Sut Gall DimCôd Helpu Gwefan a Gwasanaethau Digidol Eich Elusen
Awdur: Andy Bell;
Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Ym mis Tachwedd llynedd, profais wyrth cynhyrchiant a darganfod ffordd i adeiladu gwefannau bedair gwaith yn gyflymach. Yn llythrennol. Roedd gwefan a fyddai wedi cymryd mis yn cymryd wythnos nawr.
Ac roedd gwelliant yn yr ansawdd hefyd. Roedd yr HTML (cod) yn lanach. Nid oedd yn teimlo fel ein bod yn mynd i ddyled dechnegol.
Rydw i wedi treulio’r 15 mlynedd diwethaf yn creu gwefannau. Sefydlais asiantaeth arobryn. Lansiais un neu ddau gwmni newydd llwyddiannus. O diar, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gwybod am wefannau! Ond roedd hyn yn sioc.
Efallai eich bod chi’n pendroni, sut y llwyddais i fod 400% yn fwy cynhyrchiol?
Mae’n wers y gall llawer o elusennau ddefnyddio yn eu sefydliad eu hunain. Ychydig iawn o sgiliau, profiad ac arbenigedd technegol sydd ei angen, a gall gynhyrchu canlyniadau gwych.
Grym DimCôd
Dechreuais wrth ddefnyddio rhaglen adeiladu gwefannau Webflow.
Mae Webflow fel Wix neu SquareSpace. Ond mae’n debyg yn yr un ffordd y mae iPhone yn debyg i Palm Pilot. Mae’n fras yr un peth ond mae’r ansawdd gymaint gwell fel ei fod yn gynnyrch o ddosbarth gwbl wahanol.
Mae Webflow yn rhan o genhedlaeth newydd o adnoddau DimCôd sy’n rhagori ar eu hen gyfoedion. Enghreifftiau eraill sy’n dangos yr un gwahaniaeth mewn ansawdd yw Airtable (taenlenni), Bubble (adeiladwr apiau i unrhyw un) a Zapier (yn cysylltu meddalwedd â’i gilydd). Mae’r rhain yn cael eu galw yn DimCôd (NoCode). Mae ffiniau o beth yw DimCôd ychydig yn aneglur ond yn y bôn maent yn rhywbeth cyffrous.
Cafodd Andrew Wilkinson, perchennog Dribble a MetaLab a seren we gyffredinol, brofiad tebyg.
Pam bod DimCôd gymaint cyflymach?
Rheolwr cynnyrch yw fy rôl mewn gwirionedd. Ni allaf ddylunio. Ni allaf godio. (Rhag ofn eich bod chi’n pendroni beth alla i’w wneud… Rwy’n meddwl am syniadau ar gyfer gwefannau, yn eu profi ac yn eu datblygu).
Gadewch i ni ddefnyddio Webflow fel enghraifft o sut mae DimCôd yn gallu cyflymu pethau. Cyn Webflow, fy mhroses ar gyfer dylunio adran newydd o wefan oedd:
- Braslunio syniadau ar bapur neu PowerPoint. Anfon nhw at y dylunydd. (Hanner diwrnod.)
- Trafod y brasluniau gyda dylunydd. Mae hi’n creu llond llaw o fersiynau. Trafodaeth bellach a chadarnhau ein bod yn hapus efo popeth. (Un diwrnod, wedi’i wasgaru dros wythnos.)
- Mae datblygwr pen blaen yn adeiladu’r system yn HTML/CSS. (Un diwrnod, wedi’i amserlennu i’r sbrint pythefnos nesaf.)
- Mae’r dylunydd yn cynnig adborth ar weithrediad y datblygwr. Mynd yn ôl ac ymlaen ychydig o weithiau. (Tridiau.)
Cyfanswm hyd y prosiect: un mis
Mae hyn os yw popeth yn mynd yn dda, a bod pawb ar gael, ac nid oes unrhyw gam-gyfathrebu (sy’n golygu mwy o fynd a dod). I fod yn glir, dim ond pum diwrnod o waith yw hwn, ond unwaith y bydd tri pherson yn rhan ohono, mae’n cymryd mis i’w gael drwy’r system.
