Datblygu brand newydd gyda’n tîm creadigol mewnol

Gyda’r broses yn cael ei arwain gan ein tîm creadigol mewnol – rydym wedi trin esblygiad ein hunain gyda’r un lefel uchel o arbenigedd sydd yn cael ei roi i phob prosiect partner.

Cychwyn gyda sgwrs

Cychwynodd adnewyddiad y brand ProMo gyda gweithdai i’r holl staff i adolygu’r brand presennol ac archwilio beth oedd yn llwyddiannus ar hyn y gellid ei wella. Yn y sesiynnau yma, trafodwyd cenhadaeth, gweledigaeth, llais, negeseuon, personoliaeth, gwerthoedd, pwyntiau gwerthu unigryw, a strategaeth gyffredinol ProMo, gan mai’r elfennau yma sydd wedi llywio’r datblygiad hunaniaeth weledol yn uniongyrchol, gan gynnwys lliwiau, logo, a theipograffeg.

Mae tîm staff ProMo yn cynrychioli ystod eang o oedrannau, gan gynnwys pobl ifanc, felly cynlluniwyd y broses i sicrhau ein bod yn gwrando ar safbwyntiau y rhanddeiliaid gwahanol yma. Helpodd hyn i sicrhau y byddai’r brand yn apelio at gynulleidfaoedd proffesiynol a phobl ifanc, gan adlewyrchu rôl ProMo wrth siarad ag amrywiaeth o bobl tra’n parhau i fod yn gredadwy, yn hygyrch, ac yn ddeniadol.

A person stoof in a big hall with a huge screen behind with the promo cymru logo and the words ProMo Cymru Brand Refresh on it. People are around tables listening to the presentation.

Esblygu, nid ailgychwyn

Yn dilyn trafodaeth gyda staff, gwnaethom benderfyniad fydda’n siapio popeth arall: adnewyddiad fyddai hwn, nid ail-frandio. I ddeall pam, edrychwyd yn ôl ar ein gwreiddiau.

Ganwyd ProMo’n wreiddiol o gymuned gydweithredol o greadigwyr ifanc – DJs, dylunwyr, cerddorion. Gelwir yn wreiddiol yn ‘South Wales Co-operative Association’, a dewisodd y bobl ifanc a oedd yn rhan o brosiect newydd ‘ProMo’ fel ei enw, yn cynrychioli ‘Proffesiynoldeb’ a ‘Symudiad’ (Movement). Yr egni yma arweiniodd i’r sefydliad cyfan gael ei hailenwi yn ProMo Cymru. Roedd ein logo gwreiddiol a ddyluniwyd gan berson ifanc, yn cynnwys seren i gynrychioli dyheadau, gobaith a dilyn eich breuddwydion.

Wrth ddewis adnewyddu yn hytrach nag ail-frandio, roedden ni’n gallu: 

  • Cynnal elfennau adnabyddadwy brand ProMo – yn benodol y seren
  • Moderneiddio asedau gweledol a chyfathrebu
  • Diweddaru manylion dylunio fel tonau lliw, cyflwyniad logo, a theipograffeg wrth gadw adnabyddiaeth brand
A screenshot of a mural whiteboard that shows different logo options and people have left ticks or crosses next to them, with some post it notes giving comments.
Defnyddiwyd bwrdd gwyn ar-lein i gasglu barn pawb ar y cynigion dylunio newydd

Dylunio gyda’n gilydd

Unwaith i’r cysyniadau cychwynnol gael eu datblygu, defnyddiwyd Mural (bwrdd gwyn ar-lein) i rannu’r rhain gyda’r tîm cyfan. Gall staff bori drwy’r dyluniadau, gadael sylwadau a chyfrannu syniadau eu hunain yn amser eu hunain, a olygai nad oedd popeth yn ddibynnol ar un cyfarfod mawr, gan sicrhau bod lleisiau distawach yn cael eu clywed hefyd.

O’r adborth yma, penderfynwyd ar logo geiriau – glan, syml, a rhywbeth sydd yn gweithio boed ar wefan, dogfen neu fag tote.

A selection of images showing different logo ideas in different colours and some mock ups of websites and merch including lanyards, jumpers and window stickers.
Ffug-gynlluniau o sut y gallai brand newydd edrych

Mireinio’r manylion

Dilynwyd gydag ail rownd o gysyniadau, wedi’u llunio o adborth y staff. Rhoddwyd dau ddyluniad terfynol ar y rhestr fer a chynnwys staff i ddewis y deipograffeg fwyaf hygyrch a datblygu slogan i’r brand.

Yna aethom ati i greu drafft o sut y byddai’r opsiynau yma yn edrych mewn bywyd go iawn, ac adborth y staff oedd bod hyn wedi helpu i wneud y penderfyniadau terfynol yna yn llawer haws.

Brand y mae pawb yn berchen arno

Brand yw’r ffordd rydych chi’n cyflwyno eich hun i’r byd, ac roedd yn deimlad naturiol y dylai pawb sydd yn gweithio yn ProMo fod yn rhan o’i lunio. Yn ystod y broses, cafodd pob aelod staff gyfle i roi adborth, cynnig newidiadau a phleidleisio ar y cyfeiriad terfynol.

Mae’r dull cydweithredol yma wedi sicrhau bod y brand wedi’i adnewyddu yn adlewyrchu ein gwerthoedd, ein pobl, a’n uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol wrth gynnal cysondeb gyda’r hunaniaeth sydd eisoes wedi’i sefydlu a diwallu anghenion cynulleidfaoedd proffesiynol a phobl ifanc.

Dewch i weithio gyda ni

Diddordeb yn y ffordd rydym yn ymdrin â brandio a chyfathrebu? Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori a dylunio i sefydliadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Os hoffech fanylion pellach am weithio gyda ni yna cysylltwch â auguste@promo.cymru.


Charity number: 1094652
Company number: 01816889