Meddwl Ymlaen Gwent
Datrysiadau Iechyd Meddwl dan Arweiniad Ieuenctid ar gyfer Gwent
Cleient
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Sector
Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus
Partneriaid
Mind yng Ngwent
Gwasanaethau Ieuenctid yng Ngwent
Minds lleol yng Ngwent
Gwasanaethau
Cynllunio Gwasanaeth
Cyfryngau Digidol wedi’u Cyd-gynllunio
Hyfforddiant ac Ymgynghoriad
Cefnogi pobl ifanc i greu dulliau iechyd meddwl gwell ar gyfer Gwent



Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd rhwng ProMo Cymru a Mind yng Ngwent, gan weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau ieuenctid lleol a Mind ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Mae’r bartneriaeth yn cefnogi pobl ifanc i gyd-gynllunio a datblygu dulliau newydd ar gyfer iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc, gan ddefnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth. Rydym wedi recriwtio ac yn talu 11 o ymchwilwyr cyfoed 16-24 oed ledled Gwent i arwain cyfeiriad y prosiect. Gan eu cydnabod fel gwir gydweithwyr, maent yn cael eu talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Ein dull
Sefydlodd y cyfnod Darganfod gwir anghenion pobl ifanc Gwent, gan gasglu mewnwelediadau gan 203 o gyfranogwyr 11 i 27 oed. Dywedodd pobl ifanc nad ydynt yn ymwybodol o ble i fynd am gymorth yn yr ardaloedd maent yn byw. Maent wedi’u llethu gan ormod o wybodaeth ac yn ansicr ble i gychwyn. Maent yn ofni stigma ac angen cymorth dibynadwy a hyblyg.
Mae’r mewnwelediadau yma wedi arwain at ddiffinio tri llinyn datrysiad craidd.
1. Cynllunio ar gyfer newid
Rydym wedi creu cymuned ymarfer gyntaf Gwent ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Nid oedd hyn yn bodoli cynt. Cychwynnodd fel cyfarfodydd diweddaru prosiect ar gyfer partneriaid ond esblygodd i fod yn rhywbeth llawer mwy gwerthfawr.
Gofynnwyd i ni’n hunain: pam y dylai pobl ddod a gwrando ar yr hyn sydd gennym i’w ddweud? Pam na fyddwn yn trawsnewid hwn yn ofod i ddod i rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud, yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, a sut allwn ni weithio gyda’n gilydd i ddatrys problemau cyffredin? Beth ydych chi wedi’i roi ar brawf fu’n llwyddiannus?
Mae’r gymuned ymarfer bellach yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn yng Nghasnewydd. Mae yna groeso i unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc yng Ngwent, p’un a ydych chi’n gweithio’n benodol yn y maes iechyd meddwl neu ddim. Mae gweithwyr proffesiynol yn cyflwyno i’w gilydd, yn rhannu arfer da, ac yn datrys problemau gyda’i gilydd. Yn ein cyfarfod diwethaf, cawsom bum cyflwyniad gan wahanol sefydliadau yn rhannu eu gwaith a’u heriau.
Y cam nesaf yw datrys problemau ar y cyd. Mae gweithwyr proffesiynol wedi dweud wrthym eu bod eisiau gweithio trwy heriau cyffredin gyda’i gilydd a dod o hyd i atebion i bobl ifanc ledled y rhanbarth.



Gwella llwybrau presennol
Un o’n llwyddiannau pwysig yw gweithio gyda Phaneli Llesiant SPACE (Un Pwynt Mynediad ar gyfer Llesiant Emosiynol Plant). Nododd ein Cynllwynwyr Gwasanaeth Cyfoed rwystrau sylweddol: nid all pobl ifanc ddod o hyd i’r ffurflenni hunangyfeirio, a phan wnaethant, nid oedd y cwestiynau yn gwneud synnwyr.
Efallai yn fwyaf pwerus, gofynnodd y bobl ifanc: os ydw i’n gwybod yn union pryd mae pitsa o Domino’s yn cyrraedd, pam na allaf gael gwybodaeth yn ystod pob cam o ofyn am gymorth iechyd meddwl? Pam ydw i’n aros am ddim byd?
