star

Sut gall sgrialfwrdd a beic modur eich addysgu am gynllunio gwasanaethau digidol

Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.

Mae cynllunio gwasanaeth yn croesawu ansicrwydd. Mae cymaint nad ydym yn ei wybod ar ddechrau prosiect. Hyd yn oed ar ôl gwneud ymchwil defnyddwyr da, ni allwch fod yn sicr sut y bydd eich defnyddwyr yn ymateb neu faint bydd eich gwasanaeth yn diwallu eu hanghenion.

Dyna pam mae cynllunio iteraidd yn bwysig.

“Methodoleg cynllunio yw dylunio iteraidd sy’n seiliedig ar broses gylchol o brototeipio, profi, dadansoddi a mireinio cynnyrch neu broses. Yn seiliedig ar ganlyniadau profi iteriad diweddaraf cynlluniad, gwneir newidiadau a mireinio.” – Wicipedia (ie, nid yw’n gywir bob amser ond yn yr achos yma rydym yn hoffi’r disgrifiad)

Felly, sut mae sgrialfyrddau a beiciau yn berthnasol i hyn?

Credyd: Henrik Kniberg

Mae’r ddelwedd drosiadol yma gan Henrik Kniberg o Spotify (ei erthygl wreiddiol ysbrydolodd y post yma) yn ymddangos yn hunanesboniadol. Ond mae yna fwy iddo.

Sut roedd pethau’n arfer cael eu gwneud

Fel hyn roedden ni’n arfer ei wneud.

non-iterative car building process

Mae hyn yn cael ei adnabod fel Rhaeadr neu ddatblygiad Glec Fawr. Rydych chi’n nodi holl nodweddion eich gwasanaeth neu gynnyrch i gychwyn ac yna’n ei adeiladu. Ond sylwch nad oes defnyddiwr yn y llun yma, gan nad ydynt yn cymryd rhan nes y diwedd.

Pedwar rheswm i beidio â’i wneud fel hyn

  • Mae’n cymryd amser hir
  • Nid yw’r defnyddiwr yn cael dim gallant ei ddefnyddio nes y diwedd
  • Nid yw’n bosib profi gyda defnyddwyr. Ni allwch brofi set o olwynion o’r maint yma.
  • Bydd ddiffygion cynllunio gan y cynnyrch terfynol. Gan nad yw rhagdybiaethau cynnar wedi eu profi. Mae’n annhebyg bydd y defnyddiwr yn gwenu fel yn y llun.

Felly beth ddylem ni ei wneud yn lle hynny?

Canolbwyntio ar yr angen sylfaenol yn gyntaf

Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd opsiynau pellach yn agored i chi. Beth yw’r broblem sylfaenol a beth yw’r peth lleiaf y gallwn ei brofi i’w datrys?

Yn yr achos yma’r broblem yw bod y defnyddiwr eisiau mynd o A i B. Ond nid ceisio rhoi datrysiadau fydd yn eu gwneud yn hapus ydym ni ar y pwynt yma (dyma pam nad ydynt yn hapus yn y llun). Dim ond diddordeb mewn dysgu ganddynt sydd.  Mae sgrialfwrdd yn eithaf syml i’w wneud a dysgu ohono. Mae’ n hawdd gofyn am adborth arno. Mae’n cynrychioli’r datrysiad lleiaf y gellir ei brofi.

Os nad oeddem eisiau creu sgrialfwrdd, gallwn ni roi tocyn bws iddynt hefyd a gofyn am y profiad yno. Ond efallai ein bod yn gwybod eisoes nad yw’r bws yn cyrraedd anghenion y defnyddiwr.

iterative build from skateboard to car

Teithiau byrrach yn dod yn deithiau hirach

Mae’r sgrialfwrdd yn gweithio, rhywfaint. Ond i’r mwyafrif ni fydd hwn yn ddefnyddiadwy iawn. Mae’n anodd ei ddysgu ac nid yw’n gyflym iawn.

Yn yr iteriad nesaf mae ychwanegu handlebar yn ei wneud yn haws i’w ddefnyddio. Gallwch chi gydbwyso’n well a theithio’n bellach. Mae’n sgwter nawr ac wedi dod yn fwy defnyddiadwy. Mae rhai pobl yn galw hwn y lleiafswm cynnyrch defnyddiadwy.

