Datganiad Deallusrwydd Artiffisial

Ein Gwerthoedd

Mae ProMo Cymru yn cofleidio technoleg i gefnogi ein cenhadaeth i Gyfathrebu, Cynllunio, Adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau er mwyn cyflawni newid. Fel rhan o hyn, rydym yn defnyddio adnoddau deallusrwydd artiffisial (AI) i fwyhau ein ffordd o weithio – yn fewnol ac mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector ledled Cymru.

Ar yr un pryd, rydym yn ystyried y foeseg, risgiau a chyfrifoldebau o ddefnyddio’r rhain yn ofalus iawn.

Ar y dudalen yma, rhannwn sut a pham rydym yn defnyddio AI yn ProMo.

Pam rydym yn defnyddio AI?

Rydym yn buddsoddi mewn dysgu am AI, fel y gallwn gymhwyso hyn i’n gwaith gyda’r nod o gynyddu ein heffaith a’n cynaliadwyedd.

Rydym yn rhannu ein harbenigedd a’n gwybodaeth i helpu’r sector, gyda phrosiectau fel DigiCymru a Newid, yn darparu hyfforddiant a chreu adnoddau. 

Rydym yn archwilio sut y gallai AI ein helpu i:

  • Ryddhau amser staff a chreu capasiti, lleihau gweinyddiaeth a gwella ein prosesau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio Zoom AI Companion ar gyfer nodiadau cyfarfodydd mewnol, ChatGPT a Claude i greu copi drafft cyntaf ar gyfer cynnwys, a NotebookLM ar gyfer atebion cyflymach i ymholiadau polisi mewnol.
  • Cyflwyno ein gwasanaethau mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan ganolbwyntio ar hygyrchedd. Er enghraifft, rydym yn defnyddio Firebase Studio i greu prototeipiau o raglenni gwe, ac Airtable i gefnogi ein staff llinell gymorth i gael mynediad at wybodaeth a chreu nodiadau achos yn gyflymach, gan ganiatáu iddynt dreulio mwy o amser yn siarad â defnyddwyr ein gwasanaeth.
  • Meithrin sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd sefydliadau trydydd sector yng Nghymru, yn eu cefnogi i gynyddu eu heffaith wrth fabwysiadu technoleg ddigidol. Er enghraifft, trwy wasanaeth DigiCymru a ariennir gan y Loteri Gymunedol, yn ogystal â chyflwyno sgyrsiau, cyflwyniadau a hyfforddiant.

Ein Hegwyddorion ar gyfer defnydd cyfrifol

  • Atebolrwydd: Rydym yn cadw person yn rhan o’r broses bob tro, sy’n golygu ein bod yn gyfrifol ac yn atebol am yr allbwn.
  • Tryloywder: Rydym yn agored ynglŷn â pham a sut rydym yn ei ddefnyddio
  • Bwriad gofalus: Rydym yn ystyried effeithiau AI a sut y gallwn ei ddefnyddio’n fwriadol i gyflawni ein cenhadaeth.
  • Rhannu gwybodaeth: Rydym yn buddsoddi mewn dysgu am AI, fel y gallwn gymhwyso hyn i’n gwaith, cynyddu ein heffaith a chefnogi’r trydydd sector.
  • Preifatrwydd: Ni fyddwn yn rhannu eich data gydag offer AI heb eich caniatâd.
  • Amgylchedd: Rydym yn cydnabod bod gan AI gost amgylcheddol, ac nid oes gennym yr holl atebion eto ynglŷn â sut i fynd i’r afael â hyn. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu, addasu ein harferion, a rhannu’r hyn a ddarganfyddwn.

Adnoddau ac Offer

Egwyddorion AI y Loteri Genedlaethol
https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/thinking-of-applying-for-funding/using-artificial-intelligence-tools-in-funding-applications

Templed: Adnodd Asesu Risg Deallusrwydd Artiffisial
https://www.newid.cymru/cy/adnodd-asesu-risg-ai-am-ddim-ir-trydydd-sector/

Cyfrifiannell Ynni Deallusrwydd Artiffisial EcoLogits (Saesneg yn unig)
https://huggingface.co/spaces/genai-impact/ecologits-calculator 

Arolwg AI ProMo Cymru
https://form.typeform.com/to/OKOdLhps

Deallusrwydd artiffisial a safonau’r Gymraeg
https://www.comisiynyddygymraeg.cymru/newyddion/deallusrwydd-artiffisial-a-safonau-r-gymraeg

Os ydych chi angen cymorth gydag AI. neu unrhyw heriau digidol eraill rydych chi’n wynebu, mae DigiCymru  yn cynnig cymorth digidol un i un i holl sefydliadau trydydd sector Cymru

Os oes gennych chi ymholiadau am AI, neu am y datganiad yma, cysylltwch ar info@promo.cymru


Charity number: 1094652
Company number: 01816889