Gwrandawodd Tracey Smith, Rheolwr Dros Dro Canolfan y Plant a Rheolwr Tîm Llesiant SPACE a gwnaeth newidiadau i’r broses atgyfeirio ar unwaith. Nawr, mae pobl ifanc yn derbyn diweddariadau ar ôl cyflwyno eu ffurflen atgyfeirio i roi gwybod iddynt fod y ffurflen wedi’i derbyn a byddant yn clywed gan SPACE o fewn amserlen benodol. Rydym bellach yn cyd-gynllunio fideo gyda SPACE ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed hefyd wedi hyfforddi gweithwyr proffesiynol ar sut olwg sydd ar gyd-gynhyrchu ystyrlon mewn gwirionedd a sut i’w gyflawni’n iawn, gan dynnu ar eu cyfranogiad a’u profiad gyda MYG.
Dywedodd Tracey: “Mae MYG wedi dylanwadu’n sylweddol arnom wrth ymgorffori llais pobl ifanc yn y broses cynllunio gwasanaeth, gan alluogi cyd-gynhyrchu drwy fentrau dan arweiniad cyfoedion ac ysbrydoli newid diwylliant tuag at gefnogaeth iechyd meddwl sy’n cael ei gyrru gan bobl ifanc ledled Gwent.”
2. Cymorth digidol a grëwyd gan bobl ifanc
Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod am helpu eu cyfoedion i deimlo’n llai unig. Maen nhw eisiau i iechyd meddwl fod yn rhywbeth y gellir siarad amdano’n agored. Yn bwysicaf oll, maent t eisiau i’w cyfoedion wybod ble i gael cymorth ac i ddangos nad oes cywilydd mewn gofyn am help.
Mae ein Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed yn cynnal y cyfrif Instagram @KeepInMindGwent, gan greu cynnwys mewn fformat y mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd. Nid ymgyrchu iechyd traddodiadol yw hwn. Mae’n cyfathrebu rhwng cyfoedion a gynlluniwyd gan bobl ifanc sy’n deall yn union beth mae angen i’w cyfoedion ei glywed.
Enghraifft bwerus yw fideo sy’n tywys y person ifanc trwy’r profiad o fynychu apwyntiad am eu hiechyd meddwl gyda’r meddyg teulu. Dywedodd y bobl ifanc eu hunain: rydyn ni’n ofnus, ddim yn gwybod beth i’w wneud. Felly, aethant ati i greu canllaw fideo cam wrth gam yn ymdrin â sut i baratoi, beth i’w ddisgwyl, a sut i lywio’r sgwrs gyntaf honno. Mae pobl ifanc wedi dod o hyd i’r wybodaeth yma ar Instagram ac wedi’i defnyddio i gael mynediad at gymorth.
Mae’r cyfrif hefyd yn arddangos gwasanaethau cymorth lleol trwy ddarnau nodwedd a chyfweliadau, gan helpu pobl ifanc yng Ngwent i ddarganfod beth sydd ar gael yn eu hardal. Mae gwasanaethau fel Meic wedi cael eu hamlygu, gan ddod â chefnogaeth leol yn uniongyrchol i bobl ifanc trwy lwyfan sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ganddynt.
Mae fideo a gyflwynwyd mewn fformat y mae pobl ifanc yn ymgysylltu ag ef yn rheolaidd wedi gwneud gwahaniaeth.



3. Pobl ifanc fel hyfforddwyr
Mae’r hyn sy’n gwneud ein hyfforddiant yn unigryw yn syml: y bobl ifanc yw’r hyfforddwyr. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw hyfforddiant iechyd meddwl arall a gyflwynir yn gyfan gwbl gan bobl ifanc. Nid cyd-gynllunwyr sydd wedi cael mewnbwn yn unig ydynt. Nhw yw’r bobl sy’n dod i gyflwyno’r sesiynau.
Cynhelir dwy raglen: un ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac un ar gyfer pobl ifanc. Mae’r hyfforddiant proffesiynol yn defnyddio fframwaith ‘Sylweddoli, Cydnabod, Ymateb, Cyfeirio’ sy’n seiliedig ar ddulliau sy’n ystyriol o drawma a gweithdrefnau diogelu. Mae hyfforddiant y bobl ifanc yn addasu hyn i ‘Rhagfarn, Bod yn Ymwybodol, Creu Ffydd, Ffiniau’, gan bwysleisio pwysigrwydd cydbwysedd bod yno i’ch ffrind gan ofalu cadw eich ffiniau.
Mae’r hyfforddiant yn mynd y tu hwnt i ddamcaniaeth. Elfen bwysig yw bod gweithwyr proffesiynol yn rhoi dysgu ar waith trwy senarios ‘mewn gweithrediad’. Mae’r bobl ifanc eu hunain yn chwarae rôl rhywun sydd angen cefnogaeth. Maent yn cyflwyno achos ac yna’n gofyn: sut fyddech chi’n siarad â mi? Cofiwch yr hyn rydym wedi’i ddysgu. Nawr dangoswch.
Yna daw’r adborth ar unwaith. Mae’r bobl ifanc yn dweud wrth y gweithwyr proffesiynol yn uniongyrchol: roedd hynny’n wych, ond pan ddywedoch chi hyn, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy marnu. Neu: roedd hynny’n teimlo’n nawddoglyd, gallech chi roi cynnig arni fel hyn. Neu: yn union, dyna’n union beth fyddwn i’n ei argymell.
Mae gweithwyr proffesiynol wedi dweud wrthym fod clywed gwybodaeth gan y bobl ifanc eu hunain yn anhygoel. Byddech chi’n eistedd i fyny ac yn gwrando pe bai person ifanc yn dweud wrthych chi’n uniongyrchol: dyma sut yr hoffwn i gael fy nghefnogi. Gwnewch ef fel hyn. Peidiwch â’i wneud fel yna.
Dywedodd Rebecca Stanton, Arweinydd Trawsnewid Plant ym Mwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gwent: “Roedd yr hyfforddiant yn graff iawn, ac yn rhoi’r lefel gywir o her a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol feddwl am sut y gallent fynd ati i siarad â phobl ifanc am eu hiechyd meddwl. Roedd elfen senario’r hyfforddiant yn wych i ‘ymarfer’ y ffordd rydym yn trafod pynciau ac yn cynnig adborth, roedd yn uchafbwynt yn fy marn i.”



Mae’r hyfforddiant cyfoed yn cyfarparu pobl ifanc i gefnogi eu ffrindiau wrth gynnal ffiniau iach. Os daw eich ffrind atoch chi yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth, beth ydych chi’n ei ddweud? Rydym yn dysgu pobl ifanc i wrando, i wneud i’w ffrind deimlo eu bod nhw’n cael eu clywed, ond y dylid cyfeirio at wasanaethau priodol bob amser. Nid ydym yn disgwyl iddyn nhw fod yn weithwyr cymdeithasol. Ond gallant ddweud wrth eu ffrindiau ble i fynd.
Ariannir Meddwl Ymlaen Gwent gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu recriwtio a thalu pobl ifanc fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed, datblygu rhaglenni hyfforddi dan arweiniad pobl ifanc, a chreu cymuned ymarfer sy’n newid sut mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a’u darparu ledled Gwent.
Dywedodd un o’r Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed, Helen Lantzos (19): “Rwy’n falch o weld y gwir newid rydyn ni’n ei wneud i fywydau a gwasanaethau pobl ifanc yng Ngwent. Mae gallu gweld y newid corfforol rydyn ni’n ei greu yn deimlad na ellir ei ddisgrifio. Yn aml, pan gewch chi gyfleoedd fel hyn, rydych chi’n gwneud y gwaith i gyd, ac mae yna lawer o siarad am newid. Ond, nid oes dim byd byth yn digwydd yn y diwedd mewn gwirionedd. Felly mae gallu cyflawni ein haddewid i bobl ifanc yn gwneud i mi deimlo’n hynod falch.”
Os hoffech siarad yn fanylach am unrhyw agwedd o’n gwaith a sut y gallai fod yn berthnasol i’ch gosodiad iechyd, yna anfonwch e-bost at cindy@promo.cymru