star

Ymchwil Defnyddwyr: Beth Ydyw a Pham ei Fod yn Bwysig



Awdur: Joe Roberson; Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru


Rydych chi wedi bod yn cefnogi eich buddiolwyr ers blynyddoedd. Rydych chi’n meddwl eich bod chi’n gwybod beth sydd ei angen arnyn nhw. Rydych chi’n credu eich bod chi’n gwybod pa fath o wasanaeth digidol i’w greu.


Ond arhoswch. Oni bai eich bod chi eisoes wedi profi eich syniad, ni allwch fod yn sicr y bydd yn gweithio i’ch defnyddwyr. Ni allwch chi wybod sut i’w wneud yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy iddyn nhw eto. Bydd gennych chi dybiaethau o hyd. Dim ond ymchwil defnyddwyr, ac yna profi, fydd yn dilysu’r rhain, neu’n dangos i chi eu bod nhw’n anghywir.

Mae Catalyst yn credu mewn cynnal ymchwil defnyddwyr. Golygai hynny:

  • Ymchwilio i anghenion eich defnyddwyr: eu nodau, problemau, agweddau ac ymddygiadau
  • Dadansoddi a herio’r canfyddiadau yma gydag o leiaf un cydweithiwr
  • Troi eich mewnwelediadau yn rhestr o anghenion defnyddwyr

Dyma beth yw ymchwil defnyddwyr a sut mae’n gweithio.

Mae ymchwil defnyddwyr yn arwain yn uniongyrchol at werth i ddefnyddwyr

Dim ond elusennau sy’n deall eu defnyddwyr all greu’r gwasanaethau digidol gorau. Mae eu gwasanaethau yn:

  • Hawdd ac yn bleserus i’w defnyddio
  • Perthnasol yn uniongyrchol i fywydau defnyddwyr o ddydd i ddydd
  • Helpu defnyddwyr i ddatrys problem neu rwystredigaeth profir yn rheolaidd.

Yn fyr, mae ganddyn nhw werth i’r defnyddiwr.

Mae ganddynt werth i’r defnyddiwr gan fod tîm y gwasanaeth wedi gwneud digon o’r ymchwil gywir cyn iddynt ddatblygu cysyniad, creu sgrialfwrdd, neu ysgrifennu llinell o god (nid oes angen cod ar bob gwasanaeth hyd yn oed).

“Mae’n ffordd o ddeall anghenion, cymhellion, ymddygiadau, a dymuniadau pobl pan maen nhw’n ‘defnyddio’ cynnyrch neu wasanaeth. Mae cynnal ymchwil defnyddwyr yn helpu i gynhyrchu mewnwelediadau ymarferol.” – Cassie Robinson, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Dilbert user research joke

Mae’n creu empathi a dealltwriaeth

Yn eich gwaith o ddydd i ddydd, mae’n debyg eich bod wedi datblygu dealltwriaeth dda o’ch defnyddwyr. Mae hynny’n bwysig. Ond i adeiladu gwasanaeth digidol da, mae angen i chi gloddio’n ddyfnach i sut a pham mae pobl yn ymddwyn fel y maent. Mae angen i chi ymchwilio i mewn i dri pheth:

  1. Sut maent yn datrys eu problemau ar hyn o bryd
  2. Eu hymddygiad digidol a dyfeisiau a ddefnyddir yn gyffredin
  3. Y cyd-destun y maen nhw’n profi eu problemau ynddo

Mae angen i chi siarad â phobl mewn ffyrdd sy’n cynhyrchu empathi (nid oes angen grwpiau ffocws yma).

“Empathi sydd wrth wraidd cynllunio. Heb ddealltwriaeth o’r hyn y mae eraill yn ei weld, ei deimlo, a’i brofi, mae cynllunio yn dasg ddibwrpas.” — Tim Brown, Prif Swyddog Gweithredol IDEO

Fe allech chi feithrin hyd yn oed mwy o empathi wrth ddysgu hyd yn oed mwy am eu bywydau. Ond fel arfer, mae’n well canolbwyntio ar y broblem a’r pethau sy’n cael effaith ar y ffordd mae eich defnyddwyr yn ei brofi ac yn ymdopi ag ef.

Mae’n defnyddio adnoddau cyffredin rydym eisoes yn ymwybodol ohonynt

“Er mwyn deall ymddygiadau defnyddwyr yn iawn, mae’n well treulio llawer o amser gyda llai o bobl, yn hytrach nag munud bach gyda llawer. Felly yn hytrach nag arolygon, rydych chi’n defnyddio technegau fel cyfweliadau lled-strwythuredig neu gysgodi.” — Egwyddor Gwasanaeth Digidol 1, CAST

Mae ymchwil defnyddiwr fel arfer yn defnyddio’r technegau canlynol:

  1. Wrth ddesg – dysgu am eich grŵp defnyddwyr o ymchwil flaenorol
  2. Cyfweliadau – siarad yn fanwl â phum defnyddiwr i gael mewnwelediad i’w bywydau
  3. Saffari gwasanaeth – arsylwi defnyddwyr yn eu bywydau bob dydd (weithiau’n bosibl, bob tro’n werthfawr)

Dyma awgrymiadau ar sut i wneud y pethau yma o bell.

Yn ddiweddarach byddwch yn ymchwilio ac yn profi prototeipiau gyda’ch defnyddwyr. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cynnal rhai sesiynau cyd-gynllunio. Ond dim ond ar ôl cynnal digon o ymchwil defnyddwyr yn gyntaf.

Nid oes angen i chi wneud cymaint ag yr ydych chi’n meddwl

Yn ei llyfr ‘Just Enough User Research’ mae Erika Hall yn egluro egwyddorion ac arferion gwneud hynny’n union: dim ond digon o ymchwil. Mae’n galonogol gwybod nad oes angen i chi wneud cymaint ag yr oeddech chi’n meddwl. Mae Erika hefyd yn ein hannog i fyfyrio ar ein mannau dall a’n rhagfarnau.

Deall bod gwneud llai o’r ymchwil gywir yn fwy defnyddiol na gwneud llawer o’r math anghywir. Ar ôl pum cyfweliad, dylech fod wedi sefydlu prif anghenion ac ymddygiadau eich defnyddwyr. Os nad ydych wedi gwneud hynny, yna gwnewch pump arall.

Darllenwch y llyfr Just Enough User Research.

Nid yw’n ymwneud â grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgynghori

Sori, dwi’n gwybod bod pawb yn y sector yn caru’r rhain, ond nid oes llawer o werth iddynt pan ddaw at ymchwil defnyddwyr. Mae’r ddau ddigwyddiad yn creu amgylcheddau artiffisial ble mae trafodaeth yn cael ei chymedroli a’i dylanwadu gan ddeinameg grŵp. Mae sgyrsiau’n troi’n haniaethol, mae defnyddwyr yn teimlo’n rhwystredig yn y pen draw.

“Mae’n anodd iawn cynllunio cynnyrch gyda grwpiau ffocws. Yn aml, nid yw pobl yn deall yr hyn sydd eisiau arnynt nes i chi ddangos iddynt.” – Steve Jobs

Mae cyfweliadau defnyddwyr yn wahanol. Mae deinameg grŵp yn diflannu, mae cysylltiad 1-1 yn dod yn bosibl, ac mae defnyddwyr yn teimlo’n fwy cyfforddus yn bod yn agored a rhannu profiadau. Mae hyn yn cynhyrchu mewnwelediadau dyfnach a mwy dibynadwy.

Nid yw’n gofyn i bobl beth maent eisiau

“Rheol gyntaf ymchwil defnyddwyr: peidiwch byth gofyn i unrhyw un beth maent eisiau.”— Erika Hall, Just Enough Research

Un o’r newidiadau mwyaf y mae elusennau’n gwneud yn eu dull o ymchwilio defnyddwyr a chynllunio digidol yw stopio gofyn beth mae pobl eisiau. Roedd Steve Jobs a Henry Ford yn gwybod, fel bodau dynol, nad ydym yn dda am wybod beth rydym eisiau. Hyd yn oed pan fyddwn yn meddwl ein bod ni. Os oes angen eich argyhoeddi o hyd mai dyma’r peth cywir i’w wneud, yna darllenwch hwn.

Yn lle hynny, gofynnwch ‘pam’? Ceisiwch ddarganfod beth yw anghenion ac ymddygiadau sylfaenol eich defnyddwyr. Cadwch feddylfryd amheus am eich darganfyddiadau. Defnyddiwch gwestiynau fel y rhain.

Mae’n gydweithredol

Mae ymchwil defnyddwyr da yn cynnwys y tîm cyfan. Efallai y byddwch chi’n rhannu tasgau ymchwil, ond byddwch chi bob amser yn dadansoddi canfyddiadau ac yn cynhyrchu mewnwelediadau gyda’ch gilydd. Mae’n rhaid iddo weithio fel hyn. Os na fyddwch chi’n cydweithio yna mae rhagfarn yn digwydd a mewnwelediadau yn cael eu colli.

Hefyd, y bobl orau i gymhwyso’ch ymchwil yn ddiweddarach fydd y bobl a’i cyflawnodd. Felly, gofynnwch i’ch cynllunwyr a’ch gweithwyr rheng flaen gymryd rhan. Rhowch gyfle i bawb gyflwyno’u mewnwelediadau.

Digon am y tro

Gallem fynd yn ddyfnach. Ond dyma orffen am y tro.

Gallwch ddarllen am gamau nesaf yn sut i syntheseiddio eich ymchwil defnyddwyr.

Gallwch hefyd fynd yn ddyfnach i ymchwil defnyddwyr gyda’n cwrs e-bost 6 gwers.

Wedi'i gomisiynu gan Catalyst


Charity number: 1094652
Company number: 01816889