Chwe Awgrym i Symud eich Hyfforddiant o Wyneb i Wyneb i Ar-lein
Awdur: Joyce Borgs;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Fel llawer o elusennau, rydym wedi bod yn addasu ein cynigion wyneb yn wyneb ar gyfer ar-lein. Mae hynny’n cynnwys Hopiau Cynllunio, ein hyfforddiant cynllunio gwasanaeth hanner diwrnod am ddim.
Rydym eisoes wedi dysgu llawer o’r broses. Yn yr erthygl yma, rydym yn rhannu ein mewnwelediadau allweddol a’n hawgrymiadau gorau ar gyfer symud hyfforddiant wyneb yn wyneb ar-lein.
Defnyddiwch eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol – nid ydynt yn cael eu gwastraffu
Mae llawer o’ch gwybodaeth am gyflwyno a chynllunio hyfforddiant yn dal i fod yn berthnasol ar-lein. Mae’r canlynol yr un mor bwysig ar-lein ag wyneb yn wyneb:
- Darparu ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu
- Defnyddio cwestiynu i gefnogi dysgu
- Cydbwyso diogelwch a her i helpu cyfranogwyr i ymestyn a dysgu
- Sicrhau bod cyfranogwyr yn gyfforddus – rydym yn gwybod bod cinio da ac amgylchedd cyfforddus yn wirioneddol helpu mewn hyfforddiant wyneb yn wyneb
- Cydnabod bod cyfranogwyr yn dod â doethineb i’r hyfforddiant
Deall beth sydd ar gael eisoes
Peidiwch ag adeiladu na phrynu JCB i dorri cneuen! Mae systemau ar gael sy’n cael eu defnyddio gan brifysgolion a chwmnïau mawr i reoli nifer fawr o gyrsiau a myfyrwyr. Ni fydd y mwyafrif ohonom angen hyn.
Mae llwyfannau pwrpasol eraill ar gael i’w defnyddio i gynnal eich cwrs cychwyn yn fach’. Mae’r rhain yn cynnwys opsiynau fel Teachable, Udemy a Skillshare. Mae gan rai opsiwn am ddim, fel Thinkific, sef yr hyn a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer ein prototeip. Mae’r llwyfannau yma’n eithaf hawdd i’w defnyddio ac i lawer, nid oes angen i chi allu codio gan y gallwch eu gweithredu trwy lusgo a gollwng.
Mae’r llwyfannau uchod wedi’u hadeiladu gyda marchnata ac e-fasnach mewn golwg. Os nad ydych chi’n codi tâl am eich hyfforddiant gallwch anwybyddu’r gallu hwn a chanolbwyntio ar gynnwys yn unig. Byddant yn eich helpu i wneud i’ch cwrs edrych yn ddeniadol. A bydd y rhan fwyaf yn eich galluogi i:
- Cynnal cwisiau
- Ychwanegu fideos
- Mewnosod fideos YouTube
- Uwchlwytho PDFs (defnyddiwch DocHub,, sy’n integreiddio â GDrive, i greu llyfrau gwaith y gellir eu llenwi’n electronig)
- Cyflwyno aseiniadau
- Cynnal fforymau
Cynllunio ar gyfer hyblygrwydd mewn talpiau bach
Egwyddor gyntaf ar gyfer gwasanaethau digidol gwell yw cychwyn gyda’r anghenion defnyddiwr mewn golwg. Mae hynny’r un mor wir gyda hyfforddiant ar-lein.
Mae’n rhaid i ddefnyddwyr deimlo’n gyfforddus cyn gallu ymgysylltu â’ch hyfforddiant. Mae gan lawer o bobl eu plant yn rhedeg o gwmpas a/neu bartneriaid yn bresennol yn y tŷ tra byddant yn ceisio gweithio, a gall cyfnodau hir mewn galwadau fideo ar ddyddiadau ac amseroedd penodol fod yn anodd. Ac mae gweithio o gartref yn golygu bod amser sgrin eisoes wedi cynyddu i bob un ohonom.
Felly, mae angen yr hyblygrwydd ar bobl i fedru ffitio dysgu yn eu bywydau. Mae’r gofod dysgu ar-lein yn rhoi’r cyfle i chi gynllunio gyda hyn mewn golwg.
Beth yw’r talp o ddysgu lleiaf o fewn eich cwrs ehangach y gallwch chi gynllunio ar ei gyfer?
Mae angen iddo fod mor hawdd â phosib i gyfranogwyr ffitio’r dysgu yn eu dydd. Mae’n haws cael mynediad at fideo pum munud wrth baratoi cinio a chwblhau ymarfer 20 munud na gwrando ar alwad fideo dwy awr.
Ymdrin â galwadau fideo fel eich prif eiddo tiriog. Mae dod â phobl ynghyd ar ddyddiad ac amser penodol yn cymryd cryn dipyn o ymdrech ac adnoddau. Mae hyn yn cyfrif i gyfranogwyr a hyfforddwyr. Mae defnyddio’r amser yma ar gyfer darlithio yn wastraff – gallwch rannu gwybodaeth newydd mewn ffyrdd gwahanol a mwy cynaliadwy.
