Tudalennau Amdanom Ni: Sut i Greu Un Effeithiol ar Gyfer Gwefan Eich Elusen
Awdur: Michael Murdoch;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae’r adnodd hwn ar gyfer arweinwyr digidol, marchnata neu gyfathrebu sydd angen cynllunio, golygu a chyhoeddi cynnwys ar gyfer tudalen ‘Amdanom Ni’ ar wefan eu sefydliad dielw.
Ynddo byddwch chi’n dysgu:
- Pam bod eich tudalen ‘Amdanom Ni’ yn bwysig
- Pam fod rhaid dysgu am eich cynulleidfa, a sut i gyfathrebu â nhw
- Sut i rannu stori eich sefydliad
- Defnyddio amlgyfrwng i roi bywyd i’ch tudalen
- Pam bod strwythur da yn gallu helpu cynnwys i lifo
- Defnyddio galwad i weithredu.
Pam bod eich tudalen ‘Amdanom Ni’ yn bwysig
YMae’n debyg mai eich tudalen ‘Amdanom Ni’ yw’r un a ymwelir fwyaf ar eich gwefan. Felly, mae’n bwysig bod y cynnwys yn addysgiadol, cymhellol ac effeithiol.
Bydd eich tudalen ‘Amdanom Ni’ yn helpu eich cynulleidfa i ddeall hanes, cyflawniadau, amcanion a rhinweddau unigryw eich elusen. Pan fyddech chi’n creu eich tudalen, dylid ystyried sut ydych chi’n:
- Rhannu stori a chenhadaeth eich elusen
- Annog gweithrediadau positif fel rhoddion, gwirfoddoli, codi arian a phartneriaethau
- Rhoi ateb cryno i ymwelwyr am pam y dylent gymryd rhan.
Meddyliwch hefyd am rannu’r canlynol:
- Hanes eich elusen
- Gwybodaeth am arbenigedd eich tîm a’ch pobl
- Eich cenhadaeth, gweledigaeth a datganiadau gwerth
- Yr effaith mae eich elusen yn cyflawni
- Cynlluniau eich elusen ar gyfer y dyfodol
- Gwybodaeth am sut mae’r elusen yn cyrraedd nodau
- Elfennau gweledol i gefnogi eich negeseuon allweddol
Dysgu am eich cynulleidfa a sut i gyfathrebu â nhw
Dechreuwch gydag ychydig o ymchwil defnyddwyr. Gellir cynnal ymarfer map empathi gyda chydweithiwr. Bydd hyn yn eich helpu i fagu dealltwriaeth well o’ch cynulleidfa darged.
Wrth i chi fapio, canolbwyntiwch ar ‘boenau’ neu broblemau eich cynulleidfa, ac ‘enillion’ neu fuddion a ddymunir. Cydnabod yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a’r buddiannau y disgwylir gan eich elusen.
Creu mapiau empathi ar gyfer unrhyw un aelod cynulleidfa rydych chi’n eu hystyried yn ymwelwyr pwysig i’ch tudalen ‘Amdanom Ni’:
- Buddiolwyr terfynol
- Cefnogwyr
- Rhoddwyr
- Gwirfoddolwyr
- Ymddiriedolwyr
- Partneriaid
- Staff
Bydd deall eich cynulleidfaoedd targed yn ei gwneud yn haws creu cynnwys tudalen sy’n cyd-fynd â’u hanghenion a’u cymhellion.
Peidiwch ofni dangos ychydig o’ch personoliaeth yn eich ysgrifennu. Gall hyn helpu i wneud cysylltiad emosiynol ag ymwelwyr y dudalen. Gallwch hefyd deilwra neges eich elusen wrth ystyried ei dôn a’i steil. Dylai hyn gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogaeth.
Sut i rannu eich stori
Yn gyntaf, eglurwch hanes eich sefydliad a’r rheswm dros ei gychwyn. Yna, rhannwch ddatganiad cenhadaeth eich elusen, gan gynnwys:
- Pwrpas craidd eich sefydliad
- Y problemau rydych chi am fynd i’r afael â nhw
- Pwy’n union rydych chi’n cefnogi a pham
- Sut rydych chi’n cyflawni eich nodau neu’ch gweledigaeth
- Eich gwerthoedd craidd sy’n arwain eich elusen
Cyflwyno aelodau’r tîm, gan gynnwys eu cymwysterau a’u profiad. Mae hyn yn magu ffydd a hygrededd gydag ymwelwyr.
Arddangos cerrig milltir, cyflawniadau a gwobrau trawiadol. Mae hyn yn creu neges fwy dilys a chredadwy.
Defnyddiwch ddata a straeon go iawn i ddangos effaith positif eich elusen. Mae hyn yn rhoi bywyd i’ch stori ac mae’n fwy cofiadwy hefyd.
“Mae straeon yn cael eu cofio hyd at 22 gwaith yn fwy na ffeithiau yn unig” – Jennifer Aaker, gwyddonydd ymddygiadol Americanaidd, Ysgol Busnes Graddedigion Stanford.
