Helpu pobl ifanc yng Nghymru i bleidleisio ar ffeithiau, nid camwybodaeth

star

Cleient

Ofcom

star

Sector

– Llythrennedd Digidol
– Democratiaeth

star

Partneriaid

Parent Zone; VoiceBox; Scottish Youth Parliament; Young Scot; and FactCheckNI

star

Gwasanaethau

– Gwaith Ieuenctid Digidol
– Cyfryngau
– Cydgynllunio

Etholiad y Senedd 2026 yw’r tro cyntaf i bobl 16 a 17 oed ledled Cymru gael cyfle i bleidleisio. I lawer ohonynt, eu ffrwd cyfryngau cymdeithasol yw’r brif ffynhonnell wybodaeth sydd ganddynt. Dangosai ymchwil yn gyson bod pobl ifanc yn dod ar draws cynnwys gwleidyddol ar-lein mewn amgylchedd cyflym, gydag algorithmau wedi’u curadu. Mae llawer yn ddiffyg yr hyder i asesu’r hyn y gwelant. Mae camwybodaeth yn lledaenu mewn dim, ac mae etholiadau yn gyfnod perffaith i hyn.

Mewn partneriaeth â Parent Zone, mae ProMo yn cyflwyno rhan Cymru o raglen Lleisiau Gwybodus Ofcom. Rhaglen ledled y DU yw hwn sydd yn meithrin gwydnwch pobl ifanc tuag at gamwybodaeth a thwyllwybodaeth yn y cyfnod cyn etholiadau. Ein rôl ni yw sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei greu mewn ffordd sydd yn teimlo’n ddilys i bobl ifanc Cymru.

Golygai hyn bod angen cychwyn gyda’r bobl ifanc eu hunain. Cyn cynhyrchu unrhyw beth, cynhaliodd ProMo sesiynau cyd-gynllunio lle gall pobl ifanc rannu’r dylanwadwyr Cymreig yr oeddent yn ymddiried ynddynt, pa fformatau cynnwys y byddent yn eu gwylio mewn gwirionedd, a’r hyn y byddai eu cyfoedion yn ei gredu neu beidio. Lluniodd hyn ddyluniad y fideos, y cwis rhyngweithiol, y postiadau cymdeithasol, a chalendr cynnwys dwyieithog pedair wythnos ar TheSprout ac ar draws cyfryngau cymdeithasol.

Beth oedd y broblem?


Mae pobl ifanc yng Nghymru, llawer ohonynt yn pleidleisio am y tro cyntaf, yn penderfynu pwy i bleidleisio amdanynt mewn amgylchedd gwybodaeth sydd ddim wedi’i gynllunio i fod yn ddibynadwy.

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn fwy tebygol nag unrhyw genhedlaeth flaenorol o ffurfio barn wleidyddol drwy gyfryngau cymdeithasol. Ond mae’r un llwyfannau sy’n hysbysu hefyd yn camarwain, gan chwyddo’r pethau uchel, cynhyrfus a ffug.  Mae algorithmau’n gwobrwyo ymgysylltiad, nid cywirdeb.

Ar yr un pryd, yn aml mae cynnwys cyfryngau traddodiadol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn methu â chyrraedd cynulleidfaoedd Cymru. Anaml y mae cynnwys a gynhyrchir yn Llundain ar gyfer cynulleidfa ledled y DU yn gwahaniaethu rhwng materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl sydd yn drysu pleidleiswyr ifanc am yr hyn y mae’r Senedd yn ei reoli, a’r hyn y gall ei newid mewn gwirionedd.

@feedthesprout

Wedi cael llond bol ar y pethau ar dy ffrwd? 👀 Efallai dy fod di’n gweld llawer o gamwybodaeth neu dwyllwybodaeth Cyn i ti rannu rhywbeth, cer i chwilio am y prawf ar wefannau newyddion gallet ti ymddiried ynddynt Eisiau deall mwy am hyn? Cer draw i’n hymgyrch Gwirio Dy Ffrwd, dolen yn y bio! 🧐 #Senedd2026 #GwirioDyFfrwd #EtholiadauSenedd #Camwybodaeth #Twyllwybodaeth @Ofcom

♬ original sound – TheSprout

Ein dull

Yn hytrach na defnyddio ymgyrch genedlaethol generig, rydym wedi adeiladu rhywbeth sydd â gwreiddiau yng Nghymru. Gan weithio gyda chrewyr cynnwys ifanc o Gymru, rydym wedi cyd-gynllunio fideos, cwisiau ac adnoddau sy’n siarad â chynulleidfaoedd Cymraeg yn y ddwy iaith gan gyfeirio at gyd-destun penodol etholiad y Senedd, nid etholiadau yn gyffredinol.

Roeddem yn awyddus i’r ymgyrch deimlo fel bod ei wreiddiau yma yng Nghymru. Siaradom gyda dros gant o bobl ifanc Cymru i ddod i ddeall eu hanghenion ac i gael adborth ar yr ymgyrch, gan weithio gyda chrewyr cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru i greu’r cynnwys yr oeddent eisiau ei weld.

Darganfod ac ymchwil

Cynhaliwyd sesiynau ymgynghori yng Nghaerdydd ac ar-lein gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru i ddeall sut mae pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol ac yn cael eu gwybodaeth.

Darganfuwyd:

  • Mae pobl ifanc yn or-amheus: Roedd gweld gwybodaeth gamarweiniol mor gyfarwydd iddynt fel eu bod yn aml yn nodi lluniau go iawn fel rhai ffug. Sylweddolwyd bod angen dysgu iddynt sut i wirio’r gwir, nid sut i adnod gwybodaeth ffug yn unig
  • Nid oeddent eisiau darlith: Os oedd y cynnwys yn teimlo fel pe bai athro yn ei esbonio iddynt, roeddent yn sgrolio heibio. Felly, roedd rhaid creu cynnwys mewn ffordd berthnasol

Creu ymgyrch

I helpu pobl ifanc i lywio eu ffrwd, roeddem yn awyddus i  annog dull Pentyrru Arferion – y syniad yw ychwanegu cam bach, defnyddiol i arfer digidol sydd gan bobl ifanc eisoes (fel sgrolio TikTok).

Bûm yn gweithio â chrewyr Cymreig dibynadwy gan gynnwys Molly Fenton (Love Your Period), Lucy Palmer a Molly Brown (TheSprout), Gwion Rhisiart, a Maddy Dhesi (Senedd Explained). Gan fod ganddyn nhw ddilynwyr ifanc Cymreig eisoes, roedd yr ymgyrch yn teimlo’n fwy fel awgrym gan ffrind nag fel gwers gan athro.

@feedthesprout

Mae gan Gwion o @Senedd Explained ychydig o gyngor i rannu am adnabod ac osgoi camwybodaeth yn arwain at etholiadau’r Senedd: 🤖AI ⚙️Algorithmau 🎯Bwriad Eisiau deall mwy am hyn? Cer draw i’n hymgyrch Gwirio Dy Ffrwd, dolen yn y bio! 🧐 #Senedd2026 #GwirioDyFfrwd #EtholiadauSenedd #Camwybodaeth #Twyllwybodaeth @Ofcom

♬ original sound – TheSprout

Cyflwyno’r ymgyrch

Mae’r ymgyrch ddwyieithog ‘Gwirio Dy Ffrwd / Fact Check Your Feed‘ yn cael ei chynnal ar draws gwefan, TikTok, YouTube ac Instagram TheSprout yn ystod mis Ebrill hyd at ddiwrnod y bleidlais ar 7 Mai.

Mae’n cynnwys:

Mae’n cwmpasu:

Mae’r holl gynnwys yn cael ei gynnal ar TheSprout.co.uk, platfform cenedlaethol dibynadwy ProMo ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, gan roi cartref Cymreig i’r ymgyrch a sicrhau ei bod yn parhau i fod yn hygyrch y tu hwnt i’r etholiad ei hun.

Ochr yn ochr â’r cynnwys sy’n wynebu pobl ifanc, rydym hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol – gweithwyr ieuenctid, athrawon a staff sy’n wynebu teuluoedd gydag adnoddau i gael sgyrsiau gwell am lythrennedd cyfryngau gartref ac yn eu lleoliadau. Cynigiwyd hyfforddiant llythrennedd cyfryngau am ddim i sefydliadau gan ein partneriaid Parent Zone fel rhan o’r prosiect Lleisiau Gwybodus, gyda phob cyfranogwr yn cael trwydded am ddim i’w rhaglen llythrennedd cyfryngau Everyday Digital.

Rydym wedi dechrau casglu adborth am yr ymgyrch gyda grwpiau ieuenctid, gyda sesiynau pellach ac arolwg ar-lein wedi’u cynllunio. Bydd hyn yn helpu i lywio cam nesaf y prosiect.

Rhan o rywbeth mwy

Cychwyn rhaglen hirach yw’r prosiect yma. Mae Lleisiau Gwybodus yn rhedeg hyd at etholiad cyffredinol nesaf y DU yn 2029. Y nod yw darparu datrysiadau sy’n galluogi pobl ifanc i ymgysylltu’n feirniadol â democratiaeth.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith hwn, neu sut allwch chi ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc yng Nghymru, cysylltwch â arielle@promo.cymru


Charity number: 1094652
Company number: 01816889