Newid
Rhaglen ariannir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r trydydd sector Cymraeg gyda digidol.
Cleient
Llywodraeth Cymru
Sector
Trydydd Sector Cymru
Partneriaid
CGGC Canolfan Cydweithredol Cymru
Gwasanaethau
Cynllunio Gwasanaeth Hyfforddiant ac Ymgynghoriad Dylunio a Brandio
Trosolwg
Yn ystod COVID, daeth digidol y brif ffordd i nifer o sefydliadau trydydd sector fedru parhau gyda’u darpariaeth. Ymchwiliom yr hyn roedd hyn yn ei olygu i sefydliadau Cymru a chynnig argymelliadau yn ôl yr hyn roedd wedi mynd yn dda, a’r hyn nad oedd mor llwyddiannus. Canlyniad hyn oedd datblygiad Newid, rhaglen ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r trydydd sector gyda digidol.
Ein dull
Yn fuan yn 2021, cafodd ProMo Cymru a Dotiau eu comisiynu gan CGGC a Chanolfan Cydweithredol Cymru (CCC) i ymchwilio a diffinio’r cymorth sydd ei angen ar sefydliadau gwirfoddol Cymru pan ddaw at ddigidol. Ariannwyd yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ac ystyriodd sut y gellir cefnogi sefydliadau i ymateb i’r cynyddiad sydyn mewn gweithio a throsglwyddo gwasanaethau yn ddigidol sydd wedi digwydd o ganlyniad y pandemig COVID. Rhannwyd prif ganfyddiadau’r adroddiad mewn digwyddiad lansio ar 1 Tachwedd 2021.
Canlyniad
Bydd yr adroddiad darganfod a’i ganfyddiadau allweddol yn dylanwadu ar ddatblygiad Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector. Roedd y symudiad aruthrol i weithio’n ddigidol yn ystod y pandemig wedi cyflymu’r angen i gael rhaglen cymorth sgiliau digidol cydgysylltiedig gwell ar gyfer sector wirfoddol Cymru. Tynnodd sylw at yr angen am gymorth digidol yn y sector, ond dangosodd hefyd botensial a buddiannau trawsnewid digidol. Bydd Newid: digidol i’r trydydd sector, yn adeiladu ar fomentwm y cynnydd ddigwyddodd yn ystod y pandemig, ac yn sicrhau cefnogaeth i’r sector wirfoddol wrth drosglwyddo a datblygu ei wasanaethau mewn tirwedd ddigidol sydd wastad yn newid.