Grymuso pobl ifanc i greu a gweithredu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol

star

Cleient

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

star

Sector

Trydydd Sector a Sector Cyhoeddus

star

Partneriaid

Mind Casnewydd
Gwasanaethau Ieuenctid yng Ngwent
Minds lleol yng Ngwent

star

Gwasanaethau

Cynllunio Gwasanaeth
Cyfryngau Digidol wedi’u Cyd-gynllunio
Hyfforddiant ac Ymgynghoriad

Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect £999,888.00 ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd yn cael ei gyflwyno gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd. Mae sefydliadau Mind lleol Gwent a gwasanaethau ieuenctid Gwent yn bartneriaid prosiect hefyd.

Beth oedd y broblem?

Yn 2020, daeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol â Thîm Pobl Ifanc yn Arwain at ei gilydd i gynnal ymchwil am yr hyn sydd yn bwysig i bobl ifanc Cymru. Bu’r tîm yn cyfweld â 60 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru a chanfod mai’r pethau pwysicaf oedd iechyd meddwl, cyflogaeth a’r amgylchedd. Fodd bynnag, roedd pob agwedd yn bwydo i mewn i iechyd meddwl, a ddaeth yn ganolbwynt ar gyfer y prosiect Meddwl Ymlaen.

Mae Meddwl Ymlaen yn rhaglen grant gwerth £10 miliwn i alluogi pobl ifanc i arwain er mwyn dychmygu a chreu dyfodol mwy gwydn a meddyliol iach i bobl ifanc yng Nghymru. Fel rhan o’r rhaglen, roeddent eisiau i brosiectau gynllunio a datblygu dulliau newydd ar gyfer iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc sydd yn canolbwyntio ar atebion.

Gan fod pob ardal yng Nghymru yn wynebu heriau gwahanol, roedd y Grant Meddwl Ymlaen eisiau ariannu prosiectau ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru.

Ein dull

Mae ProMo Cymru a Mind Casnewydd yn gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno prosiect Meddwl Ymlaen Gwent, sydd yn cwmpasu Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Rydym wedi partneru â’r gwasanaethau ieuenctid lleol a Minds lleol ym mhob ardal awdurdod, yn ogystal â ffurfio grŵp o randdeiliaid i helpu i gyflawni’r nodau.

Pobl ifanc sydd wrth galon y prosiect. Rydym wedi recriwtio grŵp o 10-12 o ymchwilwyr cyfoed 16-24 oed ledled Gwent i arwain cyfeiriad y prosiect. Mae’r bobl ifanc yma yn derbyn tâl i symud y prosiect yn ei flaen. Cyfeiriwyd at y grŵp fel Ymchwilwyr Cyfoed ar y cychwyn, ond penderfynodd y grŵp yn ddiweddarach y byddai Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed yn enw mwy priodol.

Yn ystod y prosiect 5 mlynedd, nod y bartneriaeth yw cefnogi pobl ifanc i ddefnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth i gyd-gynllunio a datblygu dulliau newydd ar gyfer iechyd meddwl a gwydnwch pobl ifanc sydd yn canolbwyntio ar atebion. Mae hyn yn dilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu, Cyflawni.

Canlyniadau

Roedd y cyfnod Darganfod yn cynnwys ymchwilio i anghenion pobl ifanc yng Ngwent a chael dealltwriaeth glir o’r dirwedd cymorth. Er mwyn peidio ag ailddyfeisio’r olwyn, mae’r prosiect yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn llwyddiannus yng Ngwent, yn nodi’r bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella’r rhain i gefnogi pobl ifanc yn well.

Amlinellodd Adroddiad Darganfod Meddwl Ymlaen Gwent 7 mewnwelediad allweddol a gasglwyd o ymchwil gyda 203 o bobl ifanc 11-27 oed yng Ngwent.

O’r ymchwil yma, mae’r Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed wedi diffinio’r problemau ac wedi datblygu 4 datrysiad allweddol i fynd i’r afael â’r problemau a ganfuwyd yn yr adroddiad darganfod. Y rhain yw:

  • Ymgyrchu a chyfryngau cymdeithasol
  • Hyfforddiant staff
  • Paneli SPACE
  • Cefnogaeth Cyfoedion

Mae’r datrysiadau yma wedi’u datblygu ymhellach ac yn cael eu profi. Byddwn yn dysgu o’r profion, yn cynyddu’r syniadau ac yn cyflwyno’r atebion.