star

NotebookLM: Canllaw i Sefydliadau Nid-er-elw 



Awdur: Andrew Collins; Amser Darllen: 5 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


A ydych yn teimlo weithiau eich bod yn boddi mewn dogfennau? Ceisiadau am grantiau, adroddiadau effaith, nodiadau ar gyfer cyfarfodydd, ymchwil, dod o hyd i’r union wybodaeth rydych yn chwilio amdani – gall hyn oll deimlo fel swydd amser llawn. 

Gall NotebookLM Google helpu elusennau’n fawr yn hyn o beth. Meddyliwch amdano fel cynorthwyydd ymchwil clyfar sy’n gweithio’n gyfan gwbl gyda’ch dogfennau chi. 

Beth yw NotebookLM? 

Adnodd AI am ddim gan Google yw NotebookLM. Yn wahanol i sgwrsfotiaid AI eraill sy’n chwilio trwy’r holl ryngrwyd, dim ond y ffynonellau a lanlwythir gennych chi a ddefnyddir gan NotebookLM. Dyma ei gryfder: gallwch greu sylfaen wybodaeth bersonol, ac yna gall yr adnodd AI eich helpu i ddeall yr wybodaeth a gweithio gyda hi. Gallwch lanlwytho dogfennau PDF, dogfennau Google Docs, ffeiliau testun, a dolenni gwefannau hyd yn oed. 

Dangosfwrdd ar gyfer sgwrsfot Polisi AD yn NotebookLM

Sut y gall elusennau ei ddefnyddio? 

Mae’r posibiliadau’n enfawr, ond dyma rai syniadau ymarferol i’ch rhoi ar ben ffordd: 

  • Dogfennau’n ymwneud â grantiau: Lanlwythwch geisiadau llwyddiannus (ac aflwyddiannus) y gorffennol, canllawiau gan gyllidwyr, a’r data diweddaraf am eich effaith. Yna, gallwch ofyn i NotebookLM wneud pethau fel: “Crynhoi ein canlyniadau hollbwysig ar gyfer prosiectau ieuenctid yn y ddwy flynedd ddiwethaf”, neu “Llunio rhestr fwled yn ymwneud â’r modd y mae ein prosiectau’n bodloni meini prawf cyllidwyr ar gyfer cydlyniant cymunedol”. Gall eich helpu i ddrafftio cynigion newydd trwy ddefnyddio eich iaith eich hun. 
  • Cynefino gweithwyr newydd: Lanlwythwch ddogfennau mewnol hollbwysig: y llawlyfr staff, cynlluniau prosiectau, eich gweledigaeth strategol a pholisïau pwysig. Yna, bydd modd i wirfoddolwyr neu aelodau newydd o’r tîm ofyn cwestiynau uniongyrchol fel, “Beth yw ein proses ar gyfer trefnu gwyliau blynyddol?” neu “Pwy yw’r prif gyswllt ar gyfer y prosiect ‘Cynhwysiant Digidol’?”. 
  • Dadansoddi adborth: A oes gennych dudalennau o adborth yn ymwneud ag arolwg cymunedol? Lanlwythwch yr adroddiad a gofynnwch i NotebookLM “Nodi’r tri awgrym mwyaf cyffredin a gynhwysir yn yr adborth” neu “Crynhoi’r teimlad ynglŷn â’n gwasanaeth newydd”. 
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd: Lanlwythwch nodiadau’r tri chyfarfod bwrdd diwethaf. Cyn y cyfarfod nesaf, gofynnwch, “Beth oedd y pwyntiau gweithredu hollbwysig yn y cyfarfod diwethaf ac i bwy y cawsant eu neilltuo?”. 
Mae NotebookLM yn defnyddio cyfeiriadau, felly byddwch yn gwybod nad yw’n ‘gweld pethau’ neu’n ‘ffugio atebion’ 

Pam y dylai elusennau ei ddefnyddio? 

Y tu hwnt i’w swyddogaeth graidd, mae NotebookLM yn meddu ar rai nodweddion hollbwysig sy’n golygu ei fod yn addas iawn ar gyfer y trydydd sector. 

  • Bydd eich data yn parhau i fod yn breifat: Un pryder mawr ynglŷn ag AI yw preifatrwydd data. Gyda NotebookLM, ni fydd y dogfennau y byddwch yn eu lanlwytho yn cael eu defnyddio i hyfforddi modelau AI cyffredinol Google. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei neilltuo o fewn eich cyfrif, gan gynnig man diogel ar gyfer gweithio gyda gwybodaeth a allai fod yn sensitif. 
  • Atebion dibynadwy gyda chyfeiriadau: Nid atebion yn unig a gewch gan NotebookLM; mae’n dangos ei waith. Mae pob ymateb a gynhyrchir yn cynnwys cyfeiriadau wedi’u rhifo, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r union ddarn yn y dogfennau ffynhonnell. Mae hyn yn wych ar gyfer gwirio ffeithiau, cael gafael ar ddyfyniadau ar gyfer adroddiadau, a sicrhau bod eich ceisiadau am grant yn gywir. 
  • Trosolygon sain: Gall y nodwedd hon gynhyrchu trafodaeth sain yn awtomatig ar sail eich dogfennau. Gall greu “podlediad” byr yn crynhoi adroddiad hir neu gall gael sgwrs ddwy ffordd rhwng dau lais AI yn trafod themâu hollbwysig. Mae hyn yn wych ar gyfer hygyrchedd, ar gyfer aelodau’r tîm sy’n ffafrio gwrando uwchlaw darllen, ac ar gyfer cael gwybodaeth am ryw adroddiad tra byddwch yn brysur yn gwneud tasgau eraill. 
  • Adnodd am ddim: Gwir pob gair – mae’n rhad ac am ddim! Yr unig beth rydych ei angen yw cyfrif Google. Mae fersiwn ‘uwch’ o NotebookLM ar gael, a gallwch gael y fersiwn honno am ddim ar ôl tanysgrifio i Google Gemini; ond nid yw’n cynnwys rhyw lawer o nodweddion ychwanegol, ac yn ddi-os ni fydd angen ichi uwchraddio er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar yr adnodd. 

Gair i gloi 

Nid disodli gwybodaeth ddynol yw nod NotebookLM, ond eich hwyluso i gael gafael ar yr wybodaeth honno. I elusennau prysur yng Nghymru a thu hwnt, mae’n adnodd pwerus, rhad ac am ddim, a all eich helpu i arbed amser gwerthfawr, ysgrifennu ceisiadau gwell am gyllid, a gwneud gwell defnydd o’r wybodaeth sydd eisoes yn eich meddiant. Mae yna gynifer o ffyrdd o ddefnyddio NotebookLM – rhowch gynnig arno a dechreuwch arloesi! 

Os hoffech gael cymorth i ddechrau defnyddio NotebookLM, neu os oes gennych gwestiynau eraill ynglŷn ag AI, cysylltwch â’n tîm i weld sut y gallwn eich helpu. 

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889