Adnoddau gwneud nodiadau Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer Sefydliadau Nid-er-elw
Awdur: Andrew Collins;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
I sefydliadau prysur yn y trydydd sector yng Nghymru, amser yw’r adnodd mwyaf gwerthfawr. Dyma faes lle gall ‘adnoddau gwneud nodiadau’ AI fod o help mawr. Mae’r cynorthwywyr digidol hyn yn ymuno â’ch cyfarfodydd ar-lein (ac wyneb yn wyneb, o dro i dro), gan drawsgrifio sgyrsiau a chynhyrchu crynodebau, pwyntiau gweithredu a phenodau’n awtomatig.
Ond gan fod cynifer o opsiynau ar gael, pa un sy’n iawn ar gyfer eich sefydliad chi? Dewch inni drafod rhai o’r adnoddau mwyaf poblogaidd, gan ystyried eu manteision, eu hanfanteision a’u costau.
1. Zoom AI Companion
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sydd eisoes yn talu am gynllun Zoom.
Os yw eich sefydliad yn talu tanysgrifiad Zoom, efallai fod gennych fynediad eisoes at adnodd gwneud nodiadau AI pwerus heb ichi sylweddoli. Mae Zoom AI Companion yn rhan o’r llwyfan, a gall swyddog gweinyddol eich cyfrif ei roi ar waith yn yr adran ‘Gosodiadau’.
Manteision:
- Ni fydd yn arwain at gost ychwanegol: Caiff ei gynnwys mewn cynlluniau Zoom y telir amdanynt (fel Pro, Business, ac ati).
- Integreiddio di-dor: Mae’n rhan o’r rhyngwyneb Zoom rydych eisoes yn gyfarwydd ag ef. Gallwch ddechrau ei ddefnyddio gydag un clic.
- Crynodebau da: Mae’n mynd ati’n awtomatig i lunio crynodebau o gyfarfodydd, penodau clyfar i’ch helpu i lywio trwy’r recordiad, a rhestr o’r camau nesaf.
- Mae’n canolbwyntio ar breifatrwydd: Mae Zoom yn nodi na fydd yn defnyddio eich sain, eich fideos na’ch sgyrsiau i hyfforddi ei fodelau AI, heb gael eich caniatâd.
Anfanteision:
- Cynlluniau y telir amdanynt yn unig: Dyma’r rhwystr mwyaf. Os ydych yn defnyddio fersiwn ‘am ddim’ Zoom, ni allwch ei ddefnyddio.
- Zoom yn unig: Dim ond ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir ar Zoom y bydd yn gweithio, felly ni all helpu gyda galwadau Teams neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb.
2. Fathom
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sydd angen opsiwn am ddim o ansawdd da.
Mae Fathom yn gynorthwyydd poblogaidd ar gyfer cyfarfodydd fideo, ac mae’n recordio, yn trawsgrifio, yn amlygu ac yn crynhoi eich cyfarfodydd. Mae’r brif ragoriaeth sy’n perthyn iddo braidd yn annisgwyl – sef ei fod yn rhad ac am ddim.
Manteision:
- Mae’n rhad ac am ddim: Dyma fantais enfawr i sefydliadau â chyllidebau tynn.
- Preifatrwydd yn gyntaf: Dyma fantais fawr. Mae Fathom yn nodi na fydd byth bythoedd yn defnyddio eich sain, eich fideos na’ch trawsgrifiadau i hyfforddi modelau AI. Dyma sicrwydd hollbwysig i sefydliadau sy’n delio â gwybodaeth sensitif.
- Crynodebau rhagorol: Mae Fathom yn llunio crynodebau manwl a threfnus sy’n hollti’r sgwrs ac yn nodi eitemau gweithredu ar gyfer pob unigolyn.
- Aml-lwyfan: Mae’n gweithio ar draws Zoom, Microsoft Teams a Google Meet.
- Rhannu rhwydd: Gwaith hawdd yw creu a rhannu clipiau o adegau hollbwysig mewn cyfarfodydd.
Anfanteision:
- Gweladwy i bawb: Mae adnodd gwneud nodiadau Fathom yn ymuno â’r alwad fel cyfranogwr ar wahân. Er bod hyn yn wych o ran tryloywder, efallai y bydd yn deimlad braidd yn od i fynychwyr nad ydynt yn gyfarwydd â’i ddefnyddio.
- Ni cheir opsiwn ‘wyneb yn wyneb’: Yn wahanol i ambell adnodd, ni cheir ap symudol ar gyfer recordio cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
3. Otter.ai
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Trawsgrifiadau a recordiadau o ansawdd da ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Mae Otter.ai wedi arwain y maes mewn trawsgrifiadau AI ers amser maith. Gall gysylltu â’ch cyfarfodydd ar-lein neu weithredu fel ap annibynnol ar eich ffôn er mwyn recordio a thrawsgrifio sgyrsiau mewn amser real.