Dylai eich elusen hefyd rannu ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Gall hyn fod yn llinell amser gyda cherrig milltir allweddol. Gall hefyd fod yn baragraff gan eich sylfaenydd neu Brif Swyddog Gweithredol. Ysbrydolwch ymwelwyr eich gwefan i ddysgu mwy am eich nodau fel eu bod eisiau cymryd rhan.
Enghreifftiau o elusennau gyda thudalennau ‘Amdanom Ni’ effeithiol:
- Khulisa
- Railway Children
- Future First
- Charity: Water
- LDN Apprenticeships
- Oxfam
- Sand Dams Worldwide
- Cancer Research UK
- Blue Cross
- Action for Children
Defnyddio amlgyfrwng i roi bywyd i’ch tudalen
Mae amlgyfrwng yn helpu i greu cysylltiad emosiynol rhwng eich elusen a’r gynulleidfa. Mae’n sicrhau bod gwybodaeth gymhleth yn haws i’w deall ac yn fwy diddorol na thestun yn unig.
Mae delweddau yn gwneud y dudalen yn fwy cofiadwy. Mae astudiaethau’n dangos bod pobl yn cofio 80% o’r hyn maen nhw’n ei weld, ond dim ond 20% o’r hyn maen nhw’n ei ddarllen.
Wrth ddewis delweddau, canolbwyntiwch ar y cymunedau rydych chi’n eu helpu. Defnyddiwch ddelweddau sy’n dangos eich gweithgareddau a’r effaith maen nhw’n ei gael.
Mae ffeithluniau, darluniau ac eiconau hefyd yn ddefnyddiol. Maent yn rhannu cynnig eich elusen a gallant ychwanegu personoliaeth brand unigryw. Mae Action Tutoring a MoneyReady yn gwneud hyn yn dda, tra bod Shelter yn dangos defnydd dilys o ffotograffiaeth hefyd. Enghraifft arall sy’n defnyddio delweddau i ddangos sut mae eu gwaith yn gwella bywydau’r rhai mewn angen yw WaterAid.
Gydag amser a chyllideb, gall fideo ac animeiddio symud eich tudalen i’r lefel nesaf. Mae Walk Free a Diabetes UK yn adrodd stori gan ddefnyddio animeiddio, trosleisio a darlunio.
Ond nid oes rhaid bod yn rhy gymhleth. Gall recordiad sain syml, gan aelodau eich tîm neu fuddiolwr terfynol, dynnu sylw at effaith gwaith eich elusen hefyd.
Mae strwythur da yn helpu cynnwys i lifo
Wrth enwi eich tudalen ‘Amdanom Ni’, mae yna amrywiaeth o opsiynau. Trafodwch y teitl gyda’ch datblygwr gwe neu arbenigwr SEO.
Mae rhai opsiynau yn cynnwys:
- Amdanom
- Amdanom ni
- Ein stori
- Pwy ydym ni
- Ein pwrpas
YDylai eich tudalen ‘Amdanom Ni’ fod yn hawdd i’w llywio. Mae angen penawdau ac is-benawdau clir.
Gallwch ychwanegu is dudalennau ar gyfer adrannau fel Adroddiadau, Polisïau a Gyrfaoedd. Mae is dudalennau yn helpu ymwelwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Mae pobl yn sganio cynnwys y we, yn hytrach na’i ddarllen gair am air. Mae astudiaeth arall yn dangos bod defnyddwyr yn aml yn gadael tudalennau gwe o fewn 10-20 eiliad. Mae’r cyfartaledd sylw mae rhywun yn ei roi i rywbeth yn debygol o fod yn isel, weithiau’n llai nag 10 eiliad. Felly mae angen osgoi paragraffau hir. Yn lle hynny, rhannwch eich cynnwys yn flociau bach, hawdd. Defnyddiwch bwyntiau bwled a rhestrau i dorri’r testun.
Mae’r Asiantaeth Ddarllen yn enghraifft o elusen sydd â thudalen ‘Amdanom Ni’ wedi’i threfnu’n dda. Maent yn tynnu sylw at eu cenhadaeth a’u heffaith yn effeithiol. Mae Sand Dams Worldwide hefyd yn rhannu ystod eang o wybodaeth ar eu tudalennau ‘Amdanom Ni’.
Defnyddio galwad i weithredu
Mae galwad i weithredu yn bwysig wrth annog ymwelwyr i droi’n gefnogwyr. Defnyddiwch y galwad yma i wahodd ymwelwyr i:
- Gyfrannu rhodd
- Gwirfoddoli
- Codi arian
- Partneru
- Cymryd rhan yn ymgyrch eich elusen
- Rhannu pethau ar gyfryngau cymdeithasol
UDefnyddiwch iaith glir gyda dolenni neu fotymau sy’n cyfeirio’ch ymwelwyr at dudalennau gwe berthnasol.
Gallwch hefyd gyfeirio’ch ymwelwyr i dudalennau eraill, er enghraifft:
- Tîm
- Polisïau
- Adroddiadau
- Gyrfaoedd
- Cysylltu
- Tudalennau effaith
Gwybodaeth bellach
- Dysgu sut i greu hafan hawdd ei defnyddio
- Darganfod sut i gynllunio gwefan newydd
- Dysgu sut i brofi eich gwefan gyda’ch defnyddwyr
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst