✕

Troi canllawiau technegol ar ddeallusrwydd artiffisial yn adnoddau dwyieithog syml ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol

star

Cleient

Gofal Cymdeithasol Cymru

star

Sector

Gofal Cymdeithasol

star

Partneriaid

star

Gwasanaethau

Cynllunio Gwasanaeth
Cyfryngau

Beth oedd y broblem?

Gofal Cymdeithasol Cymru yw’r corff sy’n rheoleiddio ac yn cefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. Roedd eu staff, ar y cyd â grŵp peilot o wirfoddolwyr, wedi llunio canllawiau AI ar gyfer y sector. Roedd yn cynnig cyngor clir ynghylch pryd y gall AI fod o gymorth a phryd y dylid bod yn ofalus, ac roedd yn gynhwysfawr. Y broblem oedd gwneud y cynnwys yn syml ac yn hawdd ei ddeall. Y bobl a oedd fwyaf angen y wybodaeth yma oedd gweithwyr gofal prysur, ac ni fyddent yn debygol o ddewis darllen dogfen dechnegol hir.

Gofynnodd Gofal Cymdeithasol Cymru i ni drawsnewid y canllawiau yn rhywbeth y gallai pobl ei ddefnyddio pan roedd ganddynt ychydig o amser rhydd yn eu diwrnod gwaith. Y nod a osodwyd gennym oedd: hawdd i’w ddarganfod, hawdd ei ddeall , hawdd gweithredu arno.

Yr hyn a gafodd ei greu

Gan ganolbwyntio ar brif themâu’r canllaw, cynhyrchwyd cyfres o adnoddau sy’n helpu pobl i ddysgu beth yw AI a pham ei fod yn bwysig i ofal cymdeithasol, i ddeall yr egwyddorion allweddol ar gyfer ei ddefnyddio’n gyfrifol, ystyried cydsyniad gwybodus, a nodi’r meysydd lle gallai wir gefnogi eu gwaith.

  • Animeiddiad byr, yn Gymraeg a Saesneg, gyda thrawsgrifiad llawn
  • Chwe phoster A3 yn nodi’r hyn y dylid ei wneud a’r hyn na ddylid ei wneud, wedi’u cynhyrchu yn y ddwy iaith
  • Cyflwyniad sleidiau rhyngweithiol dwyieithog ar gyfer sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd tîm
  • Deuddeg graffig cyfryngau cymdeithasol ym mhob iaith

Mae’r animeiddiad a’r posteri bellach wedi’u cyhoeddi ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn adran Y Grŵp Gwybodaeth:

Cynllunio gyda’r sector

Defnyddiwyd dull cynllunio gwasanaeth, yn cychwyn gyda chasglu adborth gan ddefnyddwyr go iawn. Roedd ein cyfnod darganfod yn cynnwys adolygu’r canllawiau presennol a chyfarfod â staff a rhanddeiliaid Gofal Cymdeithasol Cymru i ymchwilio i’r themâu pwysicaf.

Cyflawnwyd y gwaith gan dîm amlddisgyblaeth a oedd yn cynnwys ysgrifennu cynnwys, dylunio graffeg, cynhyrchu cyfryngau a hyfforddiant. Defnyddiwyd dull ysgrifennu triawd drwyddo-draw; mae hyn yn dod â dylunydd cynnwys, arbenigwr pwnc a chyfieithydd at ei gilydd i weithio ar yr un darn o gynnwys o’r cychwyn cyntaf, fel bod y Gymraeg yn cael ei hysgrifennu ochr yn ochr â’r Saesneg.

Profi a gwneud newidiadau

Cynhaliwyd sesiwn adborth yng Nghaerdydd, lle cyflwynwyd posteri drafft a dwy sgript fideo drafft. Roedd yr adborth ar y posteri yn ymwneud â’r cynllun, eglurder, delweddau a sut y byddai’r adnoddau’n cael eu defnyddio. O ran y sgriptiau animeiddio, nodwyd y dylid lleihau’r iaith dechnegol a defnyddio geiriau mwy cefnogol.

Daeth y newid mwyaf yn sgil cwestiwn nad oeddem wedi’i ddisgwyl. Y briff oedd creu dau fideo ar wahân: un ar gyfer yr hyn y dylid ei wneud ac un ar gyfer yr hyn na ddylid ei wneud. Dywedodd pobl nad oedd hyn yn gwneud synnwyr iddynt. Os oeddent am ddysgu am AI, roeddent am wylio un fideo, hyd yn oed os oedd rhaid gwylio’n hirach. Felly, crëwyd un animeiddiad hirach a oedd yn ymdrin â’r ddau agwedd, a’i gynhyrchu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cafwyd ail rownd o adborth gyda grŵp o staff Gofal Cymdeithasol Cymru a oedd eisoes yn gyfarwydd ag AI a’r ddogfen bolisi; galluogodd hyn ni i brofi’r manylion yn hytrach na’r pethau sylfaenol.

Yr hyn a ddysgwyd

Mae gofal cymdeithasol yn sector sy’n canolbwyntio ar bobl, ac mae iaith bersonol yn bwysig. Roedd sesiynau adolygu rheolaidd a dull gweithio hyblyg yn golygu y gallem weithredu ar sail yr hyn a glywsom yn hytrach na dim ond ei nodi ar gyfer y tro nesaf.

Gallwn eich helpu i adrodd eich stori mewn ffordd y gall pobl ei deall a gweithredu arni. Os oes gennych ganllawiau, polisi neu wybodaeth arbenigol sydd ddim yn cyrraedd y bobl bwriedir, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i’w cyrraedd. Cysylltwch â ni: auguste@promo.cymru


Charity number: 1094652
Company number: 01816889