Manteision:
- Mae’n gywir iawn: Mae Otter yn enwog am lunio trawsgrifiadau manwl gywir, ac mae hefyd yn enwog am ei allu i adnabod gwahanol siaradwyr.
- Ap symudol: Mae’r ap yn wych ar gyfer cofnodi nodiadau mewn digwyddiadau, gweithdai neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb – rhywbeth na all yr adnoddau eraill a restrir ei wneud.
- Haen ‘am ddim’ dda: Mae’r cynllun am ddim yn cynnig nifer dda o funudau trawsgrifio bob mis, a all fod yn ddigon ar gyfer unigolion neu dimau bach.
- Mae’n integreiddio â llwyfannau eraill: Gall gysylltu’n rhwydd â Zoom, Teams a Google Meet.
Anfanteision:
- Cynllun ‘am ddim’ cyfyngedig: Mae’r cynllun am ddim yn cyfyngu ar hyd pob recordiad ac ar nifer y ffeiliau sain y gallwch eu mewngludo.
- Cost fynych: Mae’r cynlluniau y telir amdanynt – sy’n cynnig ychwaneg o funudau a nodweddion – yn golygu y bydd yn rhaid talu costau misol a blynyddol y bydd yn rhaid eu cynnwys yn eich cyllideb.
- Preifatrwydd: Cofiwch fwrw golwg ar y polisi preifatrwydd. Yn gyffredinol, mae cynlluniau busnes y telir amdanynt yn diogelu data’n well ac yn cynnig gwell sicrwydd na fydd eich data’n cael ei ddefnyddio i hyfforddi modelau AI.
4. Dull DIY: Trawsgrifiadau Microsoft Word + ChatGPT/Co-Pilot
Yr opsiwn gorau ar gyfer: Sefydliadau sydd eisoes yn defnyddio Microsoft 365.
Nid un adnodd mewn gwirionedd, ond casgliad o adnoddau. Os yw eich sefydliad yn defnyddio Microsoft Teams, gallwch ddefnyddio’r nodweddion trawsgrifio sy’n rhan o’r system. Ar ôl i’r cyfarfod ddod i ben, gallwch gopïo’r trawsgrifiad a’i ludo mewn adnodd AI fel ChatGPT, Claude, neu Co-Pilot Microsoft, er mwyn llunio crynodeb.
Manteision:
- Mae’n defnyddio offer sydd ar gael eisoes: Mae gan nifer o sefydliadau’r trydydd sector danysgrifiad Microsoft 365 eisoes, sy’n cynnwys tanysgrifiad Teams, felly ni fydd yn rhaid talu am feddalwedd ychwanegol.
- Dull hawdd ei deilwra: Chi fydd yn rheoli popeth. Gallwch bromptio’r AI i grynhoi’r testun mewn unrhyw fformat: “Lluniwch grynodeb ar ffurf pwyntiau bwled”, “Rhestrwch yr holl gamau gweithredu ar gyfer Marco”, neu “Beth oedd y penderfyniadau hollbwysig a wnaed?”.
- Integreiddio â Co-Pilot: Os os gennych drwydded Co-Pilot y telir amdani, bydd y broses hon yn symlach o lawer a bydd modd integreiddio ag amgylchedd Microsoft.
- Haen ‘am ddim’ dda: Os ydych eisoes yn talu am danysgrifiad AI, ni fydd angen talu am unrhyw beth arall.
Anfanteision:
- Proses a wneir â llaw: Mae angen mynd trwy sawl cam (llunio’r trawsgrifiad, copïo’r testun, ei ludo ar adnodd arall, ysgrifennu prompt). Nid yw’n cynnig ateb awtomataidd ‘un clic’.
- Risg o ran preifatrwydd: Ni ddylech ludo nodiadau sensitif neu gyfrinachol ar fersiwn am ddim a chyhoeddus ChatGPT na modelau AI eraill. Pe baech yn gwneud hynny, gallech roi data eich sefydliad yn y fantol. Dylech ddefnyddio fersiwn ddiogel y telir amdani, sef un a chanddi fesurau rheoli preifatrwydd data a pholisïau clir o ran y modd y defnyddir eich data.
Angen help i lywio trwy’r byd AI?
Bydd nifer o bethau – yn cynnwys eich cyllideb, eich meddalwedd presennol, ac anghenion eich tîm – yn dylanwadu ar ddewis yr adnodd iawn.
Os ydych yn sefydliad sy’n gweithio yn y trydydd sector yng Nghymru, ac os ydych yn dymuno archwilio sut y gall AI arbed amser a chynyddu eich effaith, gallwn helpu.
Gallwn eich helpu i ddewis yr adnoddau iawn, ystyried preifatrwydd data, a datblygu polisi AI syml ar gyfer eich tîm.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst