star

Sut Mae Ko-Fi Yn Gweithio: Y Manteision ac Anfanteision



Awdur: Sarah Namann; Amser Darllen: 4 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Ydych chi’n chwilio am ffordd hawdd i dderbyn rhoddion neu i werthu eich cynnyrch a’ch gwasanaethau ar-lein? Nid oes angen i chi sefydlu gwefan gymhleth na siop e-fasnach – gall Ko-fi fod yr union beth rydych chi’n chwilio amdano.

Yn y blog yma, byddwn yn egluro beth yw Ko-fi, pam y gallai fod yn ddefnyddiol i’ch sefydliad, a sut i gychwyn arni.

Beth yw Ko-fi? 

Os ydych chi wedi edrych ar lwyfannau fel Shopify, Etsy, neu sefydlu eich system rhodd eich hun ar wefan, byddwch yn ymwybodol y gallant fod yn ddrud, yn cymryd llawer o amser, neu’n rhy gymhleth. 

Mae Ko-fi wedi’i gynllunio i helpu crewyr, elusennau a sefydliadau bach i dderbyn rhoddion, gwerthu cynnyrch, a chynnig aelodaeth. Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac nid yw’n cymryd cyfran o’ch rhoddion. Nid oes angen unrhyw sgiliau technoleg arbennig – os ydych chi’n gallu creu tudalen Facebook, yna gallwch chi greu cyfrif Ko-fi. 

Rydym wedi creu esiampl o dudalen Ko-fi i chi weld yma: ko-fi.com/promocymru

Pam y dylai sefydliadau trydydd sector ddefnyddio Ko-fi? 

Nid oes gan lawer o elusennau bach neu grwpiau cymunedol yr amser na’r gyllideb i adeiladu siop ar-lein ffansi. Mae Ko-fi yn rhoi dewis syml, diffwdan i chi: 

  • Cadwch yr arian rydych chi’n ei godi – nid yw Ko-fi yn cymryd cyfran o roddion 
  • Addasadwy a rhanadwy – Gall eich tudalen gyd-fynd â’ch brand ac mae’n hawdd ei hyrwyddo 

 Sefydlu cyflym a hyblyg – Gellir derbyn rhoddion un tro neu fisol, gwerthu cynnyrch digidol neu gorfforol, neu godi arian ar gyfer nod penodol, i gyd mewn un lle 

Beth am Rodd Cymorth?

Nid yw Ko-fi yn cefnogi Rhodd Cymorth ar hyn o bryd, gan ei fod yn prosesu cymysgedd o daliadau am wasanaethau, cynhyrchion a rhoddion. Dim ond rhoddion pur sy’n gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth, felly ni all Ko-fi drin y broses yn awtomatig o fewn ei system.

Fodd bynnag, mae yna ddatrysiad i sefydliadau, sef gosod awtomeiddio sy’n anfon ffurflen datganiad Rhodd Cymorth at roddwyr sy’n gwneud cyfraniad cymwys. Unwaith y bydd y rhoddwr yn llofnodi ac yn dychwelyd y ffurflen (neu os oes gennych un eisoes ar ffeil), gallwch hawlio Rhodd Cymorth ar y rhoddion hynny eich hun.

Gall DigiCymru gefnogi sefydliadau i sefydlu’r broses hon.

Sut i greu eich tudalen Ko-fi (cam wrth gam) 

You Gallwch chi fod a thudalen Ko-fi yn barod i’w ddefnyddio mewn llai nag awr. Dyma sut: 

1. Ewch i ko-fi.com a chliciwch ar “Start a Page” 

2. Cofrestrwch gyda’ch e-bost neu gyfrif Google 

3. Dewiswch eich enw a’ch math o broffil 

4. Ychwanegwch eich logo neu ddelwedd proffil 

5. Ysgrifennwch ddisgrifiad byr o bwy ydych chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud 

6. Cysylltwch ddull talu (PayPal neu Stripe) 

7. Gosodwch yr hyn rydych chi am ei gynnig: Rhoddion un tro, aelodaeth, cynnyrch neu wasanaethau i’w gwerthu neu gomisiynu 

8. Addaswch olwg eich tudalen i gyd-fynd â’ch brandio 

9. Cyhoeddwch a rhannwch eich dolen 

Gallwch hefyd ychwanegu botwm neu ddolen rhodd ar eich gwefan, cylchlythyr neu gyfryngau cymdeithasol. 

Eisiau help i greu tudalen? 

Os hoffech gymorth i greu eich tudalen Ko-fi, neu os ydych chi’n pendroni mai dyma’r penderfyniad cywir i chi, mae ein tîm DigiCymru yma i helpu. Rydym yn cynnig cymorth digidol am ddim i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru – dim ond gwneud apwyntiad, a gallwn drafod eich nodau a’ch opsiynau gyda chi. 

A chofiwch edrych ar ein tudalen esiampl Ko-fi am ysbrydoliaeth: 

👉 ko-fi.com/promocymru 

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889