Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r Amgylchedd: Yr hyn y dylech ei wybod
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Yn y byd AI, mae effaith amgylcheddol AI yn esgor ar fwy o drafodaethau nag ymron unrhyw bwnc arall. Mae ambell bennawd yn achosi dychryn a braw tra mae penawdau eraill yn diystyru’r effaith, ac mae rhagfarn o ryw fath yn perthyn i bron pob ffynhonnell. Ond y gwir amdani, mewn gwirionedd, yw bod effaith AI ar yr amgylchedd yn gorwedd rywle yn y canol rhwng y ddau begwn.
Rydym ni yn ProMo Cymru yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r pwnc hwn. Mae ein Datganiad AI yn cydnabod bod AI yn esgor ar gost amgylcheddol wirioneddol, ac nad ydym eto yn meddu ar yr holl atebion ar gyfer sut i fynd i’r afael â’r gost honno; ond rydym wedi ymrwymo i ddysgu, bod yn onest ynglŷn â’r cyfaddawdau, a rhannu’r pethau a ddysgwn.
Faint o ynni y mae prompt AI yn ei ddefnyddio mewn gwirionedd?
I fod yn onest, nid yw rhyngweithiad nodweddiadol sy’n seiliedig ar destun yn defnyddio llawer o ynni. Yn 2025, cyhoeddodd Google waith ymchwil a oedd yn mesur effaith amgylcheddol Gemini AI ar draws ynni, allyriadau a dŵr. Awgryma’r canfyddiadau fod prompt testun arferol yn defnyddio oddeutu 0.24 o oriau watt o ynni, ei fod yn allyrru oddeutu 0.03 gram o CO2 a’i fod yn defnyddio oddeutu 0.26 milimetr o ddŵr – sef oddeutu pum diferyn. Mae hyn yn cyfateb i wylio’r teledu am lai na naw eiliad.
Mae Andy Masley, blogiwr technoleg, wedi cynnal dadansoddiad manwl o ôl troed amgylcheddol ChatGPT, gan ddod i gasgliadau tebyg. Awgryma ei waith ymchwil fod un prompt yn defnyddio oddeutu’r un faint o ynni â gadael llwybrydd di-wifr ymlaen am dri munud, ac y byddai’n cymryd oddeutu 1,000 o bromptiau i arwain at gynnydd o 1% yn eich defnydd dyddiol.
Mae’n werth nodi bod gan y ddwy ffynhonnell hyn fudd yn y naratif. Google yw un o’r darparwyr AI mwyaf, ac mae Masley yn ei ddisgrifio’i hun fel rhywun sy’n optimistaidd ynglŷn ag AI. Nid yw hyn yn golygu bod eu casgliadau’n anghywir, ond mae’n werth cadw’r wybodaeth hon mewn cof wrth ddarllen y manylion.
Os ydych eisiau mynd i’r afael â’ch ôl troed AI eich hun, gallwch ddefnyddio EcoLogits Calculator i amcangyfrif faint o ynni y mae gwahanol fodelau AI yn ei ddefnyddio – ffordd ddefnyddiol o gael ymdeimlad mwy niwtral o’r darlun.
Felly, pam y caiff AI ei feirniadu i’r fath raddau?
Mae yna fwy nag un rheswm am hyn. Yn gyntaf, mae’r niferoedd yn eu crynswth yn fawr. Mae canolfannau data AI yn defnyddio llawer iawn o drydan, ac mae’r galw’n cynyddu’n gyflym. Yn ail, mae rhan helaeth o’r trydan hwnnw’n deillio o ffynonellau sy’n drwm ar garbon. Yn drydydd, mae’r gwaith adeiladu sydd ynghlwm wrth seilwaith AI (caledwedd ac adeiladau canolfannau data) yn esgor ar gost amgylcheddol sylweddol ymlaen llaw; a chan fod y gost honno’n anodd ei mesur, yn aml caiff ei hepgor o gymariaethau ‘fesul prompt’.
Hefyd, ceir gwahaniaeth ystyrlon rhwng modelau. Mae cwestiwn syml a anfonir at fodel ysgafn yn defnyddio llawer llai o ynni na thasg gymhleth ag amryfal gamau sy’n rhedeg ar y model mwyaf pwerus sydd ar gael. Mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig, ac mae’n rhywbeth y mae’r mwyafrif o’r penawdau mwyaf brawychus yn tueddu i’w bwysleisio.
