Dathlu Dwy Flynedd o Pantri EVI a Caffi Trwsio EVI

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Pantri EVI a’r Caffi Trwsio wedi dod yn adnoddau hanfodol i’r gymuned, yn helpu pobl i arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi’i gilydd. Yn ddiweddar, daethom at ein gilydd i ddathlu’r gwaith yma gyda pharti pen-blwydd.


ProMo Cymru yw gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy (EVI), adeilad Gradd II sydd yn ofod croesawus i gymuned Blaenau Gwent a thu hwnt. Mae EVI yn gartref i amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau hyfforddiant, llesiant, a chymunedol, ac mae’n newid o hyd i ymateb i anghenion y gymuned leol. Mae arloesiad wrth galon popeth sydd yn cael ei wneud, gan sicrhau bod EVI yn parhau i fod yn ganolfan ffyniannus ar gyfer cymorth, dysgu, a chysylltu.

Yn ddiweddar, dathlwyd dwy flynedd o Bantri a Chaffi Trwsio EVI! Diolch enfawr i bawb a ddaeth draw am deisen, trwsio, a chymorth cymunedol. Hyfryd oedd gweld cymaint o wynebau hen a newydd yn dod at ei gilydd i nodi’r garreg filltir hon.

Roedd awyrgylch y parti yn wych! Staff, gwirfoddolwyr, ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd i rannu hanesion, mwynhau teisen flasus, a chyfle i weld effaith y mentrau cymunedol yma.

Ein Heffaith Dros Ddwy Flynedd

Ers lansio fis Chwefror 2023, mae’r Caffi Trwsio a’r Pantri wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn y gymuned.

Caffi Trwsio EVI

Mae’r Caffi Trwsio yn le i wirfoddolwyr ddefnyddio’u sgiliau i drwsio offer trydan y tŷ, beiciau, dillad, gemwaith, a mwy, unwaith y mis – yn helpu pobl i arbed arian, lleihau gwastraff a dysgu sgiliau newydd. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae:

  • 268 o eitemau wedi cael eu trwsio, gan arbed 564kg o wastraff rhag mynd i’r safle tirlenwi
  • Dros £27,000 wedi ei arbed mewn costau gorfod prynu rhywbeth o’r newydd

Pantri EVI

Mae’r Pantri cymunedol yn agored bob wythnos ac yn cynnig nwyddau fforddiadwy i dai lleol, gan sicrhau mynediad i fwydydd ffres, o ansawdd, wrth leihau gwastraff bwyd a chefnogi’r gymuned. Dros y ddwy flynedd diwethaf mae:

  • 450+ o gartrefi ym Mlaenau Gwent wedi derbyn cymorth
  • 5,200+ o ymweliadau, gan arbed £73,600 o filiau siopa i’r gymuned
  • 190 o hamperi Nadolig a Phasg wedi’u dosbarthu i’r rhai sydd mewn angen

Happy Birthday Cake

Mae’r llwyddiannau anhygoel yma yn dangos faint gallem ei gyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd – arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi ein gilydd fel cymuned.

Diolch!

We couldn’t have done this without our volunteers, funders, donors, and every single person who has supported EVI Repair Café and Pantry! Whether you’ve helped repair an item, stocked the pantry shelves, shared a friendly smile, or spread the word, you are part of this incredible community effort.

Visit www.evi.cymru to learn more.

ProMo Cymru operates and is the custodian of Ebbw Vale Institute. EVI is funded through the UK Shared Prosperity Fund.

Megan Lewis
15 Ebrill 2025

star

Cynaliadwyedd

star

Institiwt Glyn Ebwy

star

Adfywio

divider

Erthyglau Perthnasol

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]

star

Newyddion

Pennod Newydd i ProMo wrth i Marco Adlewyrchu ar 27 o Flynyddoedd

Yn dilyn bron i dair degawd o arwain ProMo Cymru, mae’r Prif Weithredwr Marco Gil-Cervantes yn camu i lawr i swydd strategol newydd fel Cyfarwyddwr Datblygu. Ble gychwynnodd popeth Cychwynnodd taith Marco gyda ProMo 27 mlynedd yn ôl, pan ymunodd â Chymdeithas Datblygu Gydweithredol De Cymru fel gweithiwr prosiect. Ei dasg oedd cefnogi pobl ifanc […]

Meic logo
star

Llinell Gymorth

Ymchwil Annibynnol yn Amlygu Rôl Meic yn Cefnogi Pobl Ifanc mewn Argyfwng

Mae ymchwil genedlaethol yn archwilio sut mae Meic yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod eu cyfnodau anoddaf. Golwg Genedlaethol ar Gymorth mewn Argyfwng Cynhaliodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) brosiect CAMH-Crisis2 rhwng 2023 a 2025. Roedd yr astudiaeth yn mapio gwasanaethau argyfwng […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889