Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Meic logo

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf.


Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng

Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng iechyd meddwl i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru a Lloegr. Edrychodd ymchwilwyr ar sut mae gwasanaethau’n cael eu trefnu a phrofiad y bobl sy’n eu defnyddio.

Dewiswyd Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a redir gan ProMo Cymru, fel un o 8 astudiaeth achos penodol ledled y DU ar gyfer archwiliad manwl. Cyfwelodd ymchwilwyr â’r staff sy’n cynnal y gwasanaeth a phobl ifanc sydd wedi cysylltu â Meic am gymorth yn ystod argyfwng.

Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at y ffaith bod model Meic o ddarparu cymorth ar unwaith, anghlinigol yn fwy perthnasol nag erioed wrth i Gymru symud tuag at strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 10 mlynedd newydd.

Dull Unigryw Meic o Gymorth

Mae Meic wedi’i gynllunio i fod mor hygyrch â phosibl. Nid oes rhestr aros, nid oes angen atgyfeiriad ffurfiol, ac nid oes rhaid bodloni meini prawf clinigol. Rydym yn gwybod bod y rhwystrau yma yn aml yn atal plant a phobl ifanc rhag cael cymorth pan fyddant yn dechrau cael trafferth.

Trwy gynnig cymorth aml-sianel, dienw, gan gynnwys negeseuon testun a sgwrs ar-lein, rydym yn sicrhau bod cymorth ar gael ar yr adeg mae’r person ifanc ei angen. Mae’r dull ‘trothwy isel’ yma yn cefnogi strategaeth iechyd meddwl a llesiant meddyliol 10 mlynedd newydd Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar ddull ‘system gyfan’ sydd â’r nod o ddarparu mynediad at gymorth ar yr un diwrnod.

Fel gwasanaeth mynediad agored, mae Meic yn darparu sefydlogrwydd yn ystod cyfnodau anodd. Trwy gynnig cymorth uniongyrchol, anffurfiol, ac anghlinigol, rydym yn helpu plant a phobl ifanc i lywio systemau cymhleth. Mae hyn yn sicrhau nad oes rhaid i neb frwydro ar ei ben ei hun wrth aros am wasanaethau mwy ffurfiol a dwys.

Profiad Pobl Ifanc o Meic

Amlygodd y canfyddiadau gan y bobl ifanc dan sylw fod dull digidol-yn-gyntaf Meic o gymorth sylweddol. Nododd y cyfranogwyr fod gallu tecstio neu sgwrsio ar-lein yn gwneud iddynt deimlo’n fwy diogel ac yn cael eu beirniadu llai na fyddant wrth siarad ar y ffôn neu deithio i leoliad wyneb yn wyneb mewn argyfwng.

Roeddent yn gwerthfawrogi parhad y gwasanaeth yn arbennig, gan nodi eu bod yn teimlo fel eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi mewn ffordd nad oedd gwasanaethau eraill (yr oeddent yn teimlo oedd yn eu “gwthio i ffwrdd”) yn cynnig.

Rôl Staff Meic ac Ymarferion Tîm

Datgelodd cyfweliadau staff ddiwylliant tîm cryf sy’n canolbwyntio ar fyfyrio a gwella parhaus. Nododd yr ymchwil, er i Meic gychwyn gyda ffocws ar eiriolaeth a gwybodaeth, ei fod wedi esblygu’n naturiol i fod yn adnodd allweddol i’r rhai sy’n profi trallod iechyd meddwl.

Canfu’r astudiaeth fod Meic yn rheoli sefyllfaoedd cymhleth yn effeithiol gyda phartneriaethau sefydledig â gwasanaethau brys a chyfathrebu clir ynghylch diogelu gyda’r bobl ifanc sy’n cysylltu.

Safonau Gofal yn y Dyfodol

Defnyddiodd y prosiect CAMH-Crisis2 ehangach Meic a saith gwasanaeth arall i ddatblygu cyfres o egwyddorion cenedlaethol ar gyfer gofal argyfwng o ansawdd uchel. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau ei bod yn hawdd cael mynediad i gymorth, bod yn glir ynghylch yr hyn y gall gwasanaeth ei gynnig, a sicrhau bod gan staff y sgiliau rhyngbersonol cywir i gysylltu â phobl ifanc. Pwysleisiodd yr ymchwil hefyd na ddylai gwasanaethau argyfwng weithio ar eu pen eu hunain ond yn hytrach, bod angen iddynt fod yn rhan o system gydgysylltiedig gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

I ProMo Cymru, mae’r ymchwil annibynnol yma yn bwrw golwg wrthrychol ar effaith Meic. Mae’n cadarnhau bod egwyddorion craidd y gwasanaeth o fod yn hygyrch, yn ddienw ac yn anfeirniadol yn cyd-fynd â’r hyn y mae pobl ifanc yn dweud sydd ei angen fwyaf arnynt pan fyddant mewn trafferth.

Gellir archwilio canfyddiadau llawn y prosiect ar wefan NIHR.

Halyna Soltys
14 Ebrill 2026

star

Llinell Gymorth

star

Meic

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889