star

Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Cheisiadau am Gyllid: Yr hyn y dylech ei wybod 



Awdur: Andrew Collins; Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Defnyddio AI i ategu eich ceisiadau am gyllid 

Os ydych erioed wedi syllu ar ffurflen gais wag a meddwl ble i ddechrau, nid ydych ar eich pen eich hun. Mae angen amser i lenwi ceisiadau am gyllid; ac i sefydliadau â chapasiti cyfyngedig, gallant deimlo fel rhwystr mawr. Gall adnoddau AI helpu gyda hyn – ond dim ond os defnyddiwch nhw yn y ffordd iawn. 

Y newyddion da yn hyn o beth yw bod nifer o gyllidwyr yn agored ynghylch eu safbwynt ynglŷn ag AI. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef un o’r cyllidwyr mwyaf yng Nghymru, wedi cyhoeddi canllawiau clir ar hyn. Mae safbwynt y Gronfa yn syml – cewch ddefnyddio AI i helpu i ysgrifennu eich cais, ac ni fydd eich cais yn cael ei wrthod dim ond oherwydd eich bod wedi defnyddio AI. 

Wedi dweud hyn, mae’r Gronfa yr un mor glir ynglŷn â’r risgiau. Mae cynnwys a gynhyrchir gan AI yn tueddu i fod yn generig, ac mae ceisiadau generig yn geisiadau gwannach. Mae cyllidwyr yn dymuno deall eich cymuned, eich prosiect a pham y mae’n bwysig. Ni all unrhyw adnodd AI gyfleu’r stori honno ar eich rhan, ond efallai y bydd modd iddo eich helpu i adrodd y stori’n fwy effeithlon. 

Mae’n werth nodi bod y canllawiau’n amrywio o gyllidwr i gyllidwr. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn coleddu un o’r safbwyntiau mwyaf agored. Cyn defnyddio AI mewn cais ar gyfer cyllidwr arall, byddai’n syniad da cadarnhau a yw’r cyllidwr hwnnw wedi cyhoeddi ei ganllawiau ei hun, oherwydd efallai y bydd rhai cyllidwyr â disgwyliadau gwahanol. 

Cadw eich data’n ddiogel 

Dyma rywbeth y mae nifer o bobl yn anghofio amdano, ond efallai mai dyma’r ystyriaeth bwysicaf. Pan fyddwch yn teipio gwybodaeth ar adnodd AI am ddim, efallai y bydd yr wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i hyfforddi fersiynau o’r model ar gyfer y dyfodol. Yn achos y mwyafrif o dasgau beunyddiol, mae’r risg hon yn dderbyniol. Ond yn achos ceisiadau am gyllid, dylid ystyried y mater yn fwy gofalus. 

Yn aml, mae ceisiadau’n cynnwys manylion sensitif – er enghraifft, gwybodaeth am y bobl rydych yn eu cefnogi, data ariannol mewnol, manylion am yr heriau sy’n wynebu eich sefydliad, neu astudiaethau achos personol. Nid arfer da yw nodi’r wybodaeth hon yn ddifeddwl mewn adnodd AI am ddim. 

Dyma rai camau ymarferol ar gyfer diogelu eich data: 

  • Peidiwch â defnyddio adnoddau am ddim ar gyfer unrhyw wybodaeth sensitif. Mae cynlluniau y telir amdanynt, fel Claude neu ChatGPT, yn diogelu data yn well – yn cynnwys opsiynau i atal eich sgyrsiau rhag cael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant.
  • Peidiwch â gludo gwybodaeth bersonol adnabyddadwy am ddefnyddwyr gwasanaethau mewn unrhyw adnodd AI.
  • Gwiriwch osodiadau preifatrwydd a thelerau pob adnodd cyn ei ddefnyddio ar gyfer ceisiadau.
  • Os yw eich sefydliad yn trin data sensitif, ystyriwch lunio polisi mewnol syml yn ymwneud â’r hyn y caniateir/na chaniateir i’r staff ei rannu gydag adnoddau AI.

Yn ProMo Cymru, un o’n hegwyddorion craidd ar gyfer defnydd cyfrifol o AI yw na fyddwn yn rhannu data pobl gydag adnoddau AI heb eu cydsyniad. Gallwch ddarllen ein Datganiad Deallusrwydd Artiffisial llawn yma: https://promo.cymru/cy/datganiad-deallusrwydd-artiffisial/.  

Gwneud yn fawr o AI trwy ychwanegu cynnwys 

Un rhwystredigaeth fawr a ddaw i ran pobl wrth ddefnyddio adnoddau AI yw’r ffaith bod yr allbwn yn teimlo’n generig ac yn ddigyswllt oddi wrth eu gwaith. Mae yna reswm syml am hyn – ni fydd AI yn gwybod unrhyw beth am eich sefydliad, oni bai y rhowch yr wybodaeth iddo. 

Gall adnoddau sy’n eich galluogi i ychwanegu cynnwys fod yn wirioneddol ddefnyddiol yn hyn o beth. Mae Claude Projects (sydd ar gael os ydych yn talu am gynllun Claude) yn enghraifft dda. Mae’n eich galluogi i greu gweithle pwrpasol lle gallwch lanlwytho dogfennau’n ymwneud â’ch sefydliad – eich strategaeth, ceisiadau blaenorol, adroddiadau effaith, theori newid. Yna, bydd yr adnodd AI yn defnyddio’r holl wybodaeth honno pan fyddwch yn gofyn cwestiynau iddo neu’n gofyn iddo ddrafftio rhywbeth. 

Yn hytrach na gofyn i AI gwag ysgrifennu amdanoch chi a’ch gwaith, a chael rhywbeth a allai fod yn berthnasol i unrhyw elusen, rydych yn gweithio gydag adnodd sydd wedi darllen eich deunyddiau ac a all adlewyrchu eich llais, eich data a’ch ymagwedd. Mae hyn yn arwain at wahaniaeth mawr yn ansawdd yr allbwn. 

Mae adnoddau eraill yn cynnig swyddogaethau tebyg. Mae ChatGPT yn eich galluogi i greu GPTs teilwredig gyda dogfennau sydd wedi’u lanlwytho. Os yw eich sefydliad yn defnyddio Microsoft 365, gall Microsoft Copilot ddefnyddio ffeiliau sydd wedi’u storio ar SharePoint neu OneDrive. Po fwyaf perthnasol a manwl fydd y cynnwys a roddwch i’r adnodd AI, po fwyaf defnyddiol fydd yr adnodd hwnnw yn y pen draw. 

Sut i ddefnyddio AI yn dda yn eich ceisiadau 

Mae canllawiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynnig cyngor ymarferol sy’n berthnasol, fwy neu lai, i bob cyllidwr y byddwch yn anfon cais ato:  

  • Dechreuwch gyda’ch cymuned, nid prompt gwag: Bydd AI yn gweithio ar ei orau os cyflwynwch fewnwelediadau, adborth ar ymgynghoriadau, a data y gellir gweithio gydag ef, yn hytrach na gofyn iddo ddyfeisio’r pethau hynny ei hun. 
  • Byddwch yn benodol: Bydd promptiau generig yn cynhyrchu allbynnau generig. Dywedwch wrth yr adnodd AI beth yn union y mae eich prosiect yn ei wneud, pwy a wasanaethir, a’r hyn sy’n ei wneud yn arbennig. 
  • Ystyriwch yr allbwn fel drafft cyntaf, nid fel cynnyrch gorffenedig: Golygwch y testun er mwyn iddo gyd-fynd â’ch arddull, ychwanegwch fanylion nad oes neb ond chi yn eu gwybod, a gwnewch yn siŵr bod pob honiad yn gywir. 
  • Peidiwch â dibynnu ar gyllidebau a awgrymir gan AI: Cofiwch wirio ffigurau’n ofalus yn erbyn eich cynlluniau gwirioneddol a meini prawf cymhwystra’r cyllidwr. 
  • Chwiliwch am bethau anghywir: Mae AI yn gallu cynhyrchu cynnwys sy’n swnio fel pe bai modd dibynnu arno ond sydd, mewn gwirionedd, yn cynnwys ffeithiau anghywir. Gwiriwch yr holl bethau pwysig cyn eu cynnwys yn eich cais. 

Adnodd defnyddiol, nid llwybr byr 

Y sefydliadau sy’n defnyddio AI gogyfer gweithio’n fwy effeithlon yw’r sefydliadau a fydd yn elwa fwyaf ar AI mewn perthynas â cheisiadau am gyllid, nid y sefydliadau sy’n defnyddio AI gogyfer osgoi gwaith caled. Cofiwch fod yn rhaid i geisiadau da gynnwys mewnwelediadau gwirioneddol yn ymwneud â’ch cymuned, ynghyd â chynllun clir sydd wedi’i gostio ac achos argyhoeddiadol sy’n cyfleu pam y mae eich prosiect yn bwysig. Ni all AI gynhyrchu’r pethau hyn o wagle. 

Ond gall AI eich helpu i drosglwyddo geiriau ar y dudalen yn gyflymach, ynghyd â gwella trefn ac eglurder yr hyn a ysgrifennwch a gwneud i’r broses deimlo’n llai brawychus. Os defnyddiwch AI yn y ffordd hon, gall fod yn arf ychwanegol gwirioneddol ddefnyddiol wrth lunio ceisiadau. 

Os hoffech gael cymorth i ddefnyddio adnoddau AI yn ddiogel ac yn effeithiol yn eich sefydliad, cysylltwch â’n tîm i weld sut y gallwn eich helpu. 

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889