Mae sesiynau galwadau fideo byw orau ar gyfer:
- Cysylltu
- Adeiladu cymuned
- Dysgu profiadol
- Holi ac Ateb
- Prosesu
- Hyfforddi
- Adlewyrchu
Defnyddiwch fideos byr wedi’u recordio o flaen llaw a darnau byr o ddarllen gydag infograffeg ar gyfer darlithio a rhannu gwybodaeth newydd. Gall pobl gael mynediad at y rhain pan fyddant yn gyfleus iddynt. A gallwch ailddefnyddio’r cynnwys ar gyfer cwrs diweddarach, gan roi mwy o hyblygrwydd i chi.
Cynlluniwch eich cwrs i fod yn raddadwy ac yn ailadroddadwy
Y peth gorau am hyfforddiant ar-lein yw y gallwch adeiladu ar gyfer cynaliadwyedd!
Newidiwch eich hyfforddiant wyneb yn wyneb pum awr am bum awr o alwadau fideo a bydd rhaid i chi wneud y cyfan eto’r tro nesaf. Byddwch chi eisiau cynllunio eich cwrs fel y gallwch chi ei ailadrodd gyda’r ymdrech leiaf. Talpiau hyfforddi hunanwasanaeth bach sydd orau ar gyfer hyn. Gofynnwch i chi’ch hun beth all cyfranogwyr ei wneud heb i chi fod yn bresennol mewn swyddogaeth fyw. Mae fideos byr yn cyflwyno gwybodaeth newydd, erthyglau byr, cwisiau a phodlediadau i gyd yn rhan o’r blwch offer hunanwasanaeth.
Mae gwneud rhan o’ch cynnwys yn hunanwasanaethol hefyd yn golygu ei bod hi’n haws cyrraedd mwy o bobl – byddech yn treulio llai o amser mewn galwadau byw ac felly yn gallu gwneud mwy ohonynt.
Cynllunio ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu – cymysgu pethau
Cymysgwch fideo, testun, sain, infograffeg, cwisiau, ymarferion, fforymau, galwadau fideo byw, ac ati i gefnogi gwahanol arddulliau dysgu.
Cyfyngwch hyd y testun a’r sain/fideo. Er enghraifft, cael:
- Fideo byr gyda chynnwys gwybodaeth newydd, ac yna
- Astudiaeth achos byr yn seiliedig ar destun yn darlunio’r pwynt, ac yna
- Tasg yn defnyddio’r wybodaeth newydd.
Fel hyn rydych chi’n ailadrodd y cynnwys mewn gwahanol fformatau i sicrhau bod pob arddull ddysgu yn hapus.
Mae yna lawer o adnoddau ar gael i greu fideos. Yn bersonol, rwy’n hoff o Loom – mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd ei ddefnyddio. Gallwch wneud darllediadau sgrin ag ef a recordio’ch hun yn rhoi cyflwyniad PowerPoint neu Google Slides, gyda neu heb eich wyneb yn y llun. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i ddangos i bobl sut i ddefnyddio darn o feddalwedd neu’ch platfform dysgu. Mae yna hefyd osodiad i’ch recordio chi yn unig heb ddarllediad sgrin.
Os yw hyn yn anodd i chi, efallai am nad ydych chi erioed wedi cyflwyno i gamera, neu os ydych chi’n methu’r gynulleidfa, ceisiwch gael rhywun yn yr ystafell (ddim ar gamera) wrth i chi recordio. Mae’n wahanol siarad â pherson yn hytrach na’r sgrin.
Os yn bosibl, cymysgwch y cyflwynwyr fel ei fod yn fwy diddorol i bobl, er cadwch brif hyfforddwr fel wyneb y cwrs. Mae’n arbennig o dda cynnwys fideos o westeion yn cyflwyno astudiaethau achos neu arbenigwyr pynciau cysylltiedig allanol yn darparu deunydd bonws.
Galluogi dysgu gan gymheiriaid – cael gofod lle gall pobl rannu, myfyrio a chael mewnbwn gan eu cyfoedion a’u hyfforddwr. Gall hyn fod trwy un neu gyfuniad o:
- Fforwm
- Cyfleuster sylwadau neu drafodaeth
- Sianel Slack a rennir
- Grŵp Facebook
- Aseiniadau i’w rhoi i mewn
- Galwadau fideo byw
Profwch eich cynnyrch trwy ddechrau’n fach ac ailadrodd
Fel gyda phob cynllun da, cymerwch gamau bach a dysgwch wrth i chi fynd.
Gall eich prototeip cyntaf fod mor syml â chyfres o e-byst gyda fideos a darllen ynghlwm. Gallech ychwanegu galwad fideo fyw neu ddwy ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid. I wneud hyn yn fwy graddadwy ac ailadroddadwy, defnyddiwch rywbeth i reoli eich e-byst – mae yna lawer o opsiynau ar gael, un am ddim rwy’n ei hoffi yw Mailchimp.
Fe gychwynnom ni gyda galwad fideo tair awr – dechreuodd cadw pellter cymdeithasol ar ddechrau wythnos lle’r oedd gennym gwrs wyneb yn wyneb wedi’i gynllunio. Felly ychydig iawn o amser oedd gennym ni i benderfynu canslo, neu i newid yr hyfforddiant i alwad byw. Penderfynom ar yr olaf.
Yna fe ailadroddom gan ddefnyddio’r egwyddorion yn y blog yma i gynllunio rhywbeth mwy cynaliadwy. Bellach mae gennym gwrs prototeip sy’n ymdrin â hanfodion cynllunio digidol yn unig i helpu pobl i wneud hyn mewn cyfnod o argyfwng.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno â’r Hop Dylunio ailadroddus yma.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst