Syniadaeth: Sut i Gynhyrchu Syniadau Wrth Geisio Datrys Problem Gyda Digidol
Awdur: Katie Dickerson;
Amser Darllen: 8 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd yma ar gyfer arweinwyr cynllunio a rheolwyr gwasanaeth sydd eisoes yn deall y problemau y mae eu defnyddwyr yn eu hwynebu ac sydd eisiau meddwl am syniadau i’w helpu i’w datrys.
Mae’n trafod:
- Yr hyn sydd angen i chi feddwl amdano cyn, yn ystod ac ar ôl syniadaeth
- Technegau syniadaeth wahanol
- Sut i benderfynu pa rai o’ch syniadau rydych chi am eu prototeipio a’u profi
Cyn syniadaeth
Dylech gychwyn trwy ofyn i chi’ch hun pa mor dda ydych chi’n deall y broblem a beth mae eich defnyddwyr ei angen.
Y ffordd orau o ddysgu am anghenion defnyddwyr yw trwy ymchwil defnyddwyr. Darganfyddwch sut i gynnal ymchwil defnyddwyr.
Cynllunio eich sesiwn syniadaeth
Bydd angen i chi ystyried:
Pwy i’w gynnwys
Mae syniadaeth yn cael ei wneud mewn tîm. Dylech gynnwys aelodau eraill y tîm, rhanddeiliaid neu ddefnyddwyr gwasanaeth i gael amrywiaeth o safbwyntiau. Ond gall fod yn anodd hwyluso sesiynau syniadaeth os oes gormod o bobl. Ceisiwch beidio â chael mwy nag 8 o bobl mewn sesiwn.
Dysgwch fwy am sut i gynnal sesiwn cyd-gynllunio.
Ble i gynnal sesiynau syniadaeth
Gallwch gynnal sesiynau syniadaeth o bell neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar yr hyn sydd orau gan y bobl dan sylw.
Anghenion hygyrchedd
Sicrhewch eich bod yn gwirio gyda chyfranogwyr ymlaen llaw ar gyfer unrhyw anghenion hygyrchedd.
Gall adnoddau bwrdd gwyn rhithiol fel Miro neu Mural fod yn ddefnyddiol ar gyfer sesiynau creu syniadau o bell, ond nid ydynt yn hygyrch i bawb. Gallant hefyd fod yn anodd eu defnyddio os nad yw pobl yn gyfarwydd â nhw. Os ydych chi’n bwriadu defnyddio’r adnoddau hyn, gwiriwch os yw cyfranogwyr yn gallu eu defnyddio. Os na allant, mae yna ddewisiadau amgen technoleg isel y gallwch eu defnyddio.
Darganfyddwch sut y defnyddiais dempled Word i gynnal sesiwn syniadaeth hygyrch.
Dylech rannu unrhyw fyrddau, sleidiau neu ddogfennau rydych chi’n bwriadu eu defnyddio ymlaen llaw i roi amser i bobl eu hadolygu.
Sut i greu gofod diogel
Rydych chi eisiau i’ch cyfranogwyr deimlo’n gyfforddus yn rhannu eu syniadau. Un ffordd o wneud hyn yw gosod rheolau sylfaenol ar gychwyn y sesiwn. Er enghraifft, gallech chi ddweud:
- Mae hwn yn ofod heb farn
- Nid oes unrhyw syniadau anghywir
- Codwch eich llaw os ydych chi eisiau siarad
Technegau syniadaeth
1. Saethu syniadau gwrthol
Mae’n debyg eich bod chi wedi clywed am saethu syniadau (brainstorming), pan fydd grŵp yn ceisio meddwl am syniadau am sut i ddatrys problem. Mae saethu syniadau gwrthol yn eich helpu i nodi ffyrdd y gallech chi fod yn gwneud problem yn waeth. Yna rydych chi’n gwrthdroi’r syniadau hyn i ddod o hyd i atebion na fyddech chi wedi meddwl amdanynt fel arall.
Cam 1: Diffinio’r broblem
Er enghraifft, gallai eich datganiad problem fod “Nid yw llawer o bobl yn cofrestru ar gyfer ein digwyddiadau.”
Cam 2: Gwrthdroi’r broblem
Meddyliwch am yr hyn y gallech chi fod yn ei wneud i waethygu’r broblem. Yn yr enghraifft hon, gallech chi ddweud, ‘Sut gallwn ni yn ei gwneud hi’n anodd i bobl gofrestru ar gyfer ein digwyddiadau?’
