star

Pam fod Darllenadwyedd yn Bwysig i’ch Elusen



Awdur: Dawn Kofie; Amser Darllen: 9 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Gallwch ddysgu ysgrifennu cynnwys darllenadwy. Ie, chi. Hyd yn oed os nad oes gennych chi ‘ysgrifennwr’ yn nheitl eich swydd. A hyd yn oed os ydych chi wedi arfer â mathau mwy ffurfiol o ysgrifennu sy’n defnyddio iaith dechnegol maes eich elusen – er enghraifft, adroddiadau a chynigion am gyllid.


“Helpwch bobl ar delerau eu hunain. Defnyddiwch eiriau maen nhw’n eu deall, a’u trin â’r un lefel o barch y byddech chi’n ei ddangos iddynt yn bersonol.” – Nicole Fenton a Kate Kiefer Lee, awduron ‘Nicely Said: Writing for the Web With Style and Purpose’

Fel y gwelwch, mae ysgrifennu ar gyfer darllenadwyedd yn cynnwys:

  • Bod yn ymwybodol o’r ffactorau a all wneud testun yn anodd ei ddarllen
  • Defnyddio’r geiriau y mae’r bobl rydych chi’n ysgrifennu ar eu cyfer yn eu defnyddio
  • Gwneud yr ymdrech i gyfathrebu mor glir a syml â phosibl

Beth yw darllenadwyedd

Mae darllenadwyedd yn fesur o ba mor hawdd yw darn o destun i’w ddarllen. Mae pethau sy’n effeithio ar ddarllenadwyedd yn cynnwys eich dewis o eiriau, hyd a strwythur brawddegau.

Pam mae darllenadwyedd yn bwysig

Po fwyaf darllenadwy yw eich cynnwys digidol, yr hawsaf yw hi i’r bobl rydych chi’n eu cefnogi i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Manteision darllenadwyedd

Dyma’r prif resymau pam ei bod hi’n werth creu cynnwys yn ddarllenadwy.

Mae’n gwneud bywyd yn haws i bobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau

Mae cynnwys darllenadwy yn:

  • Gyflymach i’w ddarllen
  • Haws i’w ddeall
  • Haws i’w gofio

Mae’n gynhwysol

Os yw eich cynnwys yn ddarllenadwy, mae’n helpu pobl sy’n cael trafferth darllen. Gall hyn fod yn fwy o bobl nag yr ydych chi’n meddwl, oherwydd:

Ac efallai bod pobl sy’n defnyddio eich gwasanaethau sy’n cael anhawster darllen am resymau eraill. Efallai bod Saesneg yn ail neu drydedd iaith iddynt. Neu efallai eu bod yn teimlo’n ofidus, ac felly mae’n anoddach prosesu gwybodaeth.

Ffyrdd i wella darllenadwyedd eich ysgrifennu

Mae ffyrdd syml i wella darllenadwyedd eich ysgrifennu yn cynnwys:

1. Defnyddio Saesneg plaen

Weithiau gelwir Plain English (Saesneg Plaen) yn Clear English (Saesneg Clir) neu Plain Language (Iaith Glir). Mae’n golygu cyfathrebu y gall pobl ei ddeall y tro cyntaf y maent yn ei ddarllen neu’n ei glywed. Gall defnyddio iaith bob dydd wneud cynnwys yn Saesneg mwy clir. Mae ‘Help’ yn Saesneg mwy clir nag ‘assistance’, ac mae ‘allow’ neu ‘let’ yn Saesneg mwy clir nag ‘empower’.

Mae gan GOV.UK restr o eiriau cyffredin i’w hosgoi a dewisiadau eraill mewn Saesneg Plaen. Ac mae gan yr Ymgyrch Saesneg Plaen restr A – Z o eiriau arall i’w defnyddio.

Weithiau mae pobl yn galw defnyddio cynnwys clir a hawdd ei ddeall yn ‘dumbing down’. Ond mae hynny’n anwybyddu ei effaith bositif.

“Os ydych chi’n creu cynnwys hawdd ei ddarllen, nid ‘dumbing down’ yw hyn, rydych chi’n creu gwybodaeth sy’n fwy agored i unrhyw un sydd eisiau ei ddarllen.”Sarah Winters, Content Design London.

Mae ymchwil yn dangos bod arbenigwyr yn ffafrio Saesneg Plaen. Yn 2012, cynhaliodd ymchwilwyr mewn ysgol gyfraith yn yr Unol Daleithiau astudiaeth i’r defnydd o iaith mewn dogfennau cyfreithiol. Canfuwyd po fwyaf addysgedig oedd y person, y gwell oedd ganddynt Saesneg Plaen. Felly mae creu cynnwys darllenadwy yn helpu pobl â lefelau llythrennedd uchel hefyd.

2. Cadw brawddegau’n fyr

Mae brawddegau hir a throellog (fel yr un yma) yn anoddach i’w dilyn oherwydd gallant deimlo fel profion cof i bobl sy’n cael trafferth darllen a dyna pam mae’r Plain English Campaign yn argymell defnyddio brawddegau sydd rhwng 15 a 20 gair o hyd am fod hyn yn eu gwneud yn haws i’w sganio.

3. Osgoi geiriau ac ymadroddion na fyddai’r bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaethau yn debygol o’i ddeall

Peidiwch â defnyddio termau nad yw pobl yn debygol o’u hadnabod, ac os ydych chi yna esboniwch nhw. Sillafwch dalfyriadau ac acronymau oni bai eu bod yn adnabyddus iawn (fel BBC neu FIFA). Peidiwch â defnyddio ymadroddion Lladin (defnyddiwch ‘for example’ yn lle ‘e.g’). Ac osgoi idiomau (‘piece of cake’) ac iaith drosiadol (‘a roller coaster of emotions’). Defnyddiwch y geiriau bob dydd maen nhw’n eu defnyddio.

4. Defnyddio iaith uniongyrchol

Mae defnyddio iaith uniongyrchol yn golygu ei bod hi’n hawdd deall pwy sy’n gwneud beth mewn brawddeg. Dyma enghraifft gan Barnardos:

“We support children who have been abused and help them feel safe again.”

Mae’n amlwg pwy yn union sy’n gwneud y cefnogi ac yn helpu plant i deimlo’n ddiogel.

Ond yn y fersiwn anuniongyrchol, fwy datgysylltiedig a hirach isod, nid yw’n glir pwy sy’n eu cefnogi:

“Children who have been abused are supported and they are helped to feel safe again.”

5. Torri eich testun yn ddarnau haws i’w deall gan ddefnyddio penawdau a bwledi

Mae penawdau a rhestrau bwled yn ei gwneud yn haws i bobl ddarllen a phrosesu eich cynnwys. Maent yn rhannu eich cynnwys, gan ei wneud yn haws i’w sganio ac yn osgoi cael wal o destun trwchus.

6. Defnyddio canllawiau darllenadwyedd

Mae canllawiau darllenadwyedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan Content Design London yn bwynt cyfeirio defnyddiol. Maent yn cwmpasu popeth o dalfyriadau i emojis.

Gwirwyr darllenadwyedd

Chwiliwch am ‘readability checker’ ar Google a byddwch yn dod o hyd i sawl gwahanol am ddim. Rydych chi’n copïo a gludo’ch testun ynddynt, ac yn clicio botwm i gael sgôr darllenadwyedd.

Mae gwirwyr darllenadwyedd yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i asesu testun. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Hyd brawddegau ar gyfartaledd
  • Sillafau fesul gair ar gyfartaledd
  • Canran y geiriau gyda mwy na 3 sillaf

Mae App Hemingway yn un o’r gwirwyr darllenadwyedd mwyaf adnabyddus. Mae’n rhoi lefel blwyddyn ysgol yr Unol Daleithiau i’ch cynnwys, ac yn tynnu sylw at:

  • Pa frawddegau sy’n anodd, neu’n anodd iawn, i’w darllen
  • Ble rydych chi wedi defnyddio’r stad oddefol (iaith anuniongyrchol)
  • Os oes dewisiadau eraill, symlach i’r geiriau defnyddiwyd
  • Sawl adferf defnyddiwyd

  • Which sentences are hard, or very hard, to read
  • Where you’ve used the passive voice (indirect language)
  • If there are other, simpler alternatives to words you’ve used
  • How many adverbs you’ve used

Dyma asesiad Hemingway o gynnwys gan Cymorth i Fenywod Shakti:

A screenshot showing a Hemingway app assessment of content from Shakti Women’s Aid’s homepage.

‍Nid oes rhaid gweithredu ar yr holl adborth gan wirwyr darllenadwyedd. Ond gallant fod yn fan cychwyn defnyddiol os ydych chi am greu ysgrifennu symlach.

Ni fydd gwirwyr darllenadwyedd yn gwella ansawdd eich cynnwys

Mae gwirwyr darllenadwyedd yn ddefnyddiol, ond mae yna anfanteision hefyd. Hyd yn oed yw’r bobl rydych chi’n eu cefnogi yn gallu darllen eich geiriau, nid yw hynny’n golygu eu bod nhw’n deall bob tro.

Mae Hemingway yn graddio’r ymadroddion hyn fel gradd 6 (da):

  • ‘Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm’
  • ‘Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau’
  • ‘Elfen plant Credyd Cynhwysol’

Felly, mewn theori, mae eu darllenadwyedd yn uchel. Ond, pan gawsant eu profi gyda’r bobl oedd yn gwneud cais am fudd-daliadau, roedden nhw’n cael trafferth eu darllen a’u deall.

Dyma un o anfanteision gwirwyr darllenadwyedd. Nid ydynt yn mesur ansawdd cynnwys, hynny yw, os yw darn o gynnwys yn cyrraedd ei nod neu beidio.

Nod y bwledi y mae Hemingway yn eu graddio fel rhai da yw disgrifio gwahanol fathau o fudd-daliadau. Ond maent yn methu oherwydd bod ansawdd y cynnwys yn wael. Iaith y llywodraeth ydyw, ac nid yw wedi’i hysgrifennu gyda’r bobl a fydd yn ei darllen mewn golwg.

Dyma enghraifft gan sefydliad a enillodd wobr Golden Bull yn 2022. Rhoddir y gwobrau hyn gan y Plain English Campaign ar gyfer cyfathrebu sy’n anodd ei ddeall:

“A new binational humanities project aims to develop a reciprocal, consultative model for decolonisation of heritage collections through digital tools, in collaboration with a tribal college library and archives in the USA, and a museum and library in the UK.”

Er y gellir darllen y geiriau hyn (prin), ond beth yw eu hystyr mewn gwirionedd?

Mae gwirwyr darllenadwyedd yn canolbwyntio ar flociau o destun sydd ddim mewn cyd-destun. Nid ydynt yn mesur ansawdd cynnwys – sef os yw darn o gynnwys yn cyrraedd ei nod ai peidio. Gallai nodau cynnwys ar gyfer eich elusen fod yn:

  • Gwneud hi’n glir sut y gall potensial gefnogwyr gyfrannu rhoddion
  • Hysbysu pobl am y dulliau gorau i gysylltu â chi
  • Disgrifio dull eich sefydliad o ymdrin ag amrywiaeth, cyfiawnder a chynhwysiant

Nod cynnwys arobryn Golden Bull yw egluro nod prosiect newydd. Ond mae’n methu oherwydd bod ansawdd y cynnwys yn wael. Mae’n frawddeg 40 gair. Nid yw wedi’i ysgrifennu gyda’r bobl a fydd yn ei ddarllen mewn golwg. Ac mae’n defnyddio jargon corfforaethol yn hytrach nag iaith bob dydd. Mae hyn i gyd yn rhwystro’r hyn y mae’n ceisio’i ddweud.

Sut i wella ansawdd eich cynnwys

Defnyddiwch egwyddorion cynllunio cynnwys i greu eich cynnwys. A phrofwch ef i sicrhau ei fod yn gweithio i’r bobl y gwnaethoch chi eu creu ar eu cyfer. Mae profi cynnwys hefyd yn eich helpu i ddarganfod y geiriau y mae’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn eu defnyddio.

Mae ffyrdd o wneud hyn yn cynnwys:

Beth i’w wneud os nad ydych chi’n gallu profi eich cynnwys

Os nad yw profi eich cynnwys yn opsiwn, ceisiwch ddarllen yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu’n uchel. Gall hyn fod yn ffordd dda o ddarganfod brawddegau hir, neu drwsgl, a rhannau sy’n aneglur. Gallwch hefyd ofyn i’ch gliniadur i ddarllen eich ysgrifennu yn uchel i chi.

Gallai gofyn i gydweithiwr ddarllen dros yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu a rhoi adborth i chi fod yn ddefnyddiol hefyd. (Ond cofiwch, dydych chi ddim yn ysgrifennu ar eu cyfer nhw. A bydd hi’n anodd iddyn nhw anwybyddu’r hyn maen nhw’n ei wybod, a darllen o safbwynt rhywun sy’n defnyddio’ch gwasanaethau.)

Dywedwch wrth eich cydweithiwr i bwy rydych chi wedi ysgrifennu’r cynnwys a beth yw ei bwrpas. Yna gofynnwch iddynt:

  • Ddarllen drosto gan roi sylw arbennig os yw’r cynnwys yn cyrraedd ei nod ai peidio
  • Gweld a oes gormod, neu ddim digon o fanylion
  • Amlygu unrhyw jargon a geiriau ac ymadroddion anodd
  • Awgrymu dewisiadau amgen haws

Ffordd arall o wirio os yw’r prif bwyntiau yn eich cynnwys yn glir yw gofyn i gydweithiwr ei ddarllen a’i grynhoi yn eu geiriau eu hunain.


Prif ddelwedd: llun gan Surface ar Unsplash

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889