Hyfforddiant Iechyd Meddwl Am Ddim yng Ngwent

Group of 5 young people delivering training in front of a room of professionals

Dewch i ni fod yn onest: gall siarad am iechyd meddwl deimlo braidd yn lletchwith weithiau. Ond nid oes rhaid iddo fod fel hyn!


Mae cael sgyrsiau agored a chefnogol yn hynod bwysig ar gyfer ein lles. Dyna pam fod prosiect Meddwl Ymlaen Gwent wedi camu ymlaen i gynnig sesiynau hyfforddiant rhyngweithiol, am ddim, i helpu gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc yng Ngwent i fagu’r sgiliau a’r hyder i gynnal y sgyrsiau pwysig yma.

Ar gyfer gweithwyr proffesiynol: Mwyhau eich cefnogaeth i bobl ifanc

Ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc yng Ngwent? Mae ein ‘Gweithdy Sgyrsiau Iechyd Meddwl’ wedi’i deilwra i chi. Mae’n sesiwn ryngweithiol ddwy awr sydd ar gael ar-lein ac wyneb i wyneb. Fe’i datblygwyd, ac mae’n cael ei gyflwyno, gan bobl ifanc! Felly byddech chi’n cael safbwyntiau dilys, bywyd go iawn, ar sut i gefnogi pobl ifanc mewn ffyrdd sydd wir yn gynorthwyol iddynt.

Yr hyn byddech chi’n derbyn:

  • Dealltwriaeth ddyfnach o iechyd meddwl a lles pobl ifanc
  • Adnoddau ymarferol i ymdrin â sgyrsiau iechyd meddwl gyda mwy o hyder
  • Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a derbyn adborth amser real, gan sicrhau eich bod chi’n teimlo’n fwy parod yn dilyn yr hyfforddiant

Mae’r gweithdy yma’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc, gan gynnwys athrawon ysgol, gweithwyr ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon, a hwyluswyr clybiau ar ôl ysgol.

Os yw hyn yn swnio fel y byddai’n berffaith ar gyfer chi neu’ch tîm, cofrestrwch am sesiwn am ddim!

Ar gyfer pobl ifanc: Meithrin hyder wrth gefnogi dy hun a dy ffrindiau

Eisiau cael gwell gafael ar iechyd meddwl, boed hynny i ti dy hun neu i roi help llaw i dy ffrindiau? Mae ein sesiynau rhyngweithiol dwy awr am ddim yn unigryw gan mai pobl ifanc sy’n eu cyflwyno ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn creu lle diogel a chefnogol lle fedri di ddysgu, rhannu, a meithrin hyder go iawn wrth siarad am iechyd meddwl. Dim distawrwydd lletchwith, ond sgyrsiau gonest a sgiliau ymarferol.

Yn y gweithdy yma, byddi di’n archwilio:

  • Beth mae iechyd meddwl yn ei olygu mewn gwirionedd
  • Sut mae sgyrsiau agored yn helpu i chwalu stigma
  • Sut i adnabod pan fydd rhywun efallai angen cefnogaeth a sut i’w gynnig
  • Gweithgareddau a chwarae rôl i roi hwb i dy sgiliau gwrando a chyfathrebu
  • Cysyniadau pwysig fel ymddiriedaeth, gosod ffiniau, a deall cyfrinachedd er mwyn helpu ti i deimlo’n fwy parod i siarad am iechyd meddwl gyda ffrindiau

Mae’r sesiwn yma’n berffaith ar gyfer pobl ifanc 14 i 25 oed, sy’n byw yng Ngwent.

P’un a wyt ti’n cefnogi ffrind rwyt ti’n poeni amdanynt neu dim ond eisiau dysgu mwy, bydd y sesiwn yma’n rhoi’r adnoddau i ti i gael sgyrsiau agored a chefnogol am iechyd meddwl a lles.

Byddem wrth ein boddau i ti  ymuno â ni! Cofrestra am sesiwn am ddim i ti a dy ffrindiau, neu ofyn i athro neu weithiwr ieuenctid i drefnu sesiwn ar gyfer grŵp ohonoch.

Group of young people at the Mind Our Future Gwent residential. They're posing for a group picture with a sign that reads 'the farm is an outdoor classroom'.

Tania Russell-Owen
10 Gorffennaf 2025

star

Cynllunio Gwasanaeth

star

Hyfforddiant

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889