Ond mae coesau pobl yn dal i flino. Ac weithiau maent eisiau teithio ymhellach a chyrraedd yn llai chwyslyd.

Defnyddiadwy yn troi’n hoffi

Felly rydych chi’n iteru eto ac yn adeiladu beic iddynt. Mae ei gynlluniad mwy cymhleth yn golygu ei fod yn well ar gyfer teithiau hirach. Felly ni allwch ei ddefnyddio i wibio o gwmpas y swyddfa mwyach. Ond mae’n mynd â chi i ‘r gwaith ac ar draws y parc yn gyflym ac yn effeithlon.

Ac mae’n hwyl beicio a theimlo’r awel. Mae’n debyg mai hwn yw’r lleiafswm cynnyrch hoffus.

Ond, oni bai eich bod yn frwd dros feicio mae’n dal yn flinedig i’w ddefnyddio ar y daith penwythnos yna o Lundain i Gernyw. A phwy sydd eisiau cyrraedd eu cyfweliad swydd fore Llun yn chwyslyd?

Mae’r beic modur yn ddigon

Mae’r beic modur yn datrys y broblem. Mae’n trosglwyddo’r defnyddiwr o A i B yn gyflym heb ymdrech, hyd yn oed 200 milltir i ffwrdd. Maent yn hapus gan eu bod nhw’n parhau i deimlo’r gwynt ar eu hwynebau.

Gallech chi stopio fan hyn. Rydych chi wedi datrys y broblem.

Ond efallai byddech chi’n darganfod bod rhai defnyddwyr eisiau teithio â’i gilydd, neu eisiau teithio gyda phlant. Felly rydych chi’n adeiladu car heb do, fel eu bod yn teimlo’r gwynt yn eu hwyneb o hyd wrth deithio gydag eraill.

A beth os yw’n bwrw glaw? Yna rydych chi’n adeiladu to.

Pam na fedrwch chi wybod popeth o flaen llaw

Mae’n hawdd edrych ar y trosiad car a meddwl y gallwn ni fod penderfynu beth i’w adeiladu o flaen llaw. Mae’n haws meddwl fel hyn gyda’r esiampl yma hefyd gan fod car yn gynnyrch mor gyfarwydd.

Os ydych chi’n dadansoddi’n dda o flaen llaw yna gallech chi feddwl am rhai datrysiadau. Er enghraifft, efallai mai’r broblem wreiddiol oedd mynd â phlant i’r ysgol yn y glaw. Gallech fod wedi cychwyn gyda sgrialfwrdd (neu ddau) o hyd, gyda chotiau glaw, neu wedi creu prototeip o feic a threlar.

Ond nid yw bywyd go iawn fel hyn. Ni fydd unrhyw ymchwil neu ddadansoddiad yn dweud beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio’ch cynnyrch. Byddech chi’n rhagdybio o hyd. Ac mae rhagdybiaethau a diffyg profion yn arwain at fethiannau.

RHAI METHIANNAU ENWOG

  • Gêm ar-lein Lego Universe – ceisio ei adeiladu i berffeithrwydd cyn ei ryddhau
  • App Radar – nid oedd app y Samariaid wedi’i brofi’n dda iawn
  • Ceir trydan Israel – gwrthod lansio nes bod ganddynt rwydwaith llawn o orsafoedd gwefru

RHAI LLWYDDIANNAU ENWOG

  • Zappos – profi gwerthiant esgidiau ar-lein gan ddefnyddio lluniau o esgidiau o siop i lawr y ffordd
  • Lego – mae gan ddylunwyr Lego swyddi cŵl ac yn cael profi cymeriadau a chitiau newydd gyda phlant go iawn yn gyntaf
  • Spotify – wedi profi os byddai ffrydio ar-lein yn gweithio’n ddigon cyson cyn iddynt fynd ati i adeiladu rhyngwyneb

Dysgwch i iteru wrth gynllunio

Dysgwch sut i adeiladu sgrialfwrdd gwasanaeth digidol eich hun gyda’n Hops Cynllunio. Byddwn yn eich dysgu sut i ddefnyddio egwyddorion cynllunio gwasanaeth digidol i heriau darparu gwasanaeth eich sefydliad. Cofrestrwch yma (mae am ddim).

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst