✕

Helpu Canolfan Merched Gogledd Cymru  i ail-frandio.

star

Cleient

Canolfan Merched Gogledd Cymru

star

Sector

Trydydd Sector

star

Partneriaid

Sefydliad Banc Lloyds

star

Gwasanaethau

Ail-frandio
Cyd-ddylunio

Diolch i Sefydliad Banc Lloyds, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Merched Gogledd Cymru (CMGC) i greu neges effeithiol ac adnoddau gweledol newydd. Elusen leol yw CMGC sydd â’r nod o feithrin a hyrwyddo datblygiad cymdeithasol ac economaidd merched yn eu cymuned.

Beth oedd y broblem?

Roedd CMGC eisiau edrychiad newydd a neges drawiadol ar gyfer eu brand; rhywbeth modern a hygyrch a oedd yn adlewyrchu eu cenhadaeth a’u gwasanaethau. Nododd staff CMGC fod y brand presennol yn teimlo’n hen ffasiwn a ddim yn cyfleu pwy oedden nhw na beth oeddent yn ei wneud.

Hen logo CMGC. Pedwar silwét o ferched mewn gwahanol ystumiau. Wrth ei ymyl mae eu logo newydd a ailgynlluniwyd gan ProMo Cymru, yn dangos cartŵn crwn o wyneb menyw yn gwenu ac yn edrych yn heddychlon, a'r slogan “Ti'n Bwysig”.
Logo hen Canolfan Merched Gogledd Cymru ar y chwith a’r logo newydd wedi’i ddylunio gyda ProMo Cymru ar y dde

Ein dull gweithredu

1. Ymgynghori 

Buom yn gweithio’n agos gyda thîm CMGC i ddeall yr hyn oedd ei angen arnynt o’r broses ail-frandio, ac i ddysgu am eu gweledigaeth, eu cenhadaeth a’u gwerthoedd craidd. Dyma oedd yn arwain ni trwy’r broses.

2. Ymchwil i gystadleuwyr

Dechreuom gan adolygu logos a hunaniaethau sefydliadau eraill i ddarganfod cyfleoedd i CMGC sefyll allan, gan hefyd aros yn adnabyddus o fewn y rhwydwaith ehangach.

3. Slogan

Diffiniwyd pwyntiau gwerthu unigryw’r sefydliad. Trafodwyd yr emosiynau roeddent yn awyddus i’r brand eu hysbrydoli, ac adolygwyd logos a sloganau cystadleuwyr er mwyn cael ysbrydoliaeth a sicrhau gwahaniaethu. Arweiniodd hyn at greu slogan newydd, syml ond pwerus: “Ti’n bwysig”.

4. Logo

Datblygwyd tri chysyniad cychwynnol a mireinio’r cyfeiriad a ddewiswyd ar y cyd â’r tîm. Mae’r dyluniad terfynol yn adlewyrchu gwerthoedd craidd CMGC – undod, cynhesrwydd, cefnogaeth, hapusrwydd a symlrwydd.

  • Ysbrydoliaeth y dyluniad: Cafwyd ysbrydoliaeth o wyneb merch dawel, fyfyriol a siapiau crwn i symboleiddio cymuned, merched yn cefnogi ei gilydd, ac ymdeimlad o berthyn – yn debyg iawn i fathodyn hunaniaeth.
  • Dewis lliw: Dewiswyd porffor fel y prif liw oherwydd ei gysylltiad â logo blaenorol y sefydliad a gwasanaethau i fenywod. Mae’r lliw porffor yn cyfleu gofal, empathi a mewnwelediad – rhinweddau yr oeddem eisiau adlewyrchu yn y brand. Mae hefyd yn gweithio’n dda o ran hygyrchedd ochr yn ochr â’r palet lliwiau eilaidd.
  • Parhad: Fel cydnabyddiaeth o’r hen logo, ymgorfforwyd silwét symlach i gofio’u hanes, gan greu naws ffres a modern ar yr un pryd.

5. Logo Testunol

Ar gyfer y logo testunol, dewiswyd ffont ‘sans-serif’ modern a beiddgar. Mae hyn yn sicrhau bod enw’r brand yn hawdd ei ddarllen ar unrhyw faint. Mae ffontiau ‘sans-serif’ yn aml yn gysylltiedig â brandiau cyfoes, hygyrch ac arloesol; mae’r teip ‘bold’ yn creu cydbwysedd gweledol, gan ategu eicon y logo heb gystadlu ag ef am sylw.

Canlyniadau 

Y canlyniad yw hunaniaeth gofiadwy a chynhwysol sy’n gweithio ar draws llwyfannau print a digidol. Mae’r brand newydd yn anrhydeddu hanes CMGC ac yn teimlo’n groesawgar a grymusol.

Beth ddywedodd tîm CMGC

“Mae pawb wrth eu bodd gyda’r canlyniadau hyd yn hyn ac yn caru’r logo newydd yn fawr iawn… diolch enfawr am bopeth rydych chi wedi’i wneud!”

Gweithio gyda ni

Mae ein dull o weithio yn ymwneud â deall anghenion defnyddwyr a gweithio gyda phobl i greu hunaniaeth brand sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd. Os ydych chi’n barod i adnewyddu eich brand, gallwn ni helpu.

Cysylltwch â Auguste@promo.cymru i gychwyn sgwrs. ​​


Charity number: 1094652
Company number: 01816889