Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI

Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth? 

Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb. 

Yr hyn byddech chi’n ei wneud:

Arwain gydag Angerdd: Ysbrydoli ein tîm ac aelodau’r gymuned i gyrraedd uchelfannau newydd. 

Rheoli’n Effeithlon: Goruchwylio’r gweithrediadau o ddydd i ddydd, sicrhau canolfan sydd yn rhedeg yn esmwyth. 

Datblygu gyda Gweledigaeth: Adnabod cyfleoedd tyfiant a gweithredu rhaglenni arloesol. 

Cydweithio â Phwrpas: Cynnal perthnasau cryf gyda rhanddeiliaid, partneriaid, a thenantiaid. 

Ymgysylltu’n Frwdfrydig: Meithrin synnwyr o berthyn gyda digwyddiadau a gweithgareddau difyr.  

Yr hyn sydd ei angen arnoch: 

Angerddol: Yn credu yng ngrym cymuned ac wedi ymrwymo i gael effaith bositif. 

Trefnus: Aml-dasgwr medrus sydd yn gallu ymdrin â sawl cyfrifoldeb yn rhwydd. 

Creadigol: Yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs a datblygu datrysiadau arloesol.  

Cydweithredol: Yn rhan o dîm sydd yn gallu gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol. 

Gwydn: Yn gallu addasu i newid a goresgyn heriau gydag agwedd bositif. 

Yr hyn rydych chi’n ei gynnig:  

– Angerdd dwfn dros ddatblygu cymunedau a mentrau diwylliannol. 

– Profiad profedig mewn rheoli prosiectau, arwain tîm, a rheolaeth ariannol. 

– Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i feithrin perthynas â phobl o bob cefndir. 

– Meddylfryd creadigol ac arloesol, wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd i gyfoethogi cynigion y Ganolfan. 

– Agwedd hunan cychwynnol gyda’r gallu i flaenoriaethu tasgau a gweithio’n annibynnol. 

Ymunwch â ni i greu dyfodol disglair i’n cymuned! 

Ymholiadau: people@promo.cymru neu 0736 634686  

Os ydych chi’n barod i wynebu’r her gyffrous yma, cyflwynwch eich cais. 

Dyddiad Cau:  12pm Tachwedd 30th 2024 

Dyddiadau Cyfweld: Rhagfyr 17th,18th 2024. 

E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru

Andrew Collins
14 Tachwedd 2024

star

Newyddion

star

Swyddi

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru

Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.  Gwybodaeth am y prosiect ymchwil  Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng […]

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889