Mae’r rhaglen Newid – sef menter cymorth digidol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir mewn partneriaeth â ProMo Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cwmpas – yn cwmpasu effaith amgylcheddol a dulliau llywodraethu AI yn ei hyfforddiant ar gyfer arweinwyr yn y trydydd sector. Un o’r pwyntiau hollbwysig a wneir yn yr hyfforddiant hwnnw yw bod gwahanol fodelau’n meddu ar olion traed gwahanol iawn. Nodir hefyd mai un o’r pethau mwyaf ymarferol y gall sefydliadau ei wneud yw gwneud dewisiadau ymwybodol ynglŷn â pha adnodd a ddefnyddir ar gyfer pa dasg. Mae Newid yn cynnal yr hyfforddiant hwn ychydig o weithiau bob blwyddyn; felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan ynddo, cymerwch gipolwg ar newid.cymru/tag/training-and-support i weld pryd y cynhelir y sesiwn nesaf.
Y darlun mwy
Go brin y bydd promptiau unigol yn cyfrannu’n fawr at ôl troed amgylcheddol unrhyw sefydliad. Dylid gofyn y cwestiynau mwy ystyrlon ar lefel systemig: sut y caiff seilwaith AI ei bweru; sut y caiff y galedwedd ei gweithgynhyrchu; a wireddir potensial AI i optimeiddio’r defnydd o ynni ledled sectorau eraill mewn gwirionedd. Mae’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol wedi awgrymu y gallai cymwysiadau AI ryddhau llawer llai o garbon erbyn 2035 os cânt eu defnyddio’n eang ar draws yr economi, gyda’r posibilrwydd o wrthbwyso allyriadau canolfannau data sawl gwaith drosodd. Dyma amcanestyniad gobeithiol, ond mae ansicrwydd gwirioneddol yn perthyn iddo.
Nid yw hyn yn golygu y dylid anwybyddu ystyriaethau amgylcheddol. Yng nghanllawiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar AI, nodir bod adnoddau AI yn defnyddio llawer o ynni a dŵr, ac anogir sefydliadau i ddefnyddio AI yn ofalus, a dim ond pan fydd modd iddo helpu ceisiadau. Dyma safbwynt rhesymol, yn ein barn ni.
Pethau ymarferol y gall eich sefydliad eu gwneud
Ni fydd yn rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio AI er mwyn ystyried yr amgylchedd o ddifrif. Dyma bethau syml sy’n werth eu hystyried:
- Parwch y model â’r dasg: Fel arfer, bydd model ysgafn yn ddigonol ar gyfer crynhoi dogfen neu ddrafftio e-bost. Nid oes yn rhaid defnyddio’r model mwyaf pwerus sydd ar gael ar gyfer pob tasg, ac mae modelau llai yn defnyddio llawer llai o ynni.
- Ceisiwch osgoi ailadrodd diangen: Mae anfon yr un prompt bum gwaith, yn y gobaith y cewch ganlyniad gwell, yn defnyddio mwy o ynni na threulio munud neu ddau yn ysgrifennu prompt cliriach yn y lle cyntaf.
- Defnyddiwch yr EcoLogits Calculator: Cewch syniad bras o ôl troed gwahanol fodelau a thasgau, ac mae’n adnodd defnyddiol ar gyfer meithrin ymwybyddiaeth ledled eich tîm.
- Trafodwch y mater yn eich sefydliad: Mae cynnal trafodaeth fewnol syml ynglŷn â phryd a sut y defnyddir AI, a pha fodelau sy’n addas ar gyfer gwahanol dasgau, yn fan cychwyn da ar gyfer defnyddio AI yn gyfrifol.
- Cymerwch gipolwg ar Ddatganiad AI ProMo Cymru: Rydym wedi rhannu ein syniadau ynglŷn ag AI, ynghyd â’r adnoddau a ddefnyddiwn, ar https://promo.cymru/cy/datganiad-deallusrwydd-artiffisial/, a cheir dolen sy’n arwain at Adnodd Asesu Risg AI Newid a all helpu eich sefydliad i ystyried ei ddull.
Mae effaith amgylcheddol AI yn fater gwirioneddol ac mae’r sector yn dal i geisio deall yr effaith honno. Ond gall defnyddio AI mewn ffordd ystyrlon a chytbwys wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid rhoi’r gorau i ddefnyddio AI yw’r nod, ond ei ddefnyddio’n well.
Os hoffech gael cymorth i ystyried dull eich sefydliad o ymdrin ag AI, cysylltwch â’n tîm i weld sut y gallwn eich helpu.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst