Marco Gil-Cervantes

Cyfarwyddwr Datblygu

Fel y cyn Prif Weithredwr ers dros 27 mlynedd, Marco fu’r grym y tu ôl i dwf ProMo Cymru i fod yn sefydliad trydydd sector blaenllaw yng Nghymru. Yn ei rôl bresennol, mae’n darparu datblygiad strategol a chynllunio ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod ProMo yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi gymdeithasol; mae hyn yn cynnwys arwain y genhedlaeth nesaf o arweinyddiaeth a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor.

Mae gan Marco arbenigedd mewn economeg gymdeithasol a democratiaeth ddiwylliannol ac mae wedi ymroi ei yrfa i rymuso lleisiau sydd wedi’u hymylu. O dan ei arweinyddiaeth, datblygodd ProMo ddull arweinyddiaeth ddosranedig, lle mae gan bob unigolyn yr asiantaeth i arloesi a chreu newid ystyrlon.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889