Adnoddau AI Canva: Canllawiau ar gyfer Sefydliadau Nid-er-elw
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Rhag ofn nad ydych wedi dod ar draws Canva o’r blaen, adnodd dylunio rhad ac am ddim ydyw sy’n eich galluogi i greu graffigwaith cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, posteri, cylchlythyrau, a llawer mwy. Ni fyddwch angen profiad mewn dylunio. Dyma un o’r adnoddau a ddefnyddir yn fwyaf eang yn y trydydd sector gan ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gyflym, a chan ei fod yn cynhyrchu canlyniadau proffesiynol yr olwg heb fod angen meddu ar sgiliau arbenigol.
Mae Canva wedi bod yn ymgorffori AI yn dawel fwy neu lai ym mhob agwedd ar ei lwyfan, gan grwpio’r nodweddion hyn dan yr enw Magic Studio.
Mae’r cynllun am ddim yn cynnwys mynediad at nifer o nodweddion AI gyda therfynau defnyddio misol, tra mae’r cynllun Pro yn cynnig lwfans mwy ar draws yr holl adnoddau AI.
Fodd bynnag, gall elusennau a sefydliadau nid-er-elw gael gafael ar Canva Pro yn rhad ac am ddim trwy gyfrwng rhaglen nid-er-elw Canva. Efallai mai dyma’r wybodaeth bwysicaf a gynhwysir yn yr erthygl hon.
Magic Write
Magic Write yw’r ‘adnodd cynhyrchu testun’ a ymgorfforir yn Canva. Os ydych wedi defnyddio ChatGPT neu Co-Pilot, byddwch eisoes yn gyfarwydd â’r math hwn o adnodd. Gallwch ei ddefnyddio i lunio testun ar gyfer postiadau cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, cylchlythyrau, taflenni, neu ymron unrhyw fath arall o gynnwys, heb adael y golygydd dylunio. Rhowch ddisgrifiad byr iddo o’r hyn rydych ei angen, gan nodi’r cywair, ac yna bydd yn cynhyrchu drafft cyntaf y gallwch ei olygu.
Mae’r adnodd hwn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cynhyrchu negeseuon cyfathrebu cyson yn gyflym, yn enwedig pan fyddwch yn gweithio ar amryfal ymgyrchoedd neu sianeli ar yr un pryd. Fel yn achos unrhyw adnodd ysgrifennu AI, ystyriwch yr allbwn fel man cychwyn yn hytrach na gwaith gorffenedig, a chofiwch ei adolygu bob amser cyn ei gyhoeddi.
Magic Design
Yn hytrach na dechrau gweithio ar gynfas gwag neu chwilio trwy dempledi, mae Magic Design yn eich galluogi i ddisgrifio’r hyn rydych ei angen a chynhyrchu cynllun dylunio y gellir ei olygu. Gallwch deipio rhywbeth fel “postiad cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ymgyrch codi arian, cywair cyfeillgar”, a bydd yn cynhyrchu nifer o opsiynau y gallwch ddewis o’u plith.
Gall arbed amser pan fyddwch angen cynhyrchu rhywbeth yn gyflym a phan na fyddwch yn siŵr ble i ddechrau. Bydd y dyluniadau a gaiff eu creu yn dod gyda haenau ar wahân y gellir eu golygu – testun, delweddau a chefndiroedd – felly, gallwch addasu’r dyluniad yn rhwydd i weddu i’ch brand.
Cynhyrchu delweddau trwy ddefnyddio AI
Mae ‘adnodd cynhyrchu delweddau’ Canva yn eich galluogi i greu delweddau gweledol ar sail disgrifiad testun. Teipiwch yr hyn y dymunwch ei weld, ac yna bydd yn cynhyrchu delwedd y gallwch ei hymgorffori’n syth yn eich dyluniad. Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan fyddwch angen rhywbeth penodol na allwch ddod o hyd iddo mewn llyfrgelloedd.
Mae’r ansawdd yn hollol dderbyniol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a’r we, ond yn gyffredinol byddem yn eich cynghori i ddefnyddio delweddau go iawn pan fo modd.
Os dewiswch roi cynnig ar yr adnodd hwn, ceisiwch ddefnyddio manylion penodol yn eich prompt. Bydd “grŵp o bobl amrywiol yn cydweithio o amgylch bwrdd, goleuadau cynnes, arddull llun” yn cynhyrchu rhywbeth gwahanol iawn i’r hyn y byddech yn ei gael pe baech yn nodi “pobl mewn cyfarfod” yn unig.
Adnoddau fideo AI
Yn yr un modd ag wrth gynhyrchu delweddau, mae Canva bellach yn cynnwys ‘adnodd cynhyrchu fideos AI’, a gaiff ei bweru gan fodel Veo Google. Gallwch gynhyrchu clipiau fideo byr sy’n para hyd at wyth eiliad trwy ddefnyddio prompt testun, gyda sain wedi’i chydamseru’n awtomatig.
Hefyd, ceir Magic Video a all droi casgliadau o ffotograffau neu glipiau yn fideos byr, a bydd trosiadau a cherddoriaeth yn cael eu cymhwyso’n awtomatig.
Ond cofiwch mai hyd at bump o glipiau fideo AI y gellir eu cynhyrchu bob mis, hyd yn oed ar gynlluniau y telir amdanynt, ac ar hyn o bryd rhaid i’r promptiau gael eu hysgrifennu yn y Saesneg. Er mwyn creu cynnwys cyflym ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol neu ragflas ar gyfer ymgyrchoedd, neu er mwyn gwneud i ddelweddau llonydd symud, mae’r adnoddau hyn yn fan cychwyn da; ond ar gyfer unrhyw beth mwy sylweddol, bydd adnodd fideo pwrpasol yn esgor ar ganlyniadau gwell o lawer.
Background Remover
Dyma un o’r nodweddion AI symlaf a mwyaf defnyddiol yn Canva. Lanlwythwch ffotograff a chliciwch unwaith i gael gwared â’r cefndir. Mae’r hyn a oedd, ers talwm, angen Photoshop neu adnodd ar wahân, bellach yn cymryd eiliadau. Mae’n ddefnyddiol ar gyfer creu penluniau glân ar gyfer eich gwefan, ynysu cynhyrchion neu wrthrychau ar gyfer graffigwaith hyrwyddol, neu osod delweddau ar gefndiroedd wedi’u brandio.
Mae Background Remover yn gweithio ar ffotograffau a fideos, felly mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cynnwys byr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Magic Resize
Os ydych wedi mynd ati erioed i greu graffigwaith ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ac os ydych wedi gorfod ei ailadeiladu â llaw wedyn mewn maint gwahanol ar gyfer llwyfan arall, bydd Magic Resize yn arbed llawer o amser ichi. Mae’n addasu maint eich cynlluniau’n awtomatig ac yn eu hailfformatio ar gyfer gwahanol lwyfannau, gan droi sgwâr Instagram yn glawr Facebook, yn bostiad LinkedIn, neu’n daflen wedi’i hargraffu, a chan addasu’r cynllun yn y broses.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer timau cyfathrebu bach sydd angen cyhoeddi cynnwys ar amryfal sianeli heb ddyblu’r llwyth gwaith.
Rhai pethau i’w cadw mewn cof
Yn gyffredinol, gwaith eithaf hawdd yw defnyddio adnoddau AI Canva yn gyfrifol, ond mae’n werth cadw ambell beth mewn cof:
- Cofiwch adolygu’r testun a gynhyrchir gan AI cyn ei gyhoeddi. Adnodd drafftio yw Magic Write, nid adnodd sy’n cynhyrchu cynnyrch gorffenedig, ac o dro i dro gall gynhyrchu cynnwys generig neu anghywir.
- Byddwch yn ystyriol wrth ddefnyddio adnodd cynhyrchu delweddau AI i ddarlunio cymunedau neu bobl go iawn. Defnyddiwch adnoddau o’r fath ar gyfer cysyniadau, lluniau a nodweddion gweledol haniaethol yn hytrach nag ar gyfer cynrychioli grwpiau penodol.
- Gwiriwch eich lwfans AI misol cyn dechrau gweithio ar brosiect mawr. Mae cynhyrchu delweddau, fideos, a Magic Design i gyd yn cael eu tynnu o’r un pot.
Mae adnoddau AI Canva ymhlith y rhai mwyaf hygyrch sydd ar gael i sefydliadau nad oes ganddynt dîm dylunio pwrpasol. Os ydych eisoes yn defnyddio Canva, ond os nad ydych wedi archwilio Magic Studio eto, byddai’n syniad da ichi dreulio rhywfaint o amser yn rhoi cynnig ar y nodweddion uchod.
Os hoffech gael cymorth i wneud yn fawr o Canva neu unrhyw adnodd digidol arall, cysylltwch â’n tîm i gael gwybod sut y gallwn eich cynorthwyo.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst