(Wedi cau) Intern Cymorth Busnes (Interniaeth â thâl)

 (Interniaeth rhan amser – perffaith i fyfyrwyr neu raddedigion)  

 Wyt ti’n awyddus i gychwyn dy yrfa yn y Trydydd Sector? Mae gan ProMo Cymru gyfle interniaeth 6 mis gyda thâl i gael profiad ymarferol o swyddogaethau gweithredol busnes sydd ar ei thyfiant. Ymuna â’n tîm. 

Pam y byddi di’n hoff o weithio yn ProMo Cymru:

Gweithio’n hyblyg ac yn hybrid: Byddem yn gweithio gyda thi i benderfynu oriau sydd yn gweithio i bawb (o fewn oriau swyddfa) a bydd posib gweithio un ai o’n swyddfa yng Nghaerdydd neu o adref, unrhyw le yng Nghymru. 

Gwneud newid: Rydym yn sefydliad Trydydd Sector sydd yn gweithio gyda phobl a chymunedau i sicrhau eu bod yn cael eu clywed.  

Bod yn rhan o dîm: Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig sydd ag ystod eang o brofiadau.  

Dysgu a thyfu: Datblyga dy sgiliau gan gefnogi tyfiant sefydliad prysur.  

Beth fyddi di’n gwneud:

– Cydweithio ar draws dwy adran 

– Cynnal y cyfriflyfr pryniant ynghyd â phrosesau ariannol eraill  

– Cynorthwyo gyda chymorth gweinyddol 

– Cefnogi amrywiaeth o waith AD gan gynnwys iechyd a diogelwch a pholisi 

Cysyllta os: 

– Rwyt ti’n gweithio tuag at, neu gyda gradd mewn maes sy’n ymwneud â Busnes 

– Oes gen ti ddiddordeb cael profiad o weithio mewn sefydliad Trydydd Sector  

– Rwyt ti’n awyddus i ddysgu a datblygu dy sgiliau 

Lleoliad: Gweithio o gartref a/neu’r swyddfa yng Nghaerdydd  

Cyflog: Cyflog byw o £12.60 yr awr  

Oriau: 21 awr yr wythnos   

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025  

Cyfweliadau: 13 Chwefror 2025 

Darganfod mwy am ProMo Cymru: www.promo.cymru  

Diddordeb? Byddem wrth ein boddau yn clywed gen ti!   

Ymholiadau: people@promo.cymru neu 0736 634686  

E-bostiwch y Ffurflen Gais wedi’i lenwi i people@promo.cymru

Megan Lewis
9 Ionawr 2025

star

Newyddion

star

Swyddi

divider

Erthyglau Perthnasol

Group of people gathered on sofa, standing and sitting on floor. All looking at different devices together, smiling.
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau

Hyd at 21 awyr yr wythnos. Caerdydd a gweithio o gartref. Ymuna â’n tîm anhygoel!  Wyt ti’n frwdfrydig am weithio ar brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc a chymunedau i ddylanwadu newid? Mae gennym gyfle cyffroes ar gyfer Cynorthwyydd Cyfathrebu a Phrosiectau i ymuno â’n tîm deinamig a helpu i gyflawni cyfathrebiadau deniadol a phrosiectau effeithiol. Pam y byddi […]

Staff photo of people sat and standing on steps outside a building
star

Swyddi

[Wedi Cau] Cyfle Swydd: Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Cymraeg

Swydd perffaith ar gyfer person creadigol sy’n rhugl yn y Gymraeg Yn galw holl grewyr cynnwys – ymuna â’n tîm creadigol! Wyt ti’n ysgrifennwr creadigol gyda sgiliau iaith Gymraeg rhagorol sy’n chwilio am y cam nesaf yn dy yrfa mewn amgylchedd deinamig? Mae cyfle cyffrous, parhaol, ar gael yn ProMo Cymru ar gyfer Swyddog Cyfathrebu […]

star

Newyddion

Arielle a Cindy yn Camu i’r Adwy fel ein Prif Weithredwyr ar y Cyd

Mae ProMo Cymru yn falch cyhoeddi bod Arielle Tye a Cindy Chen wedi derbyn y rôl o Brif Weithredwyr ar y Cyd. Wynebau cyfarwydd Mae Cindy wedi bod yn rhan o dîm ProMo ers 2008, gyda Arielle yn ymuno yn 2010. Mae’r ddwy wedi tyfu gyda’r sefydliad mewn rolau sydd wedi esblygu dros y blynyddoedd […]


Charity number: 1094652
Company number: 01816889