Gyda Webflow, mae fy mhroses yn edrych yn debyg i hyn:
- Casglu’r cynnwys a braslunio rhai syniadau. (1 diwrnod.)
- Creu adran y wefan. (Hanner diwrnod.)
Gallaf wneud y cyfan fy hun, gan fod Webflow yn haws na Photoshop neu HTML (nid wyf erioed wedi meistroli’r naill na’r llall ohonynt yn iawn).
Safleoedd Webflow ar waith
Ers darganfod DimCôd, rwyf wedi bod yn hynod gynhyrchiol. Ynghyd â fy nghydweithiwr Noam, ac yn fwy diweddar Will, rydym wedi adeiladu tair gwefan ar gyfer Catalyst:
- Catalyst – mae’r un yma wedi bod trwy lond llaw o fersiynau sylweddol.
- Dovetail – mae’r un yma yn defnyddio Zapier ac Airtable hefyd.
- Digital Candle – cyflwyno dros 200 o elusennau i arbenigwyr gwirfoddol.
Dwy wefan ar gyfer Refugee Action:
- Gwefan ymateb Arfer Da i COVID-19
- Llawlyfr Lloches Coronafeirws (a ddylai Google Docs gyfrif fel DimCôd? Ydy meddwn i).
Yn ogystal, adeiladom wefan ar gyfer ein hasiantaeth newydd, Sidelabs.org. A safle ar gyfer clwb pêl-droed plant lleol.
Mae hyn i gyd er gwaethaf bod y plant yn cael eu ‘haddysgu’ adref am gwpl o fisoedd.
Gwir werth DimCôd
Nid yr amser a arbedir yw’r budd mwyaf o Webflow ac adnoddau DimCôd eraill. Nid yr arian a arbedir chwaith.
Y budd mwyaf yw sut mae’n helpu eich gwasanaethau digidol i ganolbwyntio mwy ar y defnyddiwr.
Mae pawb ym myd gwefannau yn dweud bod angen i chi brofi, dysgu a mesur. Maen nhw i gyd yn dweud bod angen i chi ailadrodd. Maen nhw i gyd yn dweud y bydd eich rhagdybiaethau am ymddygiad defnyddwyr yn anghywir; mae’n rhaid i chi adeiladu prototeip yn gyflym a dechrau dysgu sut mae defnyddwyr yn ymateb.
Ond yn ymarferol, mae’n ddrud iawn adeiladu gwefan hanner gweddus. Pan fydd yn lansio o’r diwedd mae pawb yn cwympo. Cyllideb wedi chwalu. Brwdfrydedd wedi blino. Uchelgeisiau ailadrodd yn cael eu hanghofio’n dawel.
Gyda DimCôd, rydych chi’n arbed cymaint o amser fel bod breuddwyd datblygiad ailadroddus yn dod yn realiti. Yn lle ceisio ymladd â CSS ac amserlennu aelodau tîm, gallwch ddefnyddio’ch amser yn gwneud y pethau gwirioneddol werthfawr: mynd o dan groen cymhellion eich defnyddwyr a chrefftio geiriau a llifau sy’n ymateb i’w hanghenion. Mae’r rhain yn dasgau sydd â chyfle i wthio’r byd i gyfeiriad gwell. Dyma gynnydd go iawn.
A yw DimCôd yn gweddu pawb?
Unwaith eto, mae Andrew Wilkinson yn ateb hyn yn dda.
Yn fyr, oni bai eich bod chi’n gwneud rhywbeth sydd â chymhlethdod technolegol sylweddol, yna gallai DimCôd fod yn wych i chi. Os ydych chi ar fin dechrau ar brosiect datblygu gwefannau, gofynnwch i’ch asiantaeth ystyried yr opsiwn DimCôd.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst