Eisiau Bod yn Fwy Cynhwysol? Bydd Angen Cynnwys Gwrth-ormesol
Awdur: Ettie Bailey;
Amser Darllen: 6 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae iaith yn rhan o ryddhad. Os ydym yn dileu hiliaeth, rhywiaeth, ableddiaeth, rhagfarn rhyw cis, rhagfarn rhyw hetero, rhagfarn o ran dosbarth (ac unrhyw ragfarnau fel arall) allan o’n cynnwys, rydym yn helpu i greu byd mwy cyfartal.
Yn aml rydym yn disgrifio hyn fel ‘defnyddio iaith gynhwysol’ (neu gynnwys cynhwysol). Er bod ceisio bod yn gynhwysol yn nod gwerthfawr, mae angen inni fynd ymhellach.
Yn rhan 1 o’r erthygl yma, byddem yn edrych ar:
- Pam bod iaith yn adlewyrchu strwythurau pŵer
- Y broblem gyda meddwl yn gynhwysol
- Sut mae meddwl gwrth-ormesol yn ehangu ein huchelgais
- Pam nad yw meddwl cynhwysol yn mynd i’r afael â gormes
- Sut olwg sydd ar gynnwys gwrth-ormesol
Yn rhan 2 byddem yn rhannu 12 ffordd ymarferol i greu cynnwys gwrth-ormesol.
Ond i gychwyn, dewch i ni edrych ar pam bod iaith yn bwysig.
Mae iaith yn adlewyrchu strwythurau pŵer
“Am fod hen ‘dudes’ gwyn wedi rheoli ein diwylliant cyhyd,” ysgrifennai Amanda Montell yn ‘Wordslut’, “ac iaith yw’r cyfrwng y cafodd y diwylliant hwnnw ei greu a’i gyfathrebu drwyddo, mae’n hen bryd i ni herio sut a pam rydym yn defnyddio iaith yn y ffordd rydym, a’r ffordd rydym yn meddwl amdano i gychwyn.”
Mae iaith yn datgelu ac yn adlewyrchu strwythurau pŵer. Pan rydym yn cwestiynu geiriau, rydym yn cwestiynu’r ddeinameg pŵer sydd wedi’i gladdu oddi tanynt.
Fel y dywed Montell, “gall rhywbeth mor syml â therm cyfeirio neu air melltith fod yn atgyfnerthu strwythur pŵer nad ydym yn cytuno ag ef yn y pen draw.”
Y broblem gyda meddwl cynhwysol
Mae meddwl cynhwysol yn ein gwneud yn fwy tebygol o:
- weld cymdeithas fel clwb, a ninnau fel porthor yn ‘caniatáu’ mynediad i rai i’r clwb
- ceisio rhoi mynediad i fwy o bobl, yn hytrach nag ailysgrifennu’r rheolau aelodaeth, neu chwalu’r clwb yn gyfan gwbl
- canolbwyntio ar unigolion ac ymddygiad rhyngbersonol
- anelu at oddef gwahaniaethau, yn hytrach nag ailysgrifennu’r safon ar gyfer pwy sy’n ‘normal’ neu’n ‘wahanol’
- dychmygu gwahaniaethu fel deuaidd y tu mewn/tu allan, felly rydym yn anghofio’r systemau cydgloi cymhleth o ormes sy’n strwythuro ein bywydau.
Galwai Kat Holmes hyn yn ‘fodel meddwl cau-mewn-cau-allan’ cynhwysiant.
Mae Holmes yn cymharu cynhwysiant â chylch. Ar y tu mewn, mae’r gymdeithas ganolog. Ar y tu allan, pobl o rywedd, hil, anabledd, crefydd, iaith, a nodweddion eraill sydd ar y cyrion.
“Yn y model cau-mewn-cau-allan, beth yw nod cynhwysiant?” gofynnai Holmes. “A yw’n le ble mae’r bobl y tu mewn i’r cylch yn haelionus yn caniatáu i bobl o’r tu allan i ymuno â nhw?”
Mae llawer o ysgolheigion, fel George Dei, yn meddwl am gynhwysiant fel “creu gofod newydd, gofod gwell i bawb.” Mae hynny’n mynd ymhell y tu hwnt i’r model cynhwysiant cau-mewn-cau-allan. Ond nid yw’n hawdd cyflawni mewn gwirionedd.
Yn fy mhrofiad i, rydym yn tueddu i fynd yn ôl i’r model cynhwysiant cau-mewn-cau-allan. Wedi’r cwbl, gall iaith lunio ein meddyliau. Pan fyddaf yn meddwl am gynhwysiant, rwy’n meddwl am gemau, clybiau neu sgyrsiau plant. Nid wyf yn meddwl am ailysgrifennu rheolau’r gêm, datgymalu’r clwb ei hun, neu newid y sgwrs i rywbeth arall, fel dawns.
Dylai cynhwysiant olygu mwy na chau-mewn-cau-allan, ond mae’n anodd cadw’r ystyr yma yn ein meddyliau.
Sut mae gwrth-ormes yn ehangu ein huchelgais
Canolbwyntio ar wrth-ormes, yn hytrach na chynhwysiant, yw’r ffordd i gadw ein hymdrechion cynhwysiant yn y lle cywir.
Er mwyn datblygu’r agwedd gwrth-ormesol, radical yma at gynnwys, mae angen inni ddeall systemau gormes.
Mae anghyfartaledd yn cael ei greu a’i gynnal gan systemau croestoriadol o ormes. Nid oes un clwb y gallwn fod y tu mewn/tu allan iddo, ond nifer o rai croestoriadol, wedi’u creu gan systemau fel hiliaeth, ableddiaeth a rhagfarn rhyw hetero.
Galwodd bell hooks y gorgyffwrdd yma’n heteropatriarchaeth cyfalafol imperialaidd gwyn-uwchafiaethol. Mae Elisabeth Schüssler Fiorenza yn ei alw’n kyriarchy.
Beth bynnag mae’n cael ei alw, rydyn ni’n byw mewn byd anghyfartal. Crëwyd yr anghydraddoldeb yma gan systemau a pholisïau. A gallwn eu newid, yn union fel y gallwn newid ein hiaith a’n modelau meddyliol.
Nid yw meddwl cynhwysol yn dadwneud systemau gormes
Gall meddwl yn gynhwysol feddalu ein huchelgais, yn ein hannog i fod ychydig mwy caredig, ychydig mwy croesawgar. Ond ni fydd yn dadwneud systemau gormesol sy’n bodoli ers canrifoedd.
Mae’n rhaid herio’r rhain yn uniongyrchol.
“Nid gwrthwyneb hiliaeth yw peidio bod yn hiliol, gwrth-hiliaeth ydyw”, meddai Ibram X. Kendi.
Mae ysgoloriaeth Kendi yn dweud wrthym, os nad ydym yn enwi, yn herio ac yn dadwneud hiliaeth, rydym yn rhan ohono.
Gallem ymestyn meddylfryd Kendi i systemau eraill hefyd. Gallem ddweud:
- Nid gwrthwyneb rhywiaeth yw peidio bod yn rhywiaethol, bod yn wrth-rywiaethol ydyw.
- Nid gwrthwyneb ableddiaeth yw peidio bod yn ableddiaeth, bod yn wrth-ableddiaeth ydyw.
- Nid gwrthwyneb rhagfarnu o ran dosbarth yw peidio rhagfarnu o ran dosbarth, bod yn wrth ragfarnu o ran dosbarth ydyw.
Gall cynnwys gwrth-ormesol ein helpu i dorri’n rhydd o’r rhagfarnau plethedig yma.
Sut olwg sydd ar gynnwys gwrth-ormesol
Mae cynnwys gwrth-ormesol yn ein hannog i:
- Rhoi’r gorau i eiriau ac ymadroddion niweidiol, a hefyd y cysyniadau sydd ynghlwm
- Rhoi’r gorau i ragfarn barhaus, a hefyd ailfeddwl sut mae rhagfarn yn cael ei greu yn y lle cyntaf
- Rhoi’r gorau i ganoli anghenion grwpiau dominyddol, a hefyd ailfeddwl ein syniadau am bwy sy’n niwtral, yn normal ac yn bwysig.
Cynnwys gwrth-ormesol:
- Yn enwi ac yn gwneud systemau gormes yn weledol
- Yn ail-leoli grwpiau ymylol (y bobl rydyn ni wedi cael ein gorfodi i feddwl sydd ar yr ymylon, yn amherthnasol neu â statws isel),
- Yn dad-ganoli grwpiau dominyddol (y bobl rydyn ni wedi cael ein gorfodi i feddwl sy’n dda, yn normal neu’n bwysig)
- Yn datgelu a gwrthsefyll stereoteipiau, gwahaniaethu a cham-fanteisio
- Yn cael gwared ar farnau moesol, fel bod pobl yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, heb stigmateiddio na’u beio
- Yn dangos gobaith a phosibilrwydd, i greu byd sy’n croesawu ac yn dathlu gwahaniaethau
Felly sut mae gwneud hyn?
Yn rhan dau byddwn yn archwilio:
- offer ac awgrymiadau fydd yn helpu chi i ddeall os yw rhywbeth yn wrth-ormesol
- adnoddau i’ch helpu chi i ddyfnhau eich gwybodaeth,
- camau pendant y gallwch eu cymryd nawr i greu cynnwys gwrth-ormesol
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst