star

Diogelwch Seicolegol: Sut i wneud trawsnewid digidol yn haws i staff eich elusen 

Awdur: Dan Farmer; Amser Darllen: 10 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Mae diogelwch seicolegol yn gwella perfformiad tîm. Mae’n werthfawr iawn i dimau sydd yn cydweithio ar brosiectau digidol. 

Mae’r adnodd yma ar gyfer: 

  • Uwch arweinwyr sydd eisiau creu’r amodau gorau ar gyfer trawsnewid digidol yn eu helusen 
  • Arweinwyr tîm sydd eisiau cefnogi timau i berfformio’n dda 
  • Aelodau tîm 
  • Rhanddeiliaid sydd eisiau cyfrannu at ddiwylliant tîm agored a chynhyrchiol  

Mae’n gosod allan:  

  • Beth yw diogelwch seicolegol? 
  • Manteision i elusennau  
  • Sut mae’n galluogi trawsnewid digidol  
  • Sut allwch chi greu diogelwch seicolegol fel arweinydd neu aelod o dîm 

Beth yw diogelwch seicolegol? 

Diffiniad 

Amy Edmondson fathodd y term diogelwch seicolegol. Mae hi’n ei ddiffinio fel ‘cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi syniadau, cwestiynau, pryderon neu gamgymeriadau, a bod y tîm yn mentro i gymryd risgiau rhyngbersonol.’  

Diogelwch seicolegol: cred bod neb am gael eu cosbi neu eu cywilyddio am godi syniadau, cwestiynau, pryderon neu gamgymeriadau, a bod y tîm yn mentro i gymryd risgiau rhyngbersonol.” – Amy Edmondson 

Felly mae diogelwch seicolegol yn eich galluogi i fod yn onest. Fedrwch chi rannu ac archwilio eich methiannau yn ogystal â’ch llwyddiannau. Rydych yn teimlo’n hyderus i wneud penderfyniadau. Rydych yn gwybod os aiff rhywbeth o’i le, bydd pobl yn ei weld fel arbrawf sydd wedi methu, hynny yw, cyfle i ddysgu gwers.  

Nid dim ond chi sydd angen teimlo fel hyn – ond pawb o’ch cwmpas chi hefyd.  

Pan nad oes diogelwch seicolegol 

Cymharwch yr uchod i beth sy’n digwydd pan nad oes diogelwch seicolegol. 

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi profi diwylliant o rhoi bai yn ein bywydau gwaith neu bersonol. Mewn diwylliant o rhoi bai, mae diogelwch seicolegol yn isel. Mae gan bobl ofn gwneud camgymeriadau. Maent yn gwybod pan aiff rhywbeth o’i le, bydd pobl yn meddwl yn syth am bwy sy’n gyfrifol. Mewn diwylliant fel hyn, mae pobl yn amharod i wneud penderfyniadau. Byddant yn gorliwio llwyddiannau ac yn cuddio methiannau.  

Pan mae diogelwch seicolegol yn bresennol  

Mewn diwylliant gyda diogelwch seicolegol yn uchel mae rhywbeth gwahanol yn digwydd. Mae pobl yn trin canlyniadau annymunol mewn ffordd wahanol. Mae pawb yn cydnabod bod canlyniadau annymunol yn anochel. Felly nid yw pobl sy’n gwneud camgymeriadau yn haeddu cael y bai. 

Yn hytrach, mae pawb yn rhannu’r gred o ‘drin popeth fel arbrawf’. Mewn geiriau eraill, mae methu yn gyfle i ddysgu a dangos chwilfrydedd.  

Mae diogelwch seicolegol yn golygu bod pobl yn teimlo’n hyderus yn cymryd lefelau cymedrol o risg. Maent yn:  

  • Gallu bod yn fwy agored am eu gwaith 
  • Gallu rhannu gwir ganlyniadau eu gwaith, y da a’r drwg  
  • Fwy gonest ac adlewyrchol  
  • Gofyn mwy o gwestiynau  
  • Yn fwy tebygol o herio’r drefn arferol  

4 mantais i elusennau  

Mae yna lawer o fanteision i elusennau wrth gynyddu diogelwch seicolegol o fewn eu timau.  

1. Mwy o wytnwch  

Mae’r tirwedd i elusennau yn newid yn gyson, ac mae adeiladu gwytnwch yn helpu timau i ymateb i hyn. Mae timau sydd â diogelwch seicolegol uchel yn ymateb yn gyflymach i newid. Maent yn dangos gwytnwch pan fu ffactorau allanol yn newid. Maent yn ymateb i heriau gyda hyder ac agwedd gadarnhaol.  

