Ymddiriedolaeth St Giles – Pecyn Cymorth Digidol
Troi Model Profiad Byw Ymddiriedolaeth St Giles yn Becyn Cymorth Digidol
Cleient
Ymddiriedolaeth St. Giles
Sector
Gofal Cymdeithasol
Partneriaid
Gwasanaethau
– Cymorth Digidol
– Cyfryngau
– Cynllunio Gwasanaeth
Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn elusen DU eang sy’n helpu pobl i symud ymlaen o dlodi, digartrefedd, dibyniaeth, a’r system cyfiawnder troseddol. Yn ganolog i’w gwaith mae’r gred bod y bobl sydd wedi byw trwy’r profiadau yma mewn sefyllfa unigryw i helpu eraill sy’n wynebu’r un peth. Maent yn galw hwn yn fodel Profiad Byw, ac mae’n gweithio – ond roedd yn bodoli’n bennaf o fewn y sefydliad. Roeddent yn awyddus i newid hynny.
Gan weithio gyda St Giles dros haf 2025, helpodd ProMo Cymru iddynt gynllunio ac adeiladu llwyfan fydda’n gallu rhannu’r dull hwn y tu hwnt i’w timau eu hunain ac i ddwylo sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad.
Cynllunio gyda phwrpas
Defnyddiwyd methodoleg Cynllunio Gwasanaeth o’r cychwyn cyntaf, a oedd yn golygu rhoi amser i ddeall beth roedd y platfform angen ei wneud mewn gwirionedd cyn cychwyn adeiladu. Bûm yn gweithio’n agos gyda staff St Giles i archwilio beth fydda da yn edrych fel, ac roedd eu hadborth yn llunio popeth: roedd angen i’r llwyfan fod yn hygyrch, yn ddeniadol, ac yn wirioneddol ymarferol i bobl a allai fod yn ei ddefnyddio mewn amgylchiadau anodd.
Un o’r penderfyniadau cyntaf a wnaethom gyda’n gilydd oedd ynglŷn â’r enw. Yn hytrach na mynd yn syth i rywbeth ymarferol, cynhaliwyd Sesiwn Syniadau Enwau gyda staff St Giles i ddod o hyd i iaith fydda’n teimlo’n gywir i’r bobl y cynlluniwyd ar eu cyfer. Mae’r canlyniad — Arbenigwyr Trwy Brofiad: Pecyn Cymorth Profiad Byw – yn gosod y pwyslais yn ble mae’n perthyn, ar yr hyn y mae pobl yn ei wybod yn hytrach na’r hyn maen nhw wedi bod drwyddo.

Adeiladu a phrofi
Dewiswyd WordPress fel y llwyfan, gan roi’r hyblygrwydd a’r rhwyddineb rheoli i St Giles i gadw’r pecyn cymorth yn gyfredol yn y tymor hir. Roedd y wefan wedi’i strwythuro o amgylch tair prif faes: cyflwyniad i’r model Profiad Byw, adnoddau ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ochr yn ochr â phobl â phrofiad byw, ac adnoddau ar gyfer unigolion sy’n tynnu ar eu profiadau eu hunain i gefnogi eraill.
Defnyddiwyd dull cyd-gynllunio yn ystod y broses cynllunio, gan adeiladu prototeipiau rhyngweithiol yn Figma a’u profi gyda defnyddwyr go iawn trwy Maze. Yn hytrach nag ailadrodd unwaith a gorffen ar hynny, cawsom sawl cyfnod o adborth a mireinio – gan fod y gwahaniaeth rhwng llwyfan sy’n edrych yn iawn ac un sydd wir yn gweithio yn aml yn dibynnu ar y cyfnodau profi hynny.

Lansio’r pecyn cymorth
Wrth i’r llwyfan ddod at ei gilydd, bûm yn gweithio gyda St Giles i greu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer y lansiad, gan gynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol a chanllawiau brandio i roi presenoldeb cyson i’r pecyn cymorth. Dilynwyd hynny gyda sesiwn hyfforddiant i staff St Giles, fel bod ganddynt yr hyder i reoli a diweddaru’r platfform yn annibynnol.
Yn dilyn sioe deithiol ryngwladol i hyrwyddo’r pecyn cymorth, mae St Giles yn paratoi ar gyfer lansiad cyhoeddus llawn.
“Diolch i’r tîm cyfan, mae wedi bod yn brofiad pleserus iawn.” – Lucy Leighton, Ymddiriedolaeth St Giles
Gallem eich helpu chi i wneud hyn hefyd
Os oes gennych ddull, model, neu gorff o arbenigedd sy’n haeddu cynulleidfa ehangach, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i’w wireddu. Rydym yn cynnig ymgynghoriaeth a chefnogaeth i sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu llwyfannau digidol sydd yn wir ddiwallu anghenion defnyddwyr. Cysylltwch.