Gwrando ledled Dyfed-Powys i ddeall sut mae bywyd ar-lein yn siapio byd pobl ifanc, y da a’r drwg.

star

Cleient

Cyngor Sir Ceredigion
Heddlu Dyfed Powys – Dyletswydd Trais Difrifol

star

Sector

Cyhoeddus

star

Partneriaid

Emma Chivers – Youth Work Leadership Lab

star

Gwasanaethau

Cynllunio Gwasanaeth
Gwaith Ieuenctid Digidol

Mae’r Adroddiad Darganfod Bywyd Ar-lein yn archwilio beth mae bod ar-lein yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl ifanc heddiw – y pethau positif, y pwysau, a phopeth yn y canol.

Wedi’i gomisiynu gan Gyngor Ceredigion, ei gyflwyno mewn cydweithrediad â’r Lab Arweinyddiaeth Gwaith Ieuenctid, ac wedi’i ariannu drwy’r Ddyletswydd Trais Difrifol, mae’r darn gwaith Darganfod yma yn gam cyntaf yn y fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth. Y nod: gwrando, dysgu, a magu dealltwriaeth cyn cynllunio unrhyw ymyriadau neu ddatrysiadau yn ymwneud â niwed ar-lein.

Mae’n rhan o ymateb strategol ehangach gyda Phartneriaeth Trais Difrifol a Throseddu Trefnedig Dyfed-Powys ac yn cefnogi nod Cyngor Ceredigion a’i Wasanaeth Ieuenctid i gydnabod y gall yr hyn sy’n digwydd mewn mannau digidol effeithio ar fywyd go iawn, ac i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir yn ddigon cynnar.

Gan weithio ar draws ardal Dyfed-Powys, siaradom â channoedd o bobl ifanc am eu bywydau ar-lein bob dydd – o TikTok a gemau i ddysgu, cyfeillgarwch, ac iechyd meddwl – yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi. Dadansoddwyd y mewnwelediadau yma a dod a phopeth at ei gilydd mewn Adroddiad Darganfod.

Yr Hyn Darganfuwyd

Mae mannau ar-lein yn ganolog i fywydau pobl ifanc, gan lunio sut maent yn dysgu, cyfathrebu, a mynegi eu hunain. Dywedodd y mwyafrif eu bod yn treulio’r mwyafrif o’u hamser ar-lein yn sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol – gyda TikTok yn arwain y ffordd – ac roedd sawl un yn ei ddisgrifio fel lle ar gyfer creadigrwydd, hiwmor, a chysylltiad. Dywedodd bron i hanner fod bod ar-lein yn gwneud iddynt deimlo’n “dda ar y cyfan“, a dywedodd un o bob pump fod cynnwys ar-lein wedi newid eu hymddygiad mewn ffordd bositif, o ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu arferion iachach.

Ond nid yw bob amser yn bositif. Roedd bron i hanner (47%) wedi gweld cynnwys niweidiol neu gynhyrfus, roedd un ymhob tri wedi profi sylwadau cas neu fwlio, ac roedd un ymhob pedwar wedi derbyn negeseuon digroeso gan ddieithriaid. Dywedodd llawer nad yw adrodd am gynnwys niweidiol yn helpu, ac roedd 45% wedi dod ar draws deunydd eithafol neu gasinebus.

Roedd y darlun o safbwynt gweithwyr proffesiynol yn wahanol. Er bod pobl ifanc yn cydnabod pethau positif a risgiau, ni ddisgrifiodd yr un gweithiwr proffesiynol yr effaith fel un “positif ar y cyfan.” Dywedodd dros draean fod y byd ar-lein yn negyddol ar y cyfan o ran lles, a dywedodd chwarter yr un peth am ymddygiad. Dywedodd llawer wrthym hefyd fod angen mwy o gymorth arnynt i ddeall llwyfannau, algorithmau a thueddiadau ar-lein – gan adlewyrchu’r bwlch mewn dealltwriaeth rhwng cenedlaethau.

Pam Bod Hyn Yn Bwysig

Mae’r mewnwelediadau yma yn helpu Cyngor Ceredigion a’i phartneriaid i gynllunio ymatebion gwell i niwed ar-lein a lles digidol. Mae’r canlyniadau yn dangos bod angen i oedolion beidio meddwl am fywyd ar-lein fel rhywbeth gwbl negyddol – mae hwn hefyd yn le i bobl ifanc ddysgu, tyfu a chysylltu.

Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar bontio’r bwlch yma. Rydym yn galw am ddatrysiadau wedi’u cyd-gynllunio sy’n dod â phrofiadau bywyd pobl ifanc ynghyd ag arbenigedd proffesiynol, ac am gynnig gwaith ieuenctid digidol sy’n cyflwyno cefnogaeth ddibynadwy i’r llwyfannau y mae pobl ifanc eisoes yn eu defnyddio.

Rydym hefyd yn argymell sicrhau bod llythrennedd cyfryngau yn rhan barhaus o ddysgu, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i feithrin meddwl beirniadol am algorithmau, camwybodaeth a dylanwad ar-lein. Ac mae angen i ni gyfarparu rhieni, athrawon a gweithwyr ieuenctid â’r hyfforddiant a’r hyder i gael sgyrsiau agored am fywyd ar-lein heb unrhyw feirniadaeth.

Mae’r mewnwelediadau yma yn gosod y sylfaen ar gyfer gwaith yn y dyfodol i gryfhau lles digidol a phrofiadau positif ar-lein ledled Dyfed-Powys.

Troi Mewnwelediad yn Gweithredu

Rydym yn cydweithio gyda sefydliadau i gasglu mewnwelediadau a’i droi’n gweithredu – yn cyd-gynllunio prosiectau a gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sydd yn canolbwyntio ar y person. Cysylltwch i archwilio sut y gallem weithio gyda’n gilydd.




Charity number: 1094652
Company number: 01816889