Cynllunio Gwasanaeth

Helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau gwell gyda phobl.

Mae ein dull yn cyfuno ein profiad gwaith ieuenctid, trefnu cymunedol, cyd-gynllunio ac ymgysylltu diwylliannol. Yn sail i hyn i gyd mae ein syniadau digidol creadigol.

Y camau cyflawnir gyda chi a’ch cymuned…

Darganfod

Creu sgyrsiau am yr hyn sydd yn bwysig. Yn defnyddio ymchwil cyfranogol, bydd ProMo yn eich helpu i siarad gyda’ch cymunedau. Cysylltu drwy ddigidol, wyneb i wyneb, trafodaeth grŵp a gwrando ar eich arbenigedd. Bydd ein mewnwelediadau cyfunol yn ein caniatáu i weld ystod lawn eich her.

Datblygu

Rydym yn gwneud mwy nag siarad. Er mwyn profi syniadau, rydym yn creu prototeipiau digidol neu gorfforol ac yn cyflwyno’r rhain i’r gymuned. Byddech yn gallu gweld sut mae pobl yn defnyddio’r hyn sydd wedi cael ei adeiladu, ac yn dysgu beth sydd yn gweithio gyda’n gilydd. Mae’r atebion gennych chi a’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw, gallem helpu chi i’w darganfod a’u datblygu.

Diffinio

Rydym yn dadorchuddio mewnwelediadau ffres o’n sgyrsiau. Bydd ProMo yn gweithio gyda chi, eich cymuned ac unrhyw hapddalwyr, yn dadansoddi ein trafodaethau ac ymchwilio i weld pa ddatrysiadau fydd yn cyflawni’r newid mwyaf. Bydd tynnu ar ein profiadau o fewnwelediadau ymddygiad a chyd-greu gwasanaeth digidol yn cynllunio’r ffordd orau ymlaen.

Cyflawni

Ar y pwynt yma, byddech eisoes wedi bod ar siwrne gan ddysgu’r hyn sydd yn llwyddiannus ar gyfer eich cymuned. Nawr mae’n amser gweithredu. Byddem yn eich cyfarparu â’r offer, hyfforddiant a’r sgiliau sydd ei angen i lwyddo.

Am wybodaeth bellach ar Gynllunio Gwasanaeth, cysylltwch ag arielle@promo.cymru

Mae prosiectau yn cynnwys

Digidol i’r Trydydd Sector. Rhaglen cymorth a datblygu sgiliau digidol i sector wirfoddol Cymru.

Cynllunio Gwasanaeth

Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

A graphic of a microscope hovering over colourful abstract elements.

Cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth i waith ieuenctid gyda naw o sefydliadau ieuenctid arweiniol ar draws Ewrop.

Cynllunio Gwasanaeth

Cefnogom bobl ifanc i ddylanwadu ar strategaeth Ofcom wrth addysgu a siarad gyda’u cyfoedion am sut mae algorithmau yn siapio cynnwys cyfryngau cymdeithasol.

Gwaith Ieuenctid Digidol


Charity number: 1094652
Company number: 01816889