Arddangos Gwaith Ieuenctid Cymru yn Strasbwrg
Arddangos arfer da o Gymru mewn seminar iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn Strasbwrg
Derbyniodd ProMo Cymru wahoddiad gan Bartneriaeth Ieuenctid Cyngor Ewrop i fynychu’r Seminar ar Iechyd Meddwl a Llesiant Ieuenctid yn Strasbwrg, Ffrainc rhwng 18 a 19 Mawrth 2025.


Iechyd Meddwl a Gwaith Ieuenctid
Yn mynychu’r seminar roedd pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid, ymchwilwyr, a llunwyr polisi o ledled Ewrop, yn dod at ei gilydd i ddarganfod datrysiadau i’r heriau iechyd meddwl cynyddol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Dros ddau ddiwrnod, roedd y gynhadledd yn gyfle i drafod, mynychu gweithdai a gwrando ar baneli arbenigol gyda’r nod o flaenoriaethu iechyd meddwl a lles mewn polisi ac arfer ieuenctid.
Yn agor y seminar, pwysleisiodd Tobias Flessenkemper, Pennaeth Adran Ieuenctid Cyngor Ewrop, rôl hanfodol gwaith ieuenctid wrth feithrin gwydnwch meddwl, “Gall gwaith ieuenctid helpu pobl ifanc i fabwysiadu patrymau iach, dod yn rhan o ymgysylltiadau cymdeithasol, diwylliannol a dinesig, datblygu sgiliau ymdopi, datrys problemau a sgiliau rhyngbersonol, a dysgu sut i reoli emosiynau.”
Fel yr unig berson yn cynrychioli Cymru, hwylusodd Cindy Chen, ein Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, sesiwn gyfochrog 45 munud yn y seminar i arddangos arbenigedd ProMo o ran ymgysylltu’n effeithiol â phobl ifanc a rhoi llais iddynt fedru cyflawni newidiadau personol, systemau a diwylliant.


Cyflwyno Meddwl Ymlaen Gwent
Rhannodd Cindy astudiaeth achos Meddwl Ymlaen Gwent (MYG), prosiect pum mlynedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, i egluro sut rydym yn cyd-gynllunio gwasanaethau gyda phobl ifanc. Nod MYG yw cynllunio datrysiadau arloesol i atal heriau iechyd meddwl rhag codi neu waethygu ar draws Gwent, Cymru, gan ddilyn dull Cynllunio Gwasanaeth. Mae’r broses yma yn ein harwain i greu atebion sy’n mynd i’r afael a gwir anghenion y defnyddwyr a’r pethau sylfaenol sydd yn achosi problemau
Siaradodd Cindy, sy’n rheoli’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent, â chydweithwyr Ewropeaidd am ddull cyd-gynhyrchu ProMo Cymru i sicrhau, nid yn unig bod pobl ifanc yn cael mynediad i wasanaethau iechyd meddwl, ond hefyd yn benseiri gweithredol systemau cymorth eu hunain. Esboniodd fod cyd-gynhyrchu ystyrlon wrth galon MYG, “Rydym yn cyflogi 11 o bobl ifanc fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed ac yn eu cefnogi i ddefnyddio’r 5 piler gwaith ieuenctid, i lunio datrysiadau a fydd yn cael effaith barhaol.”
Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, dyma flaenoriaethau pwysig Meddwl Ymlaen Gwent:
- Tyfu ein sianel cyfryngau cymdeithasol a chreu ymgyrchoedd fel y gallwn frwydro yn erbyn stigmateiddio, hyrwyddo gwasanaethau cymorth yng Ngwent a darparu gwybodaeth ddefnyddiol i bobl ifanc sy’n chwilio am gymorth
- Cyfarparu ein tîm o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed gyda’r sgiliau a’r hyder i gyflwyno dau gynnig addysg iechyd meddwl am ddim i weithwyr proffesiynol a phobl ifanc ledled Gwent
- Meithrin perthnasoedd allweddol gyda gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid i ddylanwadu ar newid, llywio penderfyniadau ac ymateb i ddatblygiadau strategol (e.e. Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru 2025 – 2035)
Daeth y sesiwn i ben gyda Cindy yn annog cydweithwyr i ystyried sut y gallent wreiddio’r dull cyd-gynhyrchu yn well yn eu gwaith wrth ddarparu cymorth i bobl ifanc.
Mae ProMo Cymru yn frwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau beunyddiol plant a phobl ifanc nawr, a chenedlaethau’r dyfodol.
Cysylltwch i wybod sut y gallem ni eich helpu i wneud hyn: cindy@promo.cymru
Tania Russell-Owen
21 Mai 2025
Cydgynllunio
ProMo Cymru
Cynllunio Gwasanaeth
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Croeso, Bethan!
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Bethan Gallivan i’r tîm fel ein Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg newydd! Mae gan Bethan radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ac yn dod â thair blynedd o brofiad o’i swydd flaenorol mewn elusen sy’n ffocysu ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon, bu’n […]
Cynllunio Gwasanaeth
O Went i Helsinki: Cyfnewidfa Iechyd Meddwl
Ym mis Medi 2026, teithiodd naw o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent i Helsinki am wythnos o ddysgu ar y cyd gyda’r sefydliad ieuenctid Ffinnaidd Yeesi, wedi’u cyllido gan Taith. Wedi’i ysgrifennu gan Lexy, Cynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed, Meddwl Ymlaen Gwent Cefndir Meddwl Ymlaen Gwent Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd […]
Newyddion
Enillydd Cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield
Mae Cyfarwyddwr Datblygiad ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2026. Derbyniodd Marco’r wobr mewn seremoni yn yr Hilton, Caerdydd, ar 15fed Hydref 2026. Gwobr newydd gydag ystyr arbennig Mae’r wobr yn newydd eleni. Fe’i henwir er cof am Graham Benfield, a oedd yn Brif Weithredwr CGGC […]