Iechyd Cyhoeddus Cymru: Cynllunio Gwasanaeth Iechyd Rhywiol
Bûm yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phobl ifanc i ddatblygu teclyn digidol iechyd rhywiol gwell fydda’n newid gorfod disgwyl dwy awr i weld rhywun i gael y wybodaeth sydd ei angen o fewn 40 eiliad. Ariannwyd y prosiect gan YLab, Prifysgol Caerdydd a rhaglen Arloesi i Arbed Llywodraeth Cymru.
Mae Iechyd Rhywiol yn bwnc anodd i bobl ifanc siarad amdano. Mae’n rhywbeth personol, ac mae llawer o bobl ifanc yn troi at Google wrth chwilio am gyngor yn hytrach nag gweithiwr meddygol proffesiynol. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru a ProMo Cymru eisiau sicrhau bod y wybodaeth ar-lein roedd pobl yn ei ddarganfod wrth chwilio yn ddefnyddiol ac yn berthnasol.
Roedd ein prosiect wedi darganfod arwyddion cryf nad oedd y wybodaeth iechyd rhywiol GIG oedd ar gael iddynt mewn fformat sydd yn hawdd i bobl ifanc ei ddeall a gweithredu arno. Mae’n bosib mai canlyniad hyn fydd mwy o alw ar y GIG gyda phobl ifanc ddim yn cael eu gweld mewn amser i dderbyn triniaeth. O’r 35 person ifanc bûm yn gweithio â nhw, mae’n achos pryder nad oedd yr un ohonynt yn gallu gweithredu’n gywir ar y wybodaeth iechyd rhywiol darganfuwyd ar-lein. Roedd y bobl ifanc yn dweud wrthym y byddant yn ymweld â chlinig iechyd rhywiol y diwrnod canlynol os byddant yn poeni.
Siaradom â’r clinig iechyd rhywiol a darganfod bod y diffyg gwybodaeth yma yn golygu bod mwy o bobl ifanc yn mynychu’r clinig gyda heintiau sydd yn cael eu trosglwyddo’n rhywiol cyn i brofion gallu eu canfod eto, fel yr hadlif (gonorrhoea) neu chlamydia. Roedd hyn yn rhoi mwy o alw ar y gwasanaeth pan nad oedd angen gan fod rhaid i’r bobl ifanc ddychwelyd i’r clinig am yr eilwaith. Golygai hyn bod rhaid i’r bobl ifanc oedd wir angen cael eu gweld ar frys orfod disgwyl gan fod gormod o bobl o’u blaen.
Creu prototeip
Nid oeddem wedi deall graddfa amlwg y broblem i gychwyn, ac wedi meddwl bydda rhai pobl ifanc wedi gallu gweithredu’n gywir ar y wybodaeth roeddent yn ei ddarganfod ar-lein. Wrth weithio gyda gwahanol grwpiau o bobl ifanc, roedd yn glir bod gwybodaeth anhygyrch yn broblem i bawb. Oherwydd graddfa’r darganfyddiad yma newidiodd ProMo ei lwybr gwaith i geisio ymateb i’r problemau systemig mewn gwybodaeth iechyd. Gwnaethpwyd hyn wrth greu prototeip teclyn iechyd rhywiol digidol. Dyluniwyd y teclyn hwn i gefnogi pobl ifanc i fedru prosesu a gweithredu ar wybodaeth iechyd yn haws.
Roedd y prototeip teclyn digidol yma yn gofyn cwestiwn byr syml i bobl ifanc ac yna’n rhoi ymateb wedi’i phersonoli yn ôl eu hatebion. Cyflawnwyd hyn wrth ddefnyddio proses Cynllunio Gwasanaeth ble rydym yn datblygu’r prototeip gydag adborth a phrofi gyda phobl ifanc. Roedd amrywiaeth eang o bobl ifanc yn rhan o’r profi, gan gynnwys y rhai sydd â nam gweledol, y rhai sydd mewn perygl o ddod yn NEET (ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) a phobl ifanc sydd yn mynychu Clwb Ieuenctid Byddar Caerdydd. Gyda’r profi yma, roeddem yn gallu dangos bod y prototeip yn ei wneud yn haws i bobl ifanc brosesu a gweithredu ar wybodaeth iechyd rhywiol.
“Mae hwn yn dda iawn. Mae fel cwis Buzzfeed. Y cwis Buzzfeed iechyd rhywiol.”
– Person Ifanc
Ein darganfyddiadau
- 46% o bobl ifanc yn gallu darganfod a gweithredu’n gywir ar y wybodaeth yn ein teclyn iechyd rhywiol (0% gyda’r gwasanaeth presennol.)
- 100% o’r gweithwyr proffesiynol fu’n profi’r teclyn yn cytuno ei fod yn well na’r wybodaeth iechyd rhywiol digidol presennol.
- 100% o’r bobl ifanc cafwyd eu profi yn teimlo bod y teclyn datblygwyd yn fwy effeithiol a defnyddiol nag gwasanaethau presennol.
Roedd ffafriaeth tuag at gynnwys fideo ar y cyfan, Roedd yn caniatáu i bobl ifanc ‘ymarfer’ mynychu clinig, neu wrando ar straeon go iawn gan rhai gyda phrofiadau tebyg.
“Mae’n bwysig i ni ddeall beth fydd yn digwydd pan fyddem yn mynd i’r clinig.” – Person Ifanc.
Darganfuwyd nad oedd y teclyn prototeip yma mor llwyddiannus gyda phobl ifanc byddar, gan adnabod bod angen cefnogaeth bellach ar y grŵp yma gydag addysg iechyd rhywiol.
Cadw pethau’n syml
Roeddem yn ymdrechu i guddio’r llwybrau cymhleth oddi wrth y bobl ifanc oedd yn defnyddio’r gwasanaeth. Mae’r ddelwedd isod yn dangos dim ond rhan fach o’r llwybrau posib mae ein prototeip yn gallu helpu pobl ifanc i’w llywio.
Gofynnom gwestiynau syml a defnyddio datganiadau clir i helpu’r bobl ifanc i gael mynediad i’r wybodaeth iechyd maent ei angen i wneud dewis gwybodus.
Yr hyn y dysgwyd
Datblygodd ProMo Cymru fodel newydd i ystyried os yw gwybodaeth cyfathrebu yn ddefnyddiol:
- Ydy’r wybodaeth yn hygyrch ac yn hawdd ei ddeall?
- A yw’n weledol ac yn hawdd i’w ddarganfod?
- Ydy’r wybodaeth yn caniatáu i ddefnyddwyr brosesu a gweithredu ar y neges fwriadol?
Beth Nesaf?
Bydd ProMo ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar ddatblygu ein darganfyddiadau i mewn i weithrediadau i gefnogi pobl yn well.
Ein diolch
Mae ProMo yn ddiolchgar iawn o weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a YLab. Diolch i’r bobl ifanc anhygoel du’n profi ac yn helpu datblygu’r teclyn. Diolch arbennig i Ucan, Clwb Ieuenctid Byddar Caerdydd, Disgyblion y Chweched Ysgol Stanwell a Choleg Caerdydd a’r Fro. Bydd y dysgu o’r prosiect yma yn dylanwadu ar sut rydym yn darparu gwybodaeth i bobl ifanc.
Mae ProMo Cymru yn cyflawni amrywiaeth eang o waith, ymwelwch â’n hadran Ein Gwaith i weld rhestr o’r gwasanaethau rydym yn ei ddarparu ac edrychwch ar ein tudalen Prosiectau i ddarllen am ychydig o’n gwaith blaenorol.