am eiriolaeth yng Ngwent

Llinellau Cymorth