Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol – Institiwt Glyn Ebwy

Creu etifeddiaeth hanesyddol, dyfodol ac amgylcheddol yn EVI
Cleient
Llywodraeth Cymru
Sector
Trydydd Sector
Partneriaid
Gwasanaethau
Gwasanaethau Cymunedol
Mae ProMo Cymru yn falch o rannu bod Institiwt Glyn Ebwy (EVI) wedi derbyn £132,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol (CFP) Llywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau cynaliadwyedd hanfodol.
Cynnal Institiwt Hynaf Cymru
Fel ceidwaid a gweithredwyr EVI ers 2008, mae ProMo wedi goruchwylio ei ddatblygiad yn ganolfan gymunedol a diwylliannol lewyrchus. Bydd y cyllid diweddaraf yma yn helpu i ddiogelu’r adeilad hanesyddol yma – yr institiwt hynaf yng Nghymru – ar gyfer y dyfodol trwy leihau costau ynni a gwneud y safle’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Wedi’i leoli yng nghalon Blaenau Gwent, mae EVI wedi gwasanaethu’r gymuned ers dros 170 mlynedd. Bydd y cyllid CFP yn cefnogi gosod system wresogi newydd a mesurau effeithlonrwydd ynni ychwanegol, gan helpu i leihau ôl troed carbon yr adeilad wrth gryfhau ei ddyfodol ariannol ac amgylcheddol hirdymor.


Adeiladu ar Fuddsoddiad Gorffennol
Mae’r cyllid yma yn ychwanegu at lwyddiant adnewyddiad CFP gwerth £250,000 yn ôl yn 2021, a ddaeth â gwelliannau mawr i seilwaith yr adeilad — gan gynnwys gwell hygyrchedd, uwchraddio diogelwch, a chreu gardd gymunedol fywiog. Nawr, bydd EVI yn cymryd ei gam nesaf tuag at ddod yn gyfleuster carbon isel, sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
“Ein nod yw sicrhau bod yr adeilad 173 oed yma yn addas ar gyfer y dyfodol — gan leihau ein hôl troed carbon a sicrhau EVI fel lle cynaliadwy a chroesawgar i’r gymuned am flynyddoedd i ddod. Diolch i’r cyllid yma, gallwn barhau â’n taith i amddiffyn ein treftadaeth wrth gofleidio dyfodol mwy gwyrdd.” – Tim Carter, Rheolwr y Ganolfan


Cynaliadwyedd a Chefnogaeth yn y Gymuned
Mae EVI yn gartref i ystod eang o brosiectau a gwasanaethau, gan gynnwys Pantri EVI a Chaffi Atgyweirio misol hynod lwyddiannus. Yn y ddwy flynedd diwethaf mae’r Caffi Atgyweirio wedi arbed dros 600kg o wastraff rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac wedi atal mwy nag 11,000kg o allyriadau CO₂ rhag cael ei ollwng i’r atmosffer. Gyda’i gilydd, mae’r Pantri a’r Caffi Atgyweirio wedi arbed cyfanswm o dros £117,000 i’r gymuned leol mewn costau bwyd ac atgyweiriadau. Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchu ffocws cryf y ganolfan ar gynaliadwyedd, lles ac arloesedd dan arweiniad y gymuned.
Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi ym mhennod nesaf EVI — un ble mae treftadaeth yn cyfarfod cynaliadwyedd a chymuned yn parhau i fod yn ganolog i bopeth.