star

Deg awgrym i arweinwyr digidol newydd elusennau   

Awdur: Pauline Roche; Amser Darllen: 10 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Pan oeddwn yn tyfu i fyny yng Ngorllewin Iwerddon yn y 1970au, sefydlwyd cwmni newydd o’r enw Digital Equipment Corporation. Cafodd ei adnabod yn lleol fel ‘Digital’ ac roedd 600 o bobl yn gweithio yno pan agorodd.   

Erbyn heddiw, dros y byd, mae bron pawb dwi’n eu ‘nabod yn gweithio yn y maes digidol mewn rhyw ffordd, yn defnyddio’r dechnoleg ac ychydig o’r diwylliant, prosesau a modelau busnes o oes y rhyngrwyd er mwyn ymateb i ddisgwyliadau uwch pobl – i aralleirio’r arbenigwr digidol Tom Loosemore.   

Ond mae nifer o bobl wedi cael eu tynnu mewn i’r gwaith, a rŵan yn archwilio be mae’n ei olygu i fod yn arweinydd digidol yn eu helusennau.    

Os mai chi yw’r un sydd newydd gychwyn fel arweinydd digidol i’ch elusen – sut mae’n mynd hyd yn hyn? Ydych chi’n gwybod ble i ddechrau? Oes ‘na rhywun wedi gofyn i chi ddarparu gwasanaeth newydd drwy ddefnyddio technoleg?   

Pwrpas yr erthygl yma yw cynnig awgrymiadau cyffredinol ar sut i sicrhau llwyddiant fel arweinydd digidol, wedi’i seilio ar fy mhrofiad o gydweithio a chefnogi pobl sy’n gwneud yr un peth.   

Cymerwch olwg ar yr arweiniad   

Os ydych erioed wedi meddwl “beth sydd angen i mi wybod?” am dechnoleg, mae edrych ar awgrymiadau’r llywodraeth, Fframwaith sgiliau digidol hanfodol, yn le da i gychwyn. Mae pum rhan; cyfathrebu, delio gyda chynnwys a gwybodaeth, gweithredu, datrys problemau a bod yn ddiogel a chyfreithlon ar lein. Gall ystyried y fframwaith hwn wneud i chi deimlo’n fwy hyderus am eich sgiliau, a’ch helpu i benderfynu ble y gallech wella eich hun a’ch sefydliad.  

Efallai y byddwch yn meddwl “Be mae fy sefydliad angen ei wybod?” ac mae yna sawl ffordd o fesur eich aeddfedrwydd digidol, megis yr un gan NCVO, un gan SCVO a phost blog gyda rhestr wirio ddefnyddiol gan Kayleigh Alexandra.   

Peidiwch â meddwl bod angen newid popeth   

Weithiau mae’r iaith mae pobl sy’n defnyddio technoleg bob dydd yn gallu bod yn annifyr. Weithiau mae defnyddio termau fel ‘trawsnewid digidol’ yn gallu llethu rhywun, ac yn awgrymu bod rhaid i chi newid popeth am eich sefydliad. Fel person sy’n cychwyn archwilio posibiliadau technoleg, gall deimlo’n anodd gwybod ble i ddechrau.   

Ar ben hynny, mae’n bosib bod cyfrifoldeb am dechnoleg yn dasg ychwanegol ar ben eich cyfrifoldebau eraill. Mae’n bosib nad oedd gan eich swydd ‘digidol’ yn y teitl neu yn y swydd ddisgrifiad, a’r peth olaf rydych chi angen ydi rhywbeth arall i boeni amdano.   

Yn benodol, pan mae pobl yn trafod trawsnewid digidol, mae’n rhoi’r argraff bod rhaid i chi newid holl systemau eich elusen.   

Ond mae sawl un o’r systemau yn gweithio. Efallai nad ydy nhw’n gweithio’n dda, ond mae pawb yn y sefydliad yn fodlon gyda’r ffordd maent yn gweithio, a ddim yn awyddus i dreulio amser yn newid pethau. Mae amser fel aur i elusennau bach felly mae newid sylweddol, fel arfer newid systemau, yn golygu goblygiadau mawr i bawb sydd ynghlwm â’r gwaith.   

Gofynnwch y ‘cwestiynau gwirion’  

Ni allwn ni i gyd gofio sut i wneud popeth drwy’r amser, a phan rydyn ni dan bwysau, rydyn ni’n anghofio rhai o’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu. Felly mae angen i bobl sy’n rhannu eu sgiliau gyda ni, yn enwedig sgiliau digidol, fod yn amyneddgar ac yn barod i ailadrodd pethau, weithiau sawl gwaith. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer pobl sydd wedi hen arfer â thechnoleg sy’n ymuno â byrddau elusennau bach – ond mae hynny’n flog arall!   

Adeiladwch rwydweithiau   

Mae yna sawl rwydwaith defnyddiol iawn ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, ble mae grwpiau fel Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu i’r Trydydd Sector neu Sgwrs Codi Arian yn bodoli. Mae X (Twitter gynt) yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mae pobl yn gofyn bob math o gwestiynau am dechnoleg gyda’r hashnod #lazyweb gyda amrywiaeth o atebion, rhai yn ddefnyddiol iawn.   

Gwnewch ychydig o “ddarganfod”   

Mae darganfod yn un o’r geiriau mae pobl dechnolegol yn ei ddefnyddio i ddisgrifio eu gwaith ar gychwyn prosiect. Mae’n cynnwys adnabod ffiniau’r prosiect, be mae pobl eisiau ei gyflawni (yn cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth), beth yw’r prif rwystrau, a beth sydd angen ei wneud i symud y prosiect ymlaen i’r cam nesaf. Mae’n derm da i fod yn gyfarwydd ag o wrth i chi setlo fewn i’ch rôl newydd.   

Dewch o hyd i’ch pobl   

Y peth gwych am fod yn arweinydd digidol mewn elusen fach yw nad chi yw’r unig un ar y daith yma. Bydd eich cylch yn cynnwys pobl y gallwch chi gael cyngor dibynadwy ganddynt a fedrwch chi werthfawrogi eu barn. Bydd eu profiadau a’u gwerthoedd yn debyg iawn i’ch rhai chi.   

Fel mae’r hen gân o’r comedi Americanaidd Cheers yn mynd, mae ‘na lefydd ble mae pawb yn gwybod eich enw, a bob amser yn falch eich bod wedi dod – mae’r llefydd yma ar gael ar y we, drwy Facebook a Twitter, a byddwn i’n argymell eich bod yn ymuno â nhw os nad ydych chi wedi yn barod, i ddod o hyd i bobl debyg i chi.   

Fel arweinydd digidol, bydd cyfleoedd i gysylltu gyda phobl mewn sefydliadau eraill sy’n gwynebu heriau tebyg i chi: trio gwneud i rywbeth weithio mewn ffordd wahanol, gyda thechnoleg sy’n newydd neu’n anghyfarwydd, gweithio gyda phobl ar bobl lefel sydd efallai yn gyndyn o newid.   

Efallai na fydd rhai pobl yn gweithio yn yr un sector â chi, ac mae hynny’n iawn. Mae pethau sy’n gweithio mewn un sector yn gallu cael eu trosglwyddo i sectorau eraill. Rwyf wedi cwrdd â nifer o bobl hynod o ddefnyddiol drwy fynychu cyfarfodydd cwrdd a unconferences   

Peidiwch â bod ofn   

Mae’n annhebygol iawn i chi dorri eich cyfrifiadur, oni bai eich bod yn tollti diod poeth drosto (plîs peidiwch â thrio hyn) felly peidiwch â bod ofn trio meddalwedd newydd cyn belled â’ch bod yn hyderus o ble mae wedi dod. Fedrwch chi ei ddadosod os nad yw’n gwneud beth oedd ei angen arnoch chi neu’n arafu eich system. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i rywun yn eich cylch, neu ewch i chwilio ar YouTube. 

Meddyliwch eto am greu o’r newydd 

Efallai eich bod yn meddwl na all unrhyw system bresennol ddelio gyda anghenion penodol eich sefydliad, ac os ydych yn ystyried awtomateiddio efallai eich bod yn meddwl bod angen creu rhywbeth o’r newydd, wedi’i ddylunio ar gyfer defnyddwyr eich gwasanaeth.    

 Y gwirionedd yw, bod y rhan fwyaf o systemau sy’n bodoli’n barod yn gallu cael eu haddasu neu’n teilwra i ddiwallu eich anghenion. Cysylltwch gyda grŵp o ddefnyddwyr neu gymuned ar-lein sydd gan brofiad gyda’r system rydych yn ei ystyried a gofynnwch iddyn nhw am y system cyn ei ddefnyddio.    

Rheoli eich uwch arweinwyr    

Efallai nad yw eich Prif Weithredwr neu uwch arweinwyr wedi eu darbwyllo am ddigidol, ac fe all hynny fod yn her os ydych yn trio symud prosiectau digidol ymlaen. Byddai’n ddefnyddiol i chi (a nhw) pe baent ar gyfryngau cymdeithasol ac yn dod i gysylltiad ag eraill mewn sefyllfa debyg.  Ond ym mha bynnag ffordd, mae’n bwysig eich bod mewn cysylltiad rheolaidd gyda’r Prif Weithredwr a’r uwch arweinwyr i’w helpu i ddeall be ydych chi’n ei gyflawni. Rwyf yn cynnig sesiynau ar ‘Rheoli dy reolwr’ yn sawl un o’r digwyddiadau rwyf yn ei mynychu.    

Gwnewch y mwyaf o’r cymorth sydd ar gael  

Nid oes gan y rhan fwyaf o arweinwyr digidol mewn elusennau bach yr amser na’r awydd i ddarllen adroddiadau hir, neu fynychu digwyddiadau digidol – maent angen gwybodaeth a data y gallent ei ddeall a’i ddefnyddio yn weddol gyflym, er mwyn gwneud y mwyaf o’u hamser a peidio esgeuluso gweddill eu tasgau chwaith, yn sicr ar ddechrau eu taith fel arweinydd digidol.  

Sut ydych yn penderfynu beth sydd orau i’w fynychu, a pa sefydliadau sydd yn ddibynadwy, pan mae hyd yn oed pobl sydd gan flynyddoedd o brofiad yn cael trafferth gyda hyn?    

Dydych chi ddim eisiau gwastraffu eich amser yn mynychu hyfforddiant a chynadleddau amherthnasol oherwydd eu bod ddim yn canolbwyntio ar elusennau bach.    

 Yn ffodus, mae yna adnoddau defnyddiol ac ystyriol yn dod gan sefydliadau ac unigolion sydd eisiau rhoi cymorth i weithwyr elusennau ar eu taith ddigidol – rwyf wedi rhestru rhai dwi’n ymwybodol ohonynt yn nhrefn yr wyddor:    

BeMoreDigital – gofod dysgu ar-lein ar gyfer gweithwyr elusennau, cyrff anllywodraethol a mentrau cymdeithasol    

Catalyst – menter elusennol sy’n cynnwys asiantaethau, arianwyr a mudiadau dielw i helpu sefydliadau elusennol gynyddu gwytnwch a gallu i gyrraedd eu nod wrth ddefnyddio technoleg   

Charity Catalogue – cyfeiriadur ar-lein sy’n rhoi cymorth i sefydliadau dielw ddarganfod yr adnoddau ar-lein gorau i’w sefydliad.    

Charity Digital – elusen a sefydlwyd i helpu elusennau eraill i ddefnyddio technoleg i gyrraedd eu nod yn gynt wrth gynnig cynllun rhodd TG (a elwid gynt yn Tech Trust) – dywedant – “Mae ein gwasanaethau yn gwella ymwybyddiaeth a mynediad, yn cysylltu elusennau gyda’r arbenigedd digidol maent ei angen, ac yn codi’r bar ar gyfer sgiliau a dealltwriaeth ddigidol ar gyfer bob math o fudiadau dielw.”   

Digital Candle – awr o gyngor digidol am ddim i elusennau gan arbenigwr, fe gewch chi ofyn unrhyw gwestiynau, eang neu arbenigol – dywedant  “Gall elusennau gael cyngor ar unrhyw agwedd o ddigidol, o farchnata a strategaethau digidol i hysbysebion Google, ac o ddarparu gwasanaeth o bell i gyfryngau cymdeithasol”   

Digital WM News – e-fwletin misol i gynyddu cynhwysiad, sgiliau a gwybodaeth ddigidol yn y sectorau gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol, gyda chynnwys o’r we yn cael ei lunio a’i guradu gan y newyddiadurwr Pauline Roche (fi) – yn cynnwys newyddion, digwyddiadau ac adran adnoddau.    

Dovetail – cyfeiriadur i helpu elusennau ddod o hyd i asiantaeth ddigidol    

Dr Tech show ar YouTube – sioe am fod ar-lein, cychwynnwyd gan yr efengylwr ar-lein y diweddar John Popham ac yn parhau gyda’i gyd-gyflwynwyr newyddiadurwr Pauline Roche (fi eto) a rheolwr TG yn y sector gyhoeddus Sweyn Hunter   

Tech for good live – digwyddiadau a phodlediadau gan grŵp o bobl sydd yn gweithio yn y maes technoleg, sydd yn credu bod technoleg yn gallu cael ei ddefnyddio er budd cymdeithasol.    

Peidiwch â phoeni am beidio gwybod yr atebion   

‘Does ‘na ddim disgwyl bod gennych chi’r holl atebion ar gychwyn eich taith. Rydych yn dysgu, ac mae hynny’n iawn. Fel mae amser yn mynd heibio, byddwch yn gwneud cynnydd ac yn dod o hyd i’r datrysiadau gorau i’ch elusen.    

Cadwch mewn cysylltiad    

Os oes gwybodaeth yma sydd wedi bod o gymorth i chi, neu wedi gwneud i chi feddwl a gofyn cwestiynau, byswn wrth fy modd clywed gennych chi. Rwyf ar gael ar @paulineroche ar X (Twitter gynt).   

Byddai’n wych clywed os ydych chi wedi defnyddio rhai o’r adnoddau dwi wedi eu rhestru. Ydych chi wedi cael cyngor? Oedd o’n ddigon? Beth arall ydych chi angen?    

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst