Codio ar Sail Teimlad: Canllaw i Sefydliadau Nid-er-elw
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae adnoddau ‘codio ar sail teimlad’ yn eich galluogi i adeiladu cymwysiadau, gwefannau ac adnoddau digidol trwy ddefnyddio Saesneg clir, heb fod angen unrhyw brofiad mewn codio.
Beth yw ‘codio ar sail teimlad’?
Mae ‘codio ar sail teimlad’ yn golygu creu meddalwedd ddigidol trwy ddefnyddio Saesneg clir i ddisgrifio’r hyn y dymunwch ei gael, gan adael i adnodd Deallusrwydd Artiffisial (AI) wneud yr holl waith technegol. Yn hytrach nag ysgrifennu cod, byddwch yn cael sgwrs. Bydd yr adnodd AI yn datblygu ateb, fe fyddwch chi’n cyflwyno adborth, ac yna bydd y broses yn cael ei hailadrodd a’i gwella.
I sefydliadau yn y trydydd sector, dyma adnodd gwirioneddol fuddiol. Yn awr, gall staff nad oes ganddynt unrhyw gefndir technegol neu gefndir mewn codio greu adnoddau mewnol, ffurflenni, dangosfyrddau a phrototeipiau syml a fyddai, fel arall, angen datblygwr neu danysgrifiad costus.
Mae nifer o adnoddau’n hwyluso’r broses hon ac maent wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol fathau o ddefnyddwyr.
Claude, Gemini, a ChatGPT: Y man cychwyn gorau
Cynorthwywyr AI cyffredinol yn hytrach nag adeiladwyr apiau arbenigol yw Claude, Gemini a ChatGPT mewn gwirionedd, ond mae pob un ohonynt yn gallu ‘codio ar sail teimlad’ yn effeithiol ar gyfer tasgau symlach. Bydd angen i chi ddisgrifio’r hyn rydych ei angen, bydd yr adnodd AI yn ysgrifennu’r cod, ac yna fe allwch chi fireinio pethau o’r fan honno. Mae’r adnoddau hyn yn opsiynau cychwynnol rhagorol os ydych yn dymuno arbrofi gyda chodio o’r math hwn heb droi at lwyfannau newydd.
Y gost: Mae pob un ohonynt yn cynnig cynllun am ddim. Mae cynlluniau y telir amdanynt yn cychwyn o oddeutu £15 y mis.
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sy’n newydd i AI ac sy’n dymuno archwilio ‘codio ar sail teimlad’ ochr yn ochr â thasgau fel ysgrifennu, crynhoi ac ymchwilio. Anaddas os ydych angen rhoi ap ar waith ar y we.
Lovable: Gwych ar gyfer adeiladu a chyhoeddi apiau
Mae Lovable yn llwyfan pwrpasol ar gyfer ‘codio ar sail teimlad’. Bydd angen i chi ddisgrifio’r hyn y dymunwch ei gael, ac yna bydd yr adnodd yn adeiladu cymhwysiad gwe gweithredol. Wedyn, gallwch ei gyhoeddi’n uniongyrchol oddi ar y safle. Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at ddefnyddwyr nad oes ganddynt wybodaeth dechnegol, felly gwaith hawdd yw ei ddefnyddio a dysgu amdano.
Mae’n gweithio ar system gredyd lle mae pob prompt AI yn costio un credyd o’ch lwfans misol. Mae’r system hon yn golygu bod modd rhagweld y costau; ond os defnyddir llawer iawn ar yr adnodd ar brosiectau mawr, gall y credydau ddiflannu ynghynt na’r disgwyl.
Y gost: Cynllun am ddim gyda phum credyd bob dydd. Mae cynlluniau y telir amdanynt yn dechrau o oddeutu £19 y mis.
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sy’n anelu at adeiladu a lansio adnodd gwe gwirioneddol heb gymorth datblygwr. Mae’r cynllun am ddim yn fan cychwyn da, ond cofiwch gadw golwg ar eich credyd wrth i brosiectau ehangu.
Copilot: Adnodd gwerth rhoi cynnig arno os ydych eisoes yn defnyddio Microsoft
Mae’n werth sôn am Microsoft Copilot, oherwydd efallai fod nifer o sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru eisoes yn gallu cael mynediad ato. Mae fersiwn am ddim ar gael i bawb sydd â chyfrif Microsoft; ac yn achos sefydliadau sy’n defnyddio Microsoft 365, efallai fod Copilot wedi’i integreiddio eisoes yn eu hadnoddau dyddiol.
Fel adnodd ar gyfer ‘codio ar sail teimlad’, mae’n fwy cyfyngedig nag adnoddau eraill a restrir. Gall gynhyrchu ac esbonio cod syml os gofynnir iddo wneud hynny, ond nid yw wedi cael ei lunio ar gyfer adeiladu a gweithredu cymwysiadau. Tasgau cynhyrchiant yn Microsoft 365 yw ei gryfder: drafftio e-byst, crynhoi dogfennau, cynhyrchu nodiadau ar gyfer cyfarfodydd a gweithio gyda data yn Excel.
Y gost: Am ddim i bawb sydd â chyfrif Microsoft. Bydd angen trwydded Copilot er mwyn gallu integreiddio’n ddyfnach â chymwysiadau Microsoft 365 (ar ffurf ychwanegiad at eich tanysgrifiad presennol). Holwch eich adran cymorth IT i weld pa nodweddion yn union sydd ar gael i’ch sefydliad eisoes.
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sydd eisoes yn defnyddio Microsoft 365 ac sy’n dymuno archwilio AI heb droi at adnodd newydd. Nid yw’n ddelfrydol ar gyfer ‘codio ar sail teimlad’ yn benodol, ond mae’n fan cychwyn ymarferol ar gyfer cynhyrchiant AI yn gyffredinol.
Cursor: Ideal for technically skilled staff with some coding experience
Adnodd AI ar gyfer golygu codau yw Cursor mewn gwirionedd, yn hytrach nag adodd sy’n seiliedig ar sgwrsio. Mae wedi’i anelu at ddefnyddwyr sydd eisoes yn gwybod sut i ysgrifennu codau ac sy’n dymuno cael cymorth AI yn ystod eu llif gwaith. Gall greu ac addasu codau ar sail promptiau Saesneg clir, ond bydd angen adnabyddiaeth fanwl o godau er mwyn gallu manteisio i’r eithaf arno.
Y gost: Cynllun am ddim gyda chyfyngiadau o ran defnydd. Mae cynlluniau y telir amdanynt yn dechrau o oddeutu £15 y mis.
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau â datblygwr neu aelod staff sy’n hyderus gyda thechnoleg, ac sy’n awyddus i weithio’n fwy effeithlon. Nid yw’n addas ar gyfer dechreuwyr.
Ble i ddechrau
Copilot yw’r cam cyntaf amlwg os yw eich sefydliad eisoes yn defnyddio Microsoft 365, oherwydd efallai ei fod ar gael ichi yn barod. Ar gyfer archwilio ‘codio ar sail teimlad’ yn gyffredinol, mae Claude, Gemini neu ChatGPT hefyd yn fannau cychwyn rhagorol. Os ydych yn bwriadu adeiladu a gweithredu rhywbeth go iawn, byddai’n werth rhoi cynnig ar gynllun am ddim Lovable. Cursor yw’r opsiwn gorau os yw eich sefydliad eisoes yn meddu ar hyder technegol.
Os ydych angen cymorth i ddechrau ‘codio ar sail teimlad’, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am AI ar gyfer eich sefydliad, cysylltwch â’n tîm i weld sut y gallwn eich helpu.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst