Canolfan Merched Gogledd Cymru – Ail-frandio
Helpu Canolfan Merched Gogledd Cymru i ail-frandio.
Cleient
Canolfan Merched Gogledd Cymru
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
Sefydliad Banc Lloyds
Gwasanaethau
Ail-frandio
Cyd-ddylunio
Diolch i Sefydliad Banc Lloyds, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Merched Gogledd Cymru (CMGC) i greu neges effeithiol ac adnoddau gweledol newydd. Elusen leol yw CMGC sydd â’r nod o feithrin a hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd merched yn eu cymuned.
Beth oedd y broblem?
Roedd CMGC eisiau edrychiad newydd a neges drawiadol ar gyfer eu brand; rhywbeth modern a hygyrch a oedd yn adlewyrchu eu cenhadaeth a’u gwasanaethau. Nododd staff CMGC fod y brand presennol yn teimlo’n hen ffasiwn a ddim yn cyfleu pwy oedden nhw na beth oeddent yn ei wneud.

Ein dull gweithredu
1. Ymgynghori
Buom yn gweithio’n agos gyda thîm CMGC i ddeall yr hyn oedd ei angen arnynt o’r broses ail-frandio, ac i ddysgu am eu gweledigaeth, eu cenhadaeth a’u gwerthoedd craidd. Dyma oedd yn arwain ni trwy’r broses.
2. Ymchwil i gystadleuwyr
Dechreuom gan adolygu logos a hunaniaethau sefydliadau eraill i ddarganfod cyfleoedd i CMGC sefyll allan, gan hefyd aros yn adnabyddus o fewn y rhwydwaith ehangach.
3. Slogan
Diffiniwyd pwyntiau gwerthu unigryw’r sefydliad. Trafodwyd yr emosiynau roeddent yn awyddus i’r brand eu hysbrydoli, ac adolygwyd logos a sloganau cystadleuwyr er mwyn cael ysbrydoliaeth a sicrhau gwahaniaethu. Arweiniodd hyn at greu slogan newydd, syml ond pwerus: “Ti’n bwysig”.
4. Logo
Datblygwyd tri chysyniad cychwynnol a mireinio’r cyfeiriad a ddewiswyd ar y cyd â’r tîm. Mae’r dyluniad terfynol yn adlewyrchu gwerthoedd craidd CMGC – undod, cynhesrwydd, cefnogaeth, hapusrwydd a symlrwydd.
- Ysbrydoliaeth y dyluniad: Cafwyd ysbrydoliaeth o wyneb merch dawel, fyfyriol a siapiau crwn i symboleiddio cymuned, merched yn cefnogi ei gilydd, ac ymdeimlad o berthyn – yn debyg iawn i fathodyn hunaniaeth.
- Dewis lliw: Dewiswyd porffor fel y prif liw oherwydd ei gysylltiad â logo blaenorol y sefydliad a gwasanaethau i fenywod. Mae’r lliw porffor yn cyfleu gofal, empathi a mewnwelediad – rhinweddau yr oeddem eisiau adlewyrchu yn y brand. Mae hefyd yn gweithio’n dda o ran hygyrchedd ochr yn ochr â’r palet lliwiau eilaidd.
- Parhad: Fel cydnabyddiaeth o’r hen logo, ymgorfforwyd silwét symlach i gofio’u hanes, gan greu naws ffres a modern ar yr un pryd.
5. Logo Testunol
Ar gyfer y logo testunol, dewiswyd ffont ‘sans-serif’ modern a beiddgar. Mae hyn yn sicrhau bod enw’r brand yn hawdd ei ddarllen ar unrhyw faint. Mae ffontiau ‘sans-serif’ yn aml yn gysylltiedig â brandiau cyfoes, hygyrch ac arloesol; mae’r teip ‘bold’ yn creu cydbwysedd gweledol, gan ategu eicon y logo heb gystadlu ag ef am sylw.
Canlyniadau
Y canlyniad yw hunaniaeth gofiadwy a chynhwysol sy’n gweithio ar draws llwyfannau print a digidol. Mae’r brand newydd yn anrhydeddu hanes CMGC ac yn teimlo’n groesawgar a grymusol.
Beth ddywedodd tîm CMGC
“Mae pawb wrth eu bodd gyda’r canlyniadau hyd yn hyn ac yn caru’r logo newydd yn fawr iawn… diolch enfawr am bopeth rydych chi wedi’i wneud!”
Gweithio gyda ni
Mae ein dull o weithio yn ymwneud â deall anghenion defnyddwyr a gweithio gyda phobl i greu hunaniaeth brand sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd. Os ydych chi’n barod i adnewyddu eich brand, gallwn ni helpu.
Cysylltwch â Auguste@promo.cymru i gychwyn sgwrs.