Chwe mantais symud i’r cwmwl
Awdur: Joe Roberson;
Amser Darllen: 7 munud
Mae hwn yn adnodd agored. Mae croeso i chi ei gopïo a'i addasu. Darllenwch y telerau.
Os hoffech gymorth pellach gyda'ch her ddigidol, trefnwch sesiwn am ddim gyda DigiCymru
Mae sawl mantais i ddefnyddio’r cwmwl. Mae’n debyg eich bod yn barod i’w ddefnyddio a byddech yn elwa o’i ddefnyddio’n fwy. Yn yr erthygl yma rydym yn egluro beth yw’r cwmwl ac yn helpu chi i benderfynu os yw’n addas ar gyfer eich elusen.
Manylion y cwmwl
Mae’r cwmwl yn derm i ddisgrifio meddalwedd a gwasanaethau sydd yn byw ar y rhyngrwyd yn hytrach nag ar gyfrifiadur. Os yw rhywbeth ‘yn y cwmwl’ gallech chi gael mynediad iddo ar unrhyw ddyfais ar y rhyngrwyd. Nid yw’n byw ar eich cyfrifiadur nac ar weinyddwyr eich sefydliad.
Nid newyddbeth yw’r cwmwl. Mae rhaglenni a gwasanaethau yn bod ar-lein wedi bodoli cymaint â’r rhyngrwyd ei hun. Ond, dros y pum mlynedd diwethaf, maent wedi datblygu. Mae’r nodweddion a’r hyblygrwydd bellach yn golygu bod posib lletya holl weithrediadau eich sefydliad ar y cwmwl.
Mae’r mwyafrif o raglenni bellach ar y cwmwl
Cynt, all-lein oedd yr unig ffordd i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (Word, Excel, PowerPoint ayb.). Bellach, gellir eu defnyddio ar borwr gwe ar-lein.
Meddyliwch am Google Docs. Chi sydd yn dewis pwy sydd yn gallu gweld a chydweithio ar bob dogfen. Mae’n haws nag creu dogfen, ei arbed ar eich cyfrifiadur, a’i e-bostio i eraill.
Mae o leiaf 90% o sefydliadau yn defnyddio’r cwmwl, felly mae’n debygol iawn y bydd o fudd i chi symud gwaith eich sefydliad yno.
Chwe mantais symud i’r cwmwl
1. Gwydnwch: Gwasanaethau mwy dibynadwy
Wrth beidio defnyddio’r cwmwl rydych chi’n ddibynnol ar storio ar eich cyfrifiadur neu weinyddion ffisegol. Caledwedd cyfrifiadurol yw gweinyddion ffisegol sydd yn gwasanaethu sawl defnyddiwr.
Golygai hyn bod angen technoleg, prosesau a phobl yn barod i ddelio ag unrhyw broblem gyda’r gweinydd. Gall problemau arwain at golli data neu anhawster yn cael mynediad iddo. Gall hyn fod yn gostus ac yn gymhleth i’w sefydlu a’i gynnal.
Os ydych chi’n defnyddio gwasanaethau yn y cwmwl ni fydd rhaid i chi ddelio gyda phroblemau. Er enghraifft, mae Microsoft a Google yn gweithredu ar rwydwaith cwbl wydn o weinyddion. Os oes problem gydag un gweinydd, bydd un arall yn bodoli eisoes. Golygai hyn na fyddech yn colli unrhyw e-byst neu ffeiliau. Mae ganddynt dimau arbenigol yn gweithio i sicrhau llwyfannau gwydn fel nad oes rhaid i chi feddwl am y peth.
2. Diogelwch: Gwasanaethau mwy diogel
Os oes gennych chi weinydd eich hun yna rydych chi angen arbenigwyr i adeiladu diogelwch ar draws yr holl feddalwedd, gwasanaethau a dyfeisiau. Mae’n rhaid i chi reoli pwy sydd â mynediad i bob un o’r adnoddau ac yna diogelu’r ffordd maent yn cael mynediad i’r adnoddau yma. Mae hyn yn gymhleth ac angen mewnbwn technegol parhaus.
Mae gwasanaethau cwmwl yn wahanol. Mae eu harbenigwyr diogelwch yn sicrhau bod eich data yn ddiogel. Fel arfer, mae’r diogelwch yn fwy blaengar nag gyda gosodiadau digwmwl sydd yn wir i’r mwyafrif o elusennau bach-canolig. Mae’r dylunwyr yn rhoi offer hawdd eu defnyddio i reoli mynediad i’ch gwybodaeth.
Mae angen diweddariadau diogelwch rheolaidd er mