Caru dy Fislif: Ymgyrch Wedi’i Chyd-gynhyrchu
Mae ProMo Cymru wedi ymrwymo i roi llwyfan i leisiau ifanc a chreu newid ystyrlon. Mae Caru Dy Fislif, ymgyrch a gynhyrchwyd ar y cyd â llinell gymorth Meic a phobl ifanc o Gymru, yn enghraifft berffaith o hyn.
Bûm yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymgyrchydd ifanc Molly Fenton, sylfaenydd yr ymgyrch Love Your Period, a’i thîm i greu cynnwys sy’n siarad yn uniongyrchol â phobl ifanc am urddas mislif, stigma, a mynediad at nwyddau mislif.
Llinell gymorth Meic
Mae Meic yn llinell gymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim. Mae’n cael ei gynnal gan ProMo Cymru, ac mae ein tîm o gynghorwyr cyfeillgar ar gael bob dydd o 8 y bore tan hanner nos.
Mae gwefan Meic yn cynnwys adran blog ble mae erthyglau’n cael eu rhannu ar bynciau sy’n berthnasol i bobl ifanc. Mae gennym hefyd adran Cael Help sy’n rhannu cefnogaeth i wahanol themâu, o addysg a chyflogaeth i iechyd a lles.
Gwelsom fod cynnwys presennol Meic ar lasoed, ac yn benodol mislif, yn brin. Roedden ni’n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gwybodaeth ar y rhyngrwyd, ond gall fod yn heriol dod o hyd i gynnwys o ansawdd uchel sydd yn gywir ac wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer eu hoedran nhw. Roeddem yn awyddus i wella hyn.

Grym cydgynllunio
Mae cydgynllunio wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae’n ymwneud â gweithio gyda’n gilydd o’r cychwyn cyntaf, gan sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu hymgynghori yn unig ond eu bod yn bartneriaid gweithredol wrth gynllunio a chyflwyno prosiect, neu yn yr achos yma, ymgyrch.
Roedd rhai o dîm Meic wedi cyfarfod Molly mewn digwyddiad ac wedi trafod y syniad o weithio gyda’n gilydd. Roedden ni’n gwybod bod yr ymgyrch Love Your Period wedi’i greu gan grŵp o bobl ifanc oedd yn arbenigwyr yn eu maes. Ein nod oedd ehangu gwaith yr Ymgyrch Love Your Period trwy blatfform Meic, gan gyrraedd cynulleidfa ehangach o bobl ifanc yng Nghymru.
Molly gymerodd yr awenau, gan drefnu ei ffrindiau a’i chyd-ymgyrchwyr ifanc i rannu syniadau ac ysgrifennu cyfres o flogiau. Roedd y cynnwys yn ymdrin â phynciau yr oeddent yn gwybod oedd yn bwysig ac yn berthnasol i’w cyfoedion, fel siarad â’r meddyg am boen mislif a materion personol eraill a dewis pa nwyddau mislif sydd orau i unigolyn. Fel pobl ifanc eu hunain, roeddent yn gwybod sut i gyfathrebu â’u cyfoedion mewn ffordd a fyddai’n berthnasol, yn ddibynadwy, ac yn ddilys.

Canlyniadau
Cynhyrchodd yr ymgyrch gyfres wych o wyth blog, pob un wedi’i ysgrifennu gan bobl ifanc. Yna cyhoeddwyd y blogiau yma ar wefan Meic, gan gwmpasu ystod o agweddau pwysig, o ddeall hanfodion mislif i reoli poen a chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â mislif.
Ynghyd â’r blogiau, datblygwyd cyfres o bostiadau a fideos cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sianeli cymdeithasol Meic. cafwyd llawer o ymgysylltiad â’r cynnwys yma, gyda sylwadau a ddangosodd pa mor hanfodol oedd y cynnwys hwn.
Ymatebodd pobl gyda sylwadau fel:
“Post mor rymusol a chynhwysol 🙌”
“Mae hyn mor addysgiadol! ❤️👏”
Gwnaeth un person sylwadau ar fideo am urddas a stigma:
“Rwy’n gobeithio, un dydd, y bydd cenhedlaeth o fenywod sydd ddim yn ofni bod yn agored amdano.”
Aeth y sgwrs gam ymhellach hefyd, gyda phobl yn gofyn am gyngor a chefnogaeth ar bost am PMS a PMDD.
“Sut mae cael diagnosis o hyn a thriniaeth?”
Mae’r sylwadau yma yn tynnu sylw at sut mae llwyfannau digidol Meic yn darparu lle diogel i bobl ifanc gael gwybodaeth a chyngor dibynadwy.
Wrth fyfyrio ar eu cyfranogiad yn ymgyrch Meic, rhannodd un o’r awduron ifanc ei bod hi’n “anhygoel gallu cyfrannu!”
Mae’r ymgyrch Caru Dy Fislif yn profi, pan fyddwch chi’n cydweithio â phobl ifanc ac yn mwyhau eu lleisiau, mae posib creu canlyniadau pwerus, gonest ac effeithiol.
Halyna Soltys
23 Mawrth 2026
Meic
Cydgynllunio
Gwybodaeth
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd
Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]
Newyddion
Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd
Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]
Llinell Gymorth
Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng
Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]