2. Cynyddu arloesedd 

Mae timau sydd â lefelau uchel o ddiogelwch seicolegol yn dda yn arloesi’n gyson. Talwch sylw i elusennau sy’n adeiladu capasiti newydd neu’n dylunio ffyrdd newydd o weithio! 

3. Cynyddu llesiant  

Mae diwylliant o ddiogelwch seicolegol yn ei wneud yn haws i aelodau o staff fod yn onest ac yn agored. Mae hyn yn cefnogi llesiant unigolion a thimau.  

4. Gwella dysgu a datblygu  

Mae diogelwch seicolegol yn annog dysgu effeithiol, i dimau ac i unigolion.  

Mae Google wedi profi effaith gadarnhaol diogelwch seicolegol gyda Phrosiect Aristotle. Roeddent wedi astudio 180 o dimau er mwyn darganfod pa nodweddion oedd yn arwain at berfformiad da. Diogelwch seicolegol  oedd y dangosydd mwyaf dibynadwy o dîm oedd yn perfformio’n dda. 

Sut mae diogelwch seicolegol yn galluogi trawsnewid digidol  

Mae diogelwch seicolegol yn arbennig o bwysig i dimau trawsnewid digidol o fewn elusen.

Delio gyda chymhlethdodau  

Mae trawsnewid digidol yn broses gymhleth. Mae’n amhosib defnyddio eich dull arferol o weithio a bod yn hyderus eich bod am lwyddo. Mae angen i chi ddysgu ac addasu wrth i chi fynd ymlaen.  

A beth ydyn ni’n gwybod sy’n helpu timau i ddod yn dda am ddysgu ac addasu…? Diogelwch seicolegol.  

Gwneud digidol yn llai arswydus 

Mae yna sawl agwedd o waith digidol sydd yn dychryn rhai pobl. Mae’n hawdd anghofio hyn os ydych chi’n gweithio mewn rôl ddigidol.  

Mae’r egwyddorion, iaith ac arfer dda yn y maes digidol wedi newid dros amser. Bydd pobl sydd yn cydweithio gyda thimau digidol ddim bob amser yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf ac yn gallu poeni am wneud camgymeriadau.  

Dydyn ni ddim eisiau iddynt fod ag ofn. Rydym eisiau eu croesawu – rydym angen eu syniadau, egni a chefnogaeth. Bydd canolbwyntio ar ddiogelwch seicolegol yn eich helpu i sicrhau’r amodau yma.  

Datgloi manteision amrywiaeth 

Mae adeiladu amrywiaeth i mewn i’ch strategaeth ddigidol yn llwybr i lwyddiant. Mae cal amrywiaeth o brofiadau, barn a gwybodaeth yn cyfoethogi eich rhaglen.  

Mae diogelwch seicolegol uchel yn annog pobl i rannu amrywiaeth eu profiadau. Mae’n eu helpu i deimlo’n ddiogel ac wedi eu cefnogi a’u croesawu.  

Sut i feithrin diogelwch seicolegol fel aelod o dîm 

Mae pawb yn gallu cyfrannu at adeiladu diogelwch seicolegol. Beth am gychwyn gyda awgrymiadau gall pawb eu defnyddio? Yna fe wnawn ni rannu cyfleoedd ar gyfer rheolwyr ac uwch arweinwyr.  

1. Byddwch yn agored 

Y peth cyntaf i’w wneud er mwyn meithrin diogelwch seicolegol yw dod i arfer bod yn agored ac yn onest.  

Does dim rhaid i chi ddatgelu pethau mawr bob dydd. Yn hytrach, gwnewch bod yn agored yn arferiad. Byddwch yn agored pan nad yw rhywbeth wedi gweithio neu pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad. Os nad ydych yn siŵr am rywbeth, archwiliwch eich gwaith yn gyhoeddus.  

Drwy wneud hyn yn arferiad, rydych yn normaleiddio’r ymddygiad yma o fewn eich tîm. Fel mae eraill yn sylwi ar eich ymddygiad byddent yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gwneud yr un peth.  

2. Gwnewch le i eraill  

Ym mhob ystafell, bydd rhai pobl yn fwy swnllyd ac eraill yn dawelach. Mae’r rhai sydd yn dawelach yn gorfod cyfrannu’r un faint a’r unigolion mwy swnllyd. Dyma un o ganfyddiadau Prosiect Aristotle. Fe welwyd bod gan nodweddion allblyg unigolion ddim cysylltiad gyda effeithlonrwydd tîm.  

Gydag ychydig o feddwl, fe allwch chi helpu pawb yn yr ystafell deimlo’n gyfforddus i gyfrannu at drafodaethau.  

Weithiau, mae’n fater o roi gofod i rywun arall. Neu yn lle gwneud cyfraniad arall eich hunain, beth am wahodd rhywun arall i mewn i’r sgwrs.  

Os mai chi sy’n gyfrifol am drefnu trafodaeth, cynigiwch amryw o ffordd o gyfrannu. Casglwch syniadau gan bobl cyn, yn ystod ac ar ôl y sesiwn.  

3. Modelwch yr her gefnogol 

Mae yna ffordd o herio’r drefn bresennol heb ymosod ar unrhyw un. Gwrandewch, dewch o hyd i dir cyffredin, ac yna heriwch drwy ofyn cwestiynau ystyriol. Cynigiwch eich syniad fel posibilrwydd yn hytrach na phenderfyniad pendant.  

Mae hyn i gyd yn gosod sylfaen i’ch tîm anghytuno mewn modd cynhyrchiol. Yna fedrwch chi weithio gyda’ch gilydd er mwyn canfod datrysiadau gwell.  

4. Ystyriwch popeth fel arbrawf 

Mae hyn er mwyn newid eich meddylfryd. Yn lle meddwl am fethiannau fel rhywbeth drwg, meddyliwch amdanynt fel cam ar y ffordd tuag at rywbeth gwell.  

Siaradwch am fethiannau, ac anogwch eich tîm i wneud yr un peth. Unwaith y byddwch chi’n ail ddiffinio beth yw methu, fedrwch chi drin popeth fel arbrawf. O dan yr amodau yma bydd dim angen cuddio methiannau gan eu bod yn allweddol ar gyfer datblygu a gwella. 

Darllenwch Mindset gan Carol Dweck (neu gwyliwch ei Ted Talk) i ddysgu mwy. 

Sut i feithrin diogelwch seicolegol fel rheolwr neu uwch arweinydd 

Yn ogystal â’r argymhellion uchod, fe all arweinwyr wneud y canlynol: 

1. Addaswch i ffordd o weithio eich tîm 

Fel arweinydd mae gennych gyfle i adeiladu arfer da i fewn i ffordd o weithio eich tîm.  

Meddyliwch am y ffordd fedrwch chi wneud yr argymhellion uchod yn rhan o weithredoedd eich tîm. Ymgorfforwch nhw mewn agenda cyfarfodydd, adolygiadau perfformiad, prosesau anwytho a chyfweliadau gadael.  

2. Rhowch eich pennau ynghyd  

Un o’r nodweddion mwyaf pwerus fedrwch chi ei arddangos fel arweinydd yw gwrando ac ymgynghori. Wrth wrando ar bobl; byddant yn teimlo eich gwerthfawrogiad ohonynt ac yn teimlo’n ddiogel i rannu a herio. Mae ymgynghori gyda’ch cydweithwyr yn creu diogelwch seicolegol.   

3. Rhannwch newid mewn da bryd 

Fel arweinydd byddwch yn aml yn cael gwybod am newid cyn eich cydweithwyr. Bydd pobl yn aml yn teimlo bod newid ar y gweill neu yn clywed sïon. Felly rhannwch wybodaeth gyda’ch tîm cyn gynted a bod modd gwneud.  

Hyd yn oed os nad oes gennych y darlun llawn, rydych yn creu diogelwch seicolegol drwy rannu’r hyn yr ydych yn ei wybod. Byddwch yn agored am yr hyn nad ydych yn ei wybod. Mae hyn yn well na cadw gwybodaeth i’ch hyn am amser hir.  

4. Dangoswch bryder  

Drwy ddangos pryder am eich cydweithwyr rydych yn dangos eich bod yn eu gweld nhw fel pobl. Gwnewch amser i rannu diweddariadau gyda aelodau o’ch tîm a gwelwch y gwerth o wneud hynny.  

5. Ystyriwch eich dull o arwain 

Roedd astudiaeth gan Mckinsey  yn edrych ar y cysylltiad rhwng diogelwch seicolegol a dulliau o arwain. Fe ddarganfyddwyd bod arweinyddiaeth ymgynghorol a chefnogol yn creu diogelwch seicolegol  

Roedd yr astudiaeth hefyd yn dangos:  

  • Gall arweinyddiaeth heriol greu diogelwch seicolegol o dan amodau penodol  
  • Mae arweinwyr awdurdodaidd yn cael effaith ddrwg ar eu cydweithwyr  

Darllen pellach  

Dysgwch fwy am ddiogelwch seicolegol a sut i’w feithrin yn eich elusen:  

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst