star

Syntheseiddio Ymchwil Defnyddwyr: Sut i’w Wneud



Awdur: Becky Colley; Amser Darllen: 9 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Mae gwrando ar eich defnyddwyr – ar eu hanghenion, eu nodau a’u cymhellion – yn ddiddorol ac yn amhrisiadwy. Ond megis cychwyn yw gwrando.


Ar ôl i chi gynnal ymchwil defnyddwyr, mae angen i chi ddeall beth mae’n ei olygu. Bydd ei syntheseiddio yn eich helpu i wneud hyn.

Beth yw synthesis?

Mae synthesis yn ffordd o brosesu’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu a phenderfynu beth i’w wneud ag ef.

Yn dibynnu ar y math o ymchwil rydych chi wedi’i wneud, mae gwahanol ffyrdd o fynd ati i wneud hyn. Gall y dulliau hyn fod yn gyflym ac ar lefel uchel. Neu’n cymryd mwy o amser ond yn gyfoethocach o ran mewnwelediadau.

Er enghraifft, dychmygwch fod gennych arolwg adborth ar eich gwefan. Gofynnir i ddefnyddwyr sgorio eu profiad. Mae adnoddau arolwg, fel Hotjar a Maze, yn casglu’r ymatebion fel y gallwch nodi a dadansoddi sgoriau isel. Mae hon yn ffordd gyflym a hawdd o weld yr hyn sydd ddim yn gweithio fel y mae defnyddwyr yn disgwyl iddynt.

Weithiau, fodd bynnag, mae angen rhywbeth mwy manwl. Gan ehangu ar yr enghraifft uchod, dychmygwch eich bod wedi sylwi bod sgôr isel iawn ar ran benodol o’u taith gwefan. Wyddoch chi ddim pam, felly rydych chi’n ei brofi gyda chyfweliadau defnyddwyr ac yna’n syntheseiddio’ch nodiadau. Dangosai hyn pam nad yw pethau’n gweithio fel y mae’r defnyddwyr yn ei ddisgwyl.

Pam syntheseiddio ymchwil defnyddwyr?

Bydd syntheseiddio ymchwil defnyddwyr yn eich helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata a fydd yn gwella profiad pobl o’ch gwasanaethau.

Bydd yn rhoi mwy o hyder i chi ac yn eich helpu i flaenoriaethu gwelliannau. Byddwch chi’n gwybod eich bod chi’n datrys problemau go iawn ac yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd.

Bydd yr hyn rydych chi’n ei ddysgu hefyd yn rhoi tystiolaeth i chi sy’n cyfiawnhau pam rydych chi’n gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud. A’r effaith y mae’n ei chael.

Syntheseiddio cyfweliadau defnyddwyr

Efallai yr hoffech chi ddechrau gyda’n herthygl am pam y dylech chi gynnal cyfweliadau defnyddwyr. Mae cyfweliadau defnyddwyr yn eich helpu i:

  • Llenwi bylchau yn eich gwybodaeth
  • Herio’ch rhagdybiaethau
  • Deall a chydymdeimlo â’ch defnyddwyr

Gall cyfweliadau defnyddwyr gynnwys:

  • Cwestiynau am eu bywyd, ymddygiad, arferion, disgwyliadau ac ati
  • Tasgau e.e. profi prototeip, archwilio brasluniau datrysiad, profi syniad

Maent hefyd yn cymryd llai o amser nag y byddech chi’n ei ddisgwyl. Cytunir yn gyffredin bod cynnal ymchwil gyda 6 chyfranogwr yn ddigon. Mae hyn yn rhoi cymaint o fewnwelediadau i chi ag y mae siarad â llawer mwy.

Graph showing the number of test users along the bottom and problems found along the vertical axis, with a curve showing that with zero users you’ll find 0% of problems, and with five or users you’ll uncover 80% of problems
Credyd delwedd: Nielsen Norman Group

Argymhellir eich bod chi’n siarad â phob cyfranogwr am tua 45 munud. Gallwch siarad â’r 6 pherson mewn diwrnod. Neu gallwch eu gwasgaru dros 2 ddiwrnod.

Mae un person yn hwyluso: gofyn cwestiynau, meithrin perthynas, cadw’r sgwrs ar y trywydd cywir. Mae o leiaf un person arall yn gwneud cofnod o’r hyn sy’n digwydd. Gorau po fwyaf yw cadw’r sawl sy’n cymryd nodiadau mewn ystafell arall. Mae hyn yn atal y cyfranogwr rhag teimlo’n nerfus neu’n eu bod  yn tynnu sylw.

Os ydych chi’n cyfweld â rhywun dros raglen galw fideo, fel Zoom, mae angen i gamera’r hwylusydd fod ymlaen. Mae hyn yn golygu y gallant ymgysylltu’n well â’r cyfranogwr. Mae angen i chi hefyd allu gweld y cyfranogwr, fel y gallwch arsylwi iaith eu corff a’u mynegiant wyneb. Mae’n well os yw’r rhai sy’n cymryd nodiadau yn diffodd eu camerâu ar ôl iddynt gyflwyno eu hunain. Unwaith eto, mae hyn yn osgoi tynnu sylw.

Cymryd nodiadau: y byd go iawn

Dewch i ni feddwl sut rydym yn casglu gwybodaeth yn gyntaf. Yn dibynnu ar sut rydych chi’n gwneud nodiadau, gallai synthesis gymryd diwrnod arall. Bydd dewis y dull cymryd nodiadau cywir yn arbed amser i chi wrth syntheseiddio.

Mae cymryd nodiadau fel arfer yn cynnwys ysgrifennu meddyliau, cwestiynau a sylwadau’r cyfweleion ar nodiadau gludiog. Gludwch y rhain lle gall pawb arall eu gweld a gallant ychwanegu arsylwadau eu hunain.

Cyngor da: mae’n helpu i gael cod lliw ar eich nodiadau gludiog, e.e. mae nodyn pinc yn golygu bod y defnyddiwr wedi cael problem. Mae hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws gweld problemau ar unwaith. Er enghraifft, os oes llawer o nodiadau pinc ar gyfer yr ail dasg gyfweliad, rydych chi’n gwybod bod defnyddwyr wedi cael trafferth defnyddio neu ddeall y rhan yma o’r dyluniad. Rydych chi’n gwybod i flaenoriaethu hyn pan fyddwch yn iteru.

A set of hundreds of post it notes on a glass wall.
Nodiadau ymchwil defnyddwyr. Credyd delwedd: Becky Colley

Dull arall yw defnyddio taenlen a rennir, gyda rhes fesul cyfranogwr a cholofn fesul cwestiwn. Gallwch chi wedyn gymryd tro’n cofnodi cymaint ag y gallwch, o sylwadau llythrennol i naws llais.

Yn y gorffennol, rydw i hefyd wedi defnyddio byrddau gwyn, gan lunio tabl a ‘sgorio’ cyfranogwyr. Mae 1 yn golygu eu bod nhw wedi ‘pasio’ tasg yn hawdd, ac mae 3 yn golygu eu bod nhw wedi cael trafferth neu wedi ‘methu’ hyd yn oed. Unwaith eto, gellir  gweld yn gyflym ble mae unrhyw broblemau amlwg.

A whiteboard showing a grid of user test results.
Tabl sgorio. Credyd delwedd: Becky Colley

Cymryd nodiadau: ar-lein

Yn ein byd sy’n gynyddol ar-lein, mae ymchwil yn cael ei gasglu’n amlach gan ddefnyddio rhaglen fel Miro neu Figma. Gallwch ddefnyddio’r rhain yn union fel y byddech chi gyda nodiadau gludiog a byrddau gwyn go iawn, ac mae digon o dempledi gwych am ddim i’ch rhoi ar ben ffordd. Dyma dempled ymchwil defnyddwyr Miro gwych, a dyma dempled synthesis am ddim Catalyst.

Pa bynnag ddull a ddefnyddiwch, mae’n helpu os yw’r rhai sy’n cymryd nodiadau yn nodi’r amseroedd pan fydd cyfranogwyr yn gwneud neu’n dweud rhywbeth diddorol. Bydd yn arbed amser i chi wrth gyfeirio’n ôl yn ddiweddarach.

Dewis arall yw recordio nodiadau sain. Efallai bod gennych chi rywun sy’n cymryd nodiadau sydd â nam ar ei olwg, neu anhawster echddygol, neu mae’n well ganddynt wneud hynny fel hyn.

Mae beth bynnag sy’n gweithio i’ch tîm yn iawn.

Example of how to use Figma, or an online collaboration tool, to collect and group participant information during user research
Templedi nodyn bwrdd gwyn ar-lein. Credyd delwedd: Becky Colley

Recordiadau fideo

Nid oes rhaid recordio, ond mae’n helpu’n fawr gyda chymryd nodiadau. Mae hefyd yn golygu, yn ddiweddarach, y gallwch chi ddangos i eraill sut mae eich defnyddwyr yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae’n llawer mwy effeithiol gweld enghraifft wirioneddol, yn hytrach na chlywed gan rywun arall.

Os ydych chi’n defnyddio labordy ymchwil defnyddwyr proffesiynol, mae bron yn sicr y byddan nhw’n recordio’ch sesiynau ac yn rhannu’r rhain gyda chi wedyn.

Os ydych chi’n ei wneud eich hun, gallwch chi ddefnyddio unrhyw dechnoleg sydd gennych chi – hyd yn oed ffôn. Gall fod yn haws defnyddio Microsoft Teams neu Zoom, gan fod nodweddion ynddynt i’ch helpu chi. Mae trawsgrifiadau a chapsiynau yn ei gwneud hi’n haws cymryd nodiadau, ac maen nhw hefyd yn fwy hygyrch a chynhwysol. Er enghraifft, os ydych chi’n rhannu eich ymchwil gyda phobl b/Byddar.

Os penderfynwch recordio cyfranogwyr, sicrhewch eich bod yn cael caniatâd ganddynt. Os ydych chi’n cyfweld â phobl ifanc neu bobl ag anableddau dysgu, gwiriwch gyda rhiant, gwarcheidwad, neu ofalwr. Byddwch yn glir ar gyfer beth fyddwch chi’n defnyddio recordiadau. Gofynnwch i gyfranogwyr lofnodi rhywbeth neu roi caniatâd llafar yn ystod y recordiad.

Gwneud synnwyr o’r cyfan

Pa bynnag ffordd rydych chi’n cymryd nodiadau, mae’n syniad da eu casglu gan ddefnyddio adnodd ar-lein (fel Figma, Miro, neu Excel). Gallwch eu rhannu’n haws gydag eraill, i gael eu cyfranogiad, a hyd yn oed ychwanegu clipiau fideo neu sain fel bod popeth mewn un lle.

Chwiliwch am batrymau cyffredin, fel sgoriau isel neu nodiadau gludiog o liw penodol. Trefnwch y rhain mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi. Grwpiwch nhw gyda’i gilydd. Amlygwch golofn taenlen mewn lliw llachar. Crëwch graff i ddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau tasgau penodol.

Tynnwch ddyfyniadau penodol, a chlipiau sain neu fideo allan. Beth sy’n eu gwneud yn ddiddorol? A yw’r defnyddiwr yn mynegi’r broblem yn berffaith? Ydyn nhw’n dweud rhywbeth positif, ond mae eu hwyneb yn dweud rhywbeth arall?

Mae’r data ansoddol cyfoethog hwn yn amhrisiadwy. Mae’n ‘mwyhau’ eich ymchwil feintiol. Mae’n ei wneud yn fwy deniadol wrth rannu gydag eraill. Gall eich helpu i ysgrifennu cwestiynau “sut y gallem ni”, gan alluogi chi i weld cyfleoedd o safbwynt defnyddiwr.

Cofiwch: nid ydych chi’n ceisio dilysu eich syniadau a’ch rhagdybiaethau yn unig ydych chi. Rydych chi eisiau dysgu go iawn am yr hyn sy’n anodd i’ch defnyddwyr er mwyn gallu gwneud gwelliannau. Rydych chi hefyd yn chwilio am yr hyn rydych chi’n ei wneud yn dda, er mwyn i chi allu parhau i’w wneud.

Rhannu, cydweithio, penderfynu

Mae’n wych os gallwch chi gynnwys eich rhanddeiliaid ym mhob pwynt o’r broses hon. Yn dibynnu ar faint eich sefydliad efallai na fydd hyn yn bosibl, ond yr hyn sy’n bwysig yw cynnwys eraill pan allwch chi.

Mae trafod eich canfyddiadau yn helpu i osgoi rhagfarn. Mae pobl â phrofiadau byw gwahanol yn dod â safbwyntiau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys y rhai â chefndiroedd ethnig, rhywiau, a/neu gyflyrau iechyd gwahanol. Cofleidiwch bopeth!

Mae cael mewnbwn gan eraill hefyd yn gallu helpu i herio rhagdybiaethau. Yn fy nhîm i, mae gennym gyfarfodydd ‘chwarae yn ôl’ ar ddiwedd pob cyfnod darganfod. Mae ymchwilwyr yn rhannu crynodeb ymchwil, yn chwarae clip fideo neu ddau, ac mae pawb yn gofyn cwestiynau. Mae’n rhoi cyfle i bawb roi eu barn.

Os nad ydych chi’n rhan o dîm, ceisiwch weld os fedrwch chi rannu gyda chydweithwyr o adran arall. Neu defnyddiwch eich rhwydweithiau cymorth ar-lein, fel cysylltiadau ar X neu LinkedIn. Mae unrhyw safbwyntiau ychwanegol yn ddefnyddiol.

Mae rhannu eich ymchwil yn sicrhau bod pawb ar yr un dudalen a gallwch chi gytuno ynghylch pa fewnwelediadau ddylai ddod yn ba gamau gweithredu.

Felly, beth nesaf?

Dechreuwch yn rhywle. Mae’n well ymchwilio a syntheseiddio na pheidio, hyd yn oed os yw’n weithgaredd newydd i chi.

Cewch fwy o help o’r canllaw Catalyst hwn: How to find themes and insights from user interviews.

Neu weler sut mae sefydliadau eraill yn syntheseiddio eu canlyniadau:


Prif ddelwedd gan Jo Szczepanska on Unsplash

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889