Cyfle â Thâl: Ymunwch â Phanel Profiad Bywyd Ymchwil Iechyd Meddwl GIG Cymru
Rydyn ni’n chwilio am bobl 14 oed a hŷn i ymuno â 2 grŵp (1 ar gyfer pobl ifanc ac 1 ar gyfer oedolion) i’n helpu i lunio ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru.
Gwybodaeth am y prosiect ymchwil
Mae pobl yn y DU yn aml yn aros am hir i gael cymorth iechyd meddwl. Yng Nghymru, mae system newydd yn cael ei chyflwyno o’r enw gwasanaethau iechyd meddwl ‘mynediad agored’.
Mae hyn yn golygu:
Bydd pobl yng Nghymru yn gallu dewis y math o gymorth maen nhw ei eisiau a byddan nhw’n gallu cael help ar yr un diwrnod ag y byddan nhw’n gofyn.
Rydyn ni’n cynnal prosiect ymchwil cenedlaethol i ddeall a yw’r dull newydd hwn yn gweithio’n dda i bobl a gwasanaethau.
Rydyn ni angen eich help
Rydyn ni angen eich help i gynllunio’r astudiaeth ymchwil hon. Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â phrofiad bywyd o anawsterau iechyd meddwl neu sy’n gofalu am rywun sydd ag anawsterau o’r fath. Bydd eich profiad bywyd yn ein helpu i gynllunio’r astudiaeth. Bydd eich safbwynt yn helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn ddefnyddiol ac yn adlewyrchu bywyd go iawn.
Rydyn ni’n sefydlu dau ‘Banel Profiad Bywyd’. Bydd y grwpiau yn ein helpu i arwain a chefnogi’r ymchwil.

Dyma beth rydyn ni’n chwilio amdano:
- Pobl ifanc (14-20 oed) ac oedolion (18 oed a hŷn)
- Pobl sydd â phrofiad o anawsterau iechyd meddwl/sy’n gofalu am oedolyn sydd ag anawsterau o’r fath
- Pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl y GIG, neu wedi ceisio am gymorth
Nid oes angen i chi wybod unrhyw beth am ymchwil – byddwch yn dysgu am hynny fel rhan o’r prosiect. Bydd eich profiad yn ein helpu i sicrhau bod yr ymchwil yn deg, yn glir ac yn ddefnyddiol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Byddwn yn cwrdd fel grŵp naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Fel aelod o’r panel, byddwch yn:
- Helpu i sicrhau bod yr iaith a’r termau a ddefnyddir yn yr ymchwil yn glir, yn hawdd eu deall ac yn berthnasol i’r cyhoedd
- Rhannu eich syniadau am y ffordd orau o hyrwyddo’r ymchwil i’r cyhoedd
- Darllen a rhoi adborth i ni ar wybodaeth am y prosiect
- Ein helpu i wneud synnwyr o’n canfyddiadau o safbwynt y cyhoedd
Nid oes angen unrhyw arbenigedd penodol arnoch i ymuno â’r grŵp. Byddwn yn darparu hyfforddiant os hoffech chi hynny. Mae angen i chi allu ymuno â chyfarfod o bell, naill ai ar ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Os yw mynediad i’r rhyngrwyd yn broblem i chi, cysylltwch â ni i drafod (sarah@promo.cymru).

Cyfarfodydd a thaliadau
Fel arfer, bydd cyfarfodydd y prosiect yn cael eu cynnal ar-lein ac yn para tua 1–2 awr. Rydyn ni’n disgwyl cynnal tua 4–6 cyfarfod y flwyddyn, er efallai y bydd cyfarfodydd ychwanegol yn cael eu trefnu weithiau. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw. Efallai y byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gallwn drafod hyn gyda chi os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni.
Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i fod yn gyfeillgar ac yn gefnogol, gan sicrhau profiad cadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd gan ddefnyddio dull cyd-ddylunio, sy’n golygu y bydd eich llais yn cael ei werthfawrogi’n gyfartal ochr yn ochr â’r ymchwilwyr, a bydd eich syniadau’n llywio’r prosiect yn uniongyrchol.
Byddwch yn cael £27.50 yr awr am eich amser i baratoi ar gyfer pob cyfarfod a mynd iddynt. Bydd hyn yn cael ei dalu mewn talebau os ydych chi dan 16 oed. Gallwch ofyn am lai os bydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb erbyn Dydd Sul 1af o Dachwedd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: sarah@promo.cymru
Alex
28 Awst 2026
Newyddion
Swyddi
Erthyglau Perthnasol
Newyddion
Croeso, Bethan!
Mae ProMo Cymru yn falch o groesawu Bethan Gallivan i’r tîm fel ein Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Cymraeg newydd! Mae gan Bethan radd mewn Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, ac yn dod â thair blynedd o brofiad o’i swydd flaenorol mewn elusen sy’n ffocysu ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Yn y rôl hon, bu’n […]
Cynllunio Gwasanaeth
O Went i Helsinki: Cyfnewidfa Iechyd Meddwl
Ym mis Medi 2026, teithiodd naw o Gynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed Meddwl Ymlaen Gwent i Helsinki am wythnos o ddysgu ar y cyd gyda’r sefydliad ieuenctid Ffinnaidd Yeesi, wedi’u cyllido gan Taith. Wedi’i ysgrifennu gan Lexy, Cynlluniwr Gwasanaeth Cyfoed, Meddwl Ymlaen Gwent Cefndir Meddwl Ymlaen Gwent Mae prosiect Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn gydweithrediad 5 mlynedd […]
Newyddion
Enillydd Cyntaf Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield
Mae Cyfarwyddwr Datblygiad ProMo Cymru, Marco Gil-Cervantes, wedi ennill Gwobr Cyflawniad Eithriadol Graham Benfield yng Ngwobrau Elusennau Cymru 2026. Derbyniodd Marco’r wobr mewn seremoni yn yr Hilton, Caerdydd, ar 15fed Hydref 2026. Gwobr newydd gydag ystyr arbennig Mae’r wobr yn newydd eleni. Fe’i henwir er cof am Graham Benfield, a oedd yn Brif Weithredwr CGGC […]