Cam 3: Gwrthdroi’r syniadau
Meddyliwch am enghreifftiau o bethau y gallech fod yn eu gwneud i achosi’r broblem, fel:
- Nid ydym yn cysylltu’r digwyddiad yn newislen ein gwefan
- Ni ellir archebu digwyddiadau ar-lein – mae angen i chi ffonio neu anfon e-bost
Cam 4: Nodi atebion
Edrychwch ar bob ‘datrysiad gwrthdro’ a meddyliwch am syniadau ar gyfer datrysiadau posibl. Yn yr enghraifft yma, rhai atebion posibl fydda:
- Ychwanegu dolen i’r digwyddiad i ddewislen ein gwefan
- Creu ffurflen ar-lein sy’n caniatáu i bobl archebu digwyddiadau ar ein gwefan
8 Sydyn (Rapid 8s)
Mae 8 Sydyn yn ymarfer braslunio cyflym i gael pobl i feddwl am 8 syniad mewn cyfnod byr o amser.
Dyma sut mae’n gweithio:
- Mae pawb yn cymryd darn o bapur A4 ac yn ei blygu yn ei hanner 3 gwaith i greu 8 blwch
- Gosodwch amserydd am 5 munud
- Mae pob aelod o’r tîm yn braslunio un syniad ym mhob blwch
- Ar ôl i’r amser ddod i ben, mae pawb yn rhannu eu syniadau gyda’r grŵp
Os oes gennych amser, gallwch gynnal ail rownd sydd yn gofyn i bobl gymryd eu syniad gorau a’i fraslunio’n fanylach. Cofiwch y gallai rhai pobl deimlo’n bryderus am beidio â chael sgiliau lluniadu da. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i gyfranogwyr eich bod chi’n chwilio am frasluniau yn unig.
Dysgwch fwy yng nghanllaw CAST i Rapid 8s.
3. S.C.A.M.P.E.R
Mae SCAMPER yn ddull saethu syniadau sydd yn helpu chi i wella’ch cynnyrch neu wasanaeth. Rydych chi’n gweithio trwy bob llythyren yn SCAMPER (y diffiniadau Saesneg):
- Amnewid (Substitute) – Beth allwch chi amnewid neu newid?
- Cyfuno (Combine) – Allwch chi gyfuno rhannau o’ch cynnyrch neu wasanaeth i greu rhywbeth gwahanol?
- Addasu (Adapt) – Beth allech ychwanegu at eich cynnyrch neu wasanaeth i’w wella?
- Adnewid (Modify) – Allech chi adnewid eich cynnyrch neu wasanaeth i’w wella?
- Rhoi at ddefnydd arall (Put to another use) – Allech chi ddefnyddio eich cynnyrch neu wasanaeth mewn ffordd wahanol?
- Dileu (Eliminate) – Beth ellir ei ddileu neu ei symleiddio?
- Gwrthdroi (Reverse) – Beth fydda’n digwydd pe byddech chi’n troi’r gwasanaeth neu’r cynnyrch o gwmpas?
Er enghraifft, dyweder bod eich sefydliad yn anfon negeseuon e-bost ymgyrch misol a’ch bod am eu gwella.
- Amnewid – Gallech newid llinell bwnc eich negeseuon e-bost i annog mwy o bobl i’w hagor
- Cyfuno – Gallech gyfuno’r ymgyrch e-bost gyda negeseuon am sut i gofrestru ar gyfer eich gwasanaethau
- Addasu – Gallech ychwanegu adran newydd i’r negeseuon e-bost lle rydych chi’n rhannu canlyniadau positif o ymgyrchoedd blaenorol
- Adnewid – Gallech wneud y negeseuon e-bost yn fwy deniadol trwy fewnosod delweddau a fideos
- Rhoi at ddefnydd arall – Gallech rannu dolen i gofrestru ar gyfer eich negeseuon e-bost ymgyrchu trwy god QR mewn digwyddiadau elusennol
- Dileu – Gallech ddileu adran o’ch e-bost ymgyrchu fel eu bod yn fyrrach
- Gwrthdroi – Gallech wrthdroi trefn yr adrannau yn eich e-bost
4. Cwestiynau “Sut gallwn ni”
Gall cwestiynau “Sut gallwn ni” eich helpu i feddwl am syniadau creadigol wrth ganolbwyntio ar y problemau rydych chi’n ceisio’u datrys gyda digidol.
Cam 1
Adolygwch y problemau rydych chi’n ceisio’u datrys. Dyweder bod eich ymchwil defnyddwyr wedi dangos y gallai fod yn anodd i wirfoddolwyr posibl darganfod ble neu bryd y gallant wirfoddoli.
Cam 2
Trowch y problemau neu’r mewnwelediadau hynny yn gwestiynau am sut y gallech chi ddatrys y problemau hynny. Er enghraifft, “Sut y gallem ni helpu pobl i ddarganfod pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael?”
Cwestiynau “Sut gallwn ni” da:
- Yn seiliedig ar broblemau neu fewnwelediadau presennol
- Yn eang fel y gallwch chi gynhyrchu mwy o syniadau
- Peidiwch ag awgrymu ateb (Ni fyddai “Sut gallwn ni ddiweddaru’r dudalen am wirfoddoli ar ein gwefan?” yn gwestiwn “Sut gallwn ni” da, gan ei fod yn awgrymu mai diweddaru’r dudalen we yw’r datrysiad)
Cam 3
Meddwl am syniadau i ateb y cwestiynau “Sut gallwn ni”. Gallai rhai syniadau yn y senario hwn fod:
- Caniatáu i bobl chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar eich gwefan yn ôl dyddiad a lleoliad
- Ychwanegu cyfleoedd gwirfoddoli eich sefydliad at wefannau gwirfoddoli lleol
5. Ysgrifennu Ymennydd
Mae ysgrifennu ymennydd yn cynnwys ysgrifennu syniadau i lawr yn hytrach na’u dweud, fel y byddech chi mewn sesiwn saethu syniadau. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n haws i bobl dawelach neu fewndroëdig i gymryd rhan. Bydd angen nodiadau gludiog arnoch ar gyfer hyn.
- Cyflwynwch y broblem rydych chi’n ceisio’i datrys
- Gosodwch amserydd a gadael i bobl ysgrifennu syniadau ar nodiadau gludiog
- Pan fydd yr amserydd ar ben, gofynnwch i’r cyfranogwyr basio eu syniadau i berson arall, sy’n adolygu eu syniadau ac yn ychwanegu atynt
- Ailadrodd y broses, rownd wrth rownd
- Adolygwch y syniadau a thrafodwch fel grŵp
6. Mapio Meddwl
Mae mapio meddwl yn cynnwys creu diagram i’ch helpu i ddelweddu cysylltiadau rhwng cysyniadau neu syniadau.
Meddyliwch amdano fel coeden gyda chanol eich map meddwl fel y boncyff. Dyma le rydych chi’n ysgrifennu’r broblem rydych chi’n ceisio’i datrys. Wrth i’ch tîm feddwl am syniadau, rydych chi’n ychwanegu’r rhain fel canghennau at eich coeden.
Ar ôl syniadaeth
Unwaith y bydd gennych chi eich syniadau, mae angen i chi benderfynu pa rai rydych chi am eu prototeipio neu eu profi.
Efallai yr hoffech chi ofyn i gyfranogwyr bleidleisio ar ba syniadau maen nhw’n meddwl y dylech chi eu profi. Un ffordd o wneud hyn yw trwy bleidleisio dotiau, ble mae pobl yn ychwanegu dotiau at y syniadau maen nhw’n eu hoffi orau.
Ar gyfer pob syniad, efallai yr hoffech ofyn i chi’ch hun:
A yw’n wahanol?
- A yw’n syniad annibynnol neu a ddylech chi ei gyfuno ag un arall?
A fydd yn diwallu anghenion defnyddwyr?
- A fydd yn helpu defnyddwyr i wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud?
A allwn ni ei gyflawni?
- A allwn ni brofi’r syniad hwn yn hawdd?
- A allwn ni ei gyflwyno mewn pryd?
- A oes gennym ni’r arian a’r adnoddau i wneud hyn?
Pa mor beryglus ydyw?
- Beth yw ein rhagdybiaethau am y syniad hwn?
Gallwch hefyd ddefnyddio grid blaenoriaethu i’ch helpu i flaenoriaethu eich syniadau. Mae hyn yn cynnwys plotio’ch syniadau ar grid yn seiliedig ar ba mor werthfawr ydynt i’ch defnyddwyr a pha mor ymarferol ydynt i’ch sefydliad.
Dysgwch fwy am sut i flaenoriaethu syniadau.
Llun gan by FORTYTWO ar Unsplash
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst