Hysbyseb Swydd – Rheolwr Canolfan EVI
Ydych chi’n angerddol am ddatblygiad cymunedol ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth?
Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan EVI deinamig a phrofiadol i arwain ein hwb cymunedol bywiog. Fel Rheolwr Canolfan, byddech yn chwarae rhan bwysig iawn yn y nod i greu gofod croesawus, cynhwysol, a ffyniannus i bawb.
Yr hyn byddech chi’n ei wneud:
– Arwain gydag Angerdd: Ysbrydoli ein tîm ac aelodau’r gymuned i gyrraedd uchelfannau newydd.
– Rheoli’n Effeithlon: Goruchwylio’r gweithrediadau o ddydd i ddydd, sicrhau canolfan sydd yn rhedeg yn esmwyth.
– Datblygu gyda Gweledigaeth: Adnabod cyfleoedd tyfiant a gweithredu rhaglenni arloesol.
– Cydweithio â Phwrpas: Cynnal perthnasau cryf gyda rhanddeiliaid, partneriaid, a thenantiaid.
– Ymgysylltu’n Frwdfrydig: Meithrin synnwyr o berthyn gyda digwyddiadau a gweithgareddau difyr.
Yr hyn sydd ei angen arnoch:
– Angerddol: Yn credu yng ngrym cymuned ac wedi ymrwymo i gael effaith bositif.
– Trefnus: Aml-dasgwr medrus sydd yn gallu ymdrin â sawl cyfrifoldeb yn rhwydd.
– Creadigol: Yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs a datblygu datrysiadau arloesol.
– Cydweithredol: Yn rhan o dîm sydd yn gallu gweithio’n effeithiol gyda rhanddeiliaid amrywiol.
– Gwydn: Yn gallu addasu i newid a goresgyn heriau gydag agwedd bositif.
Yr hyn rydych chi’n ei gynnig:
– Angerdd dwfn dros ddatblygu cymunedau a mentrau diwylliannol.
– Profiad profedig mewn rheoli prosiectau, arwain tîm, a rheolaeth ariannol.
– Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, gyda’r gallu i feithrin perthynas â phobl o bob cefndir.
– Meddylfryd creadigol ac arloesol, wastad yn chwilio am gyfleoedd newydd i gyfoethogi cynigion y Ganolfan.
– Agwedd hunan cychwynnol gyda’r gallu i flaenoriaethu tasgau a gweithio’n annibynnol.
Ymunwch â ni i greu dyfodol disglair i’n cymuned!
Ymholiadau: people@promo.cymru neu 0736 634686
Os ydych chi’n barod i wynebu’r her gyffrous yma, cyflwynwch eich cais.
Dyddiad Cau: 12pm Tachwedd 30th 2024
Dyddiadau Cyfweld: Rhagfyr 17th,18th 2024.
E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru
Andrew Collins
14 Tachwedd 2024
Newyddion
Swyddi
Erthyglau Perthnasol
Swyddi
Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau
Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel! Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]
Swyddi
Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg
Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]