Croeso Marley

Mae ProMo Cymru yn falch iawn o groesawu Marley Mussington i’r tîm fel ein Intern Busnes.

Mae Marley wedi graddio mewn Rheoli Digwyddiadau ar ôl cyfnod o astudio ym Manceinion tan 2024. Yn ystod ei chyfnod ym Manceinion, llwyddodd Marley i gynllunio a chyflawni amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan ddangos sgiliau trefnu a chreadigrwydd cryf. Enillodd brofiad gwerthfawr yn gweithio mewn nifer o ddigwyddiadau ar draws y ddinas, o uwchgynadleddau rhyngwladol a chynadleddau busnes i briodasau a gwyliau cerddoriaeth, gan fireinio ei gallu i ffynnu mewn amgylcheddau dynamig o dan bwysau uchel.

Yn ogystal â’i phrofiad digwyddiadau, mae Marley wedi canolbwyntio’n drwm ar waith hyrwyddo, gan ddylunio deunyddiau marchnata a chreu cynnwys cyfryngau cymdeithasol diddorol i hybu presenoldeb ac ymwybyddiaeth. Mae hefyd wedi creu digwyddiad ei hun i godi arian ar gyfer yr elusen Venture Arts, gan arddangos ei menter a’i hangerdd dros gefnogi’r gymuned.

Delweddau a phosts i hyrwyddo digwyddiad codi arian a drefnwyd gan Marley yn ystod ei hastudiaethau

Yn ProMo Cymru, mae Marley yn gweithio ar draws ein hadran Cyllid ac Adnoddau Dynol, yn parhau i ddatblygu ei galluoedd dadansoddol a’i dealltwriaeth o weithrediadau busnes.

“Rwy’n angerddol am adnoddau dynol a chyllid am fy mod yn credu bod y meysydd yma’n hanfodol i greu timau effeithlon ac effeithiol, sy’n bwysig iawn wrth reoli digwyddiadau,” meddai Marley.

“Mae deall ochr ariannol prosiectau a’r agwedd adnoddau dynol o reoli talent yn helpu i greu digwyddiadau mwy llyfn ac effeithiol. Rwy’n gyffrous am y cyfle i ddysgu a thyfu yn ProMo, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu mwy wrth i mi barhau i ymgartrefu yn fy rôl.”

Croeso i’r tîm, Marley!

Tania Russell-Owen
20 Mawrth 2025

star

Newyddion

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889