star

Creu Gwefannau Dielw Proffesiynol gyda Canva: Datrysiad Ymarferol



Awdur: ; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae llawer o sefydliadau bach yn y trydydd sector ledled Cymru yn wynebu’r un her yn gyson: sefydlu presenoldeb proffesiynol ar y we heb y gyllideb na’r arbenigedd technegol ar gyfer datblygu gwefannau traddodiadol. Mae llawer o’r grwpiau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn ProMo Cymru yn gweithredu gydag adnoddau cyfyngedig a thimau dan arweiniad gwirfoddolwyr, felly mae datblygu gwe gonfensiynol yn heriol.

Mae ‘Canva for Nonprofits’ yn cynnig dewis arall hyfyw gydag adeiladwr gwefannau am ddim, wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer sefydliadau heb gefndiroedd technegol a chyllidebau cyfyngedig.

Templedi Parod i’w Defnyddio ar Gyfer Sefydliadau Dielw Cymru

I helpu sefydliadau i gychwyn yn sydyn, mae ProMo wedi creu templed gwefan dielw y gellir ei addasu, wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer sefydliadau Cymru. Mae’r templed yma’n cynnwys:

  • Adrannau Cymraeg a Saesneg
  • Elfennau dylunio sy’n canolbwyntio ar y gymuned
  • Adrannau cyfrannu rhodd a chofrestru gwirfoddolwyr wedi’i integreiddio
  • Cynlluniau manylion cyswllt lleol
  • Integreiddio cyfryngau cymdeithasol wedi’i optimeiddio ar gyfer llwyfannau’r DU

Gellir dyblygu a phersonoli’r templed hwn gyda chynnwys, brandio a manylion cyswllt penodol eich sefydliad. Cliciwch ar y ddolen uchod, dewiswch “Defnyddiwch y templed yma,” a dechreuwch addasu gyda’ch manylion.

Mae testun dros dro wedi’i osod yn y Gymraeg a’r Saesneg, cynlluniau sampl ar gyfer gwahanol fathau o weithgareddau dielw, ac adrannau wedi’u rhag-gyflunio sy’n cyfeirio at y wybodaeth fwyaf cyffredin y mae ymwelwyr yn chwilio amdano ar wefannau dielw Cymru.

Pam bod y templed hwn wedi’i greu?

Y rhwystrau i greu gwefannau dielw:

  • Mae cost o £2,000+ ynghlwm â datblygu gwefan proffesiynol fel arfer
  • Mae angen cynnal a chadw technegol parhaus ar systemau rheoli cynnwys
  • Yn aml mae gan adeiladwyr gwefannau traddodiadol gromliniau dysgu serth
  • Mae ffioedd misol cynnal a chadw gwefan yn ychwanegu at gostau cylchol

Mae’r ffactorau yma’n golygu bod llawer o sefydliadau trydydd sector naill ai’n gweithredu heb wefan neu’n cynnal presenoldeb ar-lein hen ffasiwn ac aneffeithiol.

‘Canva for Nonprofits’: Prif Nodweddion a Galluoedd

Mae Canva yn darparu mynediad am ddim i’w haen ‘Pro’ i sefydliadau dielw cymwys, sy’n cynnwys adnoddau cynhwysfawr i adeiladu gwefan. Mae’r llwyfan yn gweithredu ar ryngwyneb llusgo a gollwng ac nid oes angen unrhyw wybodaeth codio.

Manylebau Adeiladwr Gwefannau:

  • Yn cynnwys cynnal parth proffesiynol
  • Dyluniad sy’n ymatebol i ddyfeisiau symudol yn cael ei weithredu’n awtomatig
  • Darperir tystysgrif diogelwch SSL
  • Integreiddio â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

Adnoddau Dylunio sydd ar Gael:

  • Dros 100 o dempledi gwefannau sy’n benodol i sefydliadau dielw
  • Llyfrgell luniau proffesiynol gyda miliynau o ddelweddau
  • Adnoddau palet lliw personol
  • Llyfrgell ffontiau gyda channoedd o opsiynau
  • Adnoddau creu logo a brandio
  • Llyfrgelloedd eiconau a graffeg

Pam bod Gwefannau Un Tudalen yn Gwasanaethu Sefydliadau Dielw yn Effeithiol

Mae gwefannau un dudalen yn mynd i’r afael â sawl angen ymarferol ar gyfer sefydliadau dielw:

Saernïaeth Gwybodaeth: Mae’r holl wybodaeth hanfodol yn ymddangos mewn un fformat sgrolio, gan ddileu dryswch llywio. Gall ymwelwyr gael mynediad at ddatganiadau cenhadaeth, manylion cyswllt, gwybodaeth am roddion, a phrosiectau cyfredol heb orfod clicio trwy sawl tudalen.

Effeithlonrwydd Cynnal a Chadw: Mae diweddariadau cynnwys yn gofyn am olygu un dudalen yn hytrach na rheoli adrannau lluosog. Mae hyn yn lleihau’r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei dreulio ar gynnal a chadw gwefannau.

Optimeiddio Ar Gyfer Dyfeisiau Symudol: Mae dyluniadau un dudalen yn cyfieithu’n effeithiol i ddyfeisiau symudol, lle mae tua 60% o draffig gwefannau dielw yn tarddu.

Cyflymder Llwytho: Mae tudalennau sengl yn llwytho’n gyflymach na safleoedd aml-dudalen, gan leihau cyfraddau bownsio ymwelwyr.

Ystyriaethau a Chyfyngiadau Technegol

Manteision:

  • Dim angen codio
  • Ymatebolrwydd symudol awtomatig
  • Optimeiddio SEO sylfaenol wedi’i gynnwys
  • Diweddariadau diogelwch rheolaidd yn cael ei wneud gan Canva
  • Gwarant amser gweithredu 99.9%
  • Cynnal gwefan wedi’i gynnwys am ddim

Cyfyngiadau:

  • Dim swyddogaeth e-fasnach ar gyfer systemau cyfrannu rhodd gymhleth (ond mae gennym ganllaw ar sut y gallwch chi wneud hyn gyda Ko-Fi)
  • Llai o opsiynau addasu na cheir gyda datblygu gwe draddodiadol
  • Ni ellir gosod ategion nag estyniadau trydydd parti
  • Swyddogaeth gronfa ddata cyfyngedig ar gyfer rheoli aelodau cymhleth

Strwythur Cost ac Opsiynau Parth

Er bod ‘Canva for Nonprofits’ yn darparu mynediad am ddim i holl nodweddion cyfrif ‘Pro’ gan gynnwys creu a chynnal gwefannau sylfaenol, dylai sefydliadau ddeall yr elfennau am ddim a thaledig.

Elfennau Am Ddim:

  • Mynediad i gyfrif ‘Canva Pro’
  • Adeiladwr gwefannau a thempledi
  • Cynnal gwefannau sylfaenol ar is-barth Canva (e.e. eichsefydliad.my.canva.site)
  • Tystysgrif SSL a nodweddion diogelwch
  • Golygiadau a diweddariadau gwefannau diderfyn

Elfennau Taledig:

  • Cynnal parth personol (fel arfer £10-15 y flwyddyn)
  • Enwau parth premiwm trwy gofrestrwyr parth
  • Adnoddau dadansoddi uwch (dewisol)

Gall sefydliadau weithredu’n gyfan gwbl o fewn yr haen am ddim gan ddefnyddio is-barth a ddarperir gan Canva. Fodd bynnag, mae parthau personol (e.e., www.eichsefydliad.org.uk) yn ymddangos yn fwy proffesiynol ac fe’u hargymhellir ar gyfer sefydliadau sy’n ceisio cynyddu hygrededd i’r eithaf gyda chyllidwyr a rhanddeiliaid.

Mesur Effeithiolrwydd

Gall sefydliadau sy’n defnyddio gwefannau Canva dracio sawl metrig allweddol:

  • Ymweliadau
  • Faint sydd wedi gweld y dudalen
  • Gwledydd
  • Dyfeisiau
  • Ffynonellau traffig
  • Cyfanswm cliciau dolenni

Gellir gweld pob un o’r rhain am 7 diwrnod, 30 diwrnod, 90 diwrnod neu’r holl amser.

Dechrau Arni

Gall sefydliadau dielw cymwys wneud cais am gyfrif ‘Canva for Nonprofits’ ar canva.com/nonprofits. Mae’r cais yn gofyn am brawf o statws dielw gyda dogfennaeth cofrestru elusen.

Ar ôl ei gymeradwyo, mae sefydliadau’n cael mynediad ar unwaith i holl nodweddion ‘Pro’, gan gynnwys yr adeiladwr gwefannau, templedi dylunio, a llyfrgell cynnwys premiwm.

I lawer o sefydliadau dielw, mae adeiladwr gwefan Canva yn darparu ateb ymarferol i sefydlu presenoldeb gwe broffesiynol heb fuddsoddiad ariannol sylweddol na gofynion arbenigedd technegol. Er efallai na fydd yn addas i sefydliadau sydd angen swyddogaethau cymhleth, mae’n mynd i’r afael yn effeithiol ag anghenion gwefannau craidd y rhan fwyaf o sefydliadau dielw cymunedol.Os ydych chi’n barod i roi cynnig arni ond rydych chi angen rhywfaint o help i gychwyn, mae ein tîm DigiCymru yn cynnig cymorth digidol am ddim i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gallwn eich helpu gyda gwefannau Canva, neu unrhyw her ddigidol rydych chi’n ei hwynebu.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889