Deallusrwydd Artiffisial (AI) a’r Gymraeg: Yr hyn y dylech ei wybod
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 4 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi datganiad polisi newydd yn ymwneud ag AI a’r Gymraeg. Dyma’r pwyntiau hollbwysig y dylai sefydliadau yng Nghymru fod yn ymwybodol ohonynt:
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad o’r enw Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg: Datganiad Polisi Rheoleiddiol Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n nodi sut y disgwylir i sefydliadau sy’n dymuno dilyn safonau’r Gymraeg fynd i’r afael ag AI, a cheir goblygiadau gwirioneddol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru.
Mae’r neges graidd yn syml – nid yw defnyddio AI yn eithrio sefydliadau rhag eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg. Ni ddylai unrhyw system AI a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Ond hefyd nodir yn glir bod AI, os caiff ei ddefnyddio’n effeithiol, yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i gryfhau darpariaethau’r Gymraeg, yn hytrach na baich cydymffurfio i’w reoli yn unig.
Y cyfleoedd
Mae’r Comisiynydd yn nodi sawl maes lle gall AI ategu’r Gymraeg. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys adnoddau trawsgrifio a chyfieithu amser real, lleferydd-i-destun a thestun-i-leferydd yn y Gymraeg, a’r potensial y gall AI helpu sefydliadau i gynhyrchu cynnwys yn y Gymraeg o’r cychwyn cyntaf yn hytrach na chyfieithu’r testun o’r Saesneg wedyn.
Hefyd, mae’r adroddiad yn nodi rôl esblygol cyfieithwyr – nid fel pobl a gaiff eu disodli gan AI, ond fel strategaethwyr iaith, golygyddion AI, ac arbenigwyr profiad defnyddwyr y bydd eu harbenigedd yn bwysicach (yn hytrach nag yn llai pwysig) wrth i gynnwys a gynhyrchir gan AI ddod yn fwy cyffredin.
Y risgiau y dylid bod yn ymwybodol ohonynt
Mae’r adroddiad yn nodi’n glir bod defnydd o AI eisoes yn esgor ar ddiffyg cydymffurfio â safonau’r Gymraeg, yn ôl pob tebyg. Mae enghreifftiau penodol yn cynnwys:
- Sgwrsfotiaid sy’n dechrau sgwrsio yn y Gymraeg ond sy’n troi i’r Saesneg wedyn
- Dogfennau swyddogol a gaiff eu cyfieithu’n awtomataidd heb i siaradwr Cymraeg cymwys eu hadolygu
- Systemau adnabod llais sy’n gweithio’n dda yn y Saesneg ond nid yn y Gymraeg
- Adnoddau ar gyfer hyfforddi a recriwtio staff a gyflwynir yn y Saesneg yn unigvered in English only
Tynnir sylw at risg gynilach hefyd: sef systemau AI sy’n dweud pethau cadarnhaol ynglŷn â’r Gymraeg heb gynhyrchu cynnwys sy’n berthnasol yn ddiwylliannol neu’n naturiol yn ieithyddol. Nid yw mynegi cefnogaeth ar gyfer y Gymraeg yr un fath â bod yn ddefnyddiol i siaradwyr Cymraeg.
Yr hyn y dylai sefydliadau ei wneud
Mae’r Comisiynydd yn nodi wyth o egwyddorion craidd y dylai sefydliadau eu dilyn. Mae’r egwyddorion hyn yn ymwneud â thegwch, cywirdeb ieithyddol, tryloywder, atebolrwydd, preifatrwydd, arloesi cyfrifol, cydymffurfiaeth barhaus, a hyfforddiant ar gyfer staff. I’r mwyafrif o sefydliadau’r trydydd sector, dyma’r mannau cychwyn ymarferol:
- Profi pob system AI yn y Gymraeg cyn ei defnyddio mewn gwasanaeth. Os yw’r system yn gweithio’n dda yn y Saesneg, ni ddylid rhagdybio y bydd y gweithio cystal yn y Gymraeg.
- Ni ddylid defnyddio adnoddau cyfieithu awtomataidd i gyfieithu cynnwys swyddogol neu gynnwys ar gyfer y cyhoedd heb i siaradwr Cymraeg cymwys adolygu’r testun.
- Dylid llunio gwasanaethau dwyieithog o’r cychwyn cyntaf, yn hytrach na’u hadeiladu yn y Saesneg a’u cyfieithu wedyn.
- Dylid gofyn i ddarparwyr adnoddau AI sut y mae eu systemau’n cefnogi’r Gymraeg.
- Dylid cadw cofnodion o’r iaith a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau, yn cynnwys rhyngweithiadau a gynhyrchir gan AI.
Dogfen fyw
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod y maes hwn yn datblygu’n gyflym ac y bydd y datganiad polisi’n cael ei adolygu a’i ddiweddaru wrth i AI esblygu. Anogir sefydliadau i gysylltu â’r Comisiynydd os oes ganddynt gwestiynau ynglŷn â’r modd y mae eu dyletswyddau o ran y Gymraeg yn berthnasol i ddefnydd penodol o AI.
Gallwch ddarllen y datganiad polisi llawn ar wefan Comisiynydd y Gymraeg ac mae ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer unrhyw sefydliad yng Nghymru sy’n defnyddio AI i ddarparu gwasanaethau.
Os hoffech gael cymorth i ystyried sut y mae AI yn effeithio ar gyfrifoldebau eich sefydliad mewn perthynas â’r Gymraeg, cysylltwch â’n tîm i weld sut y gallwn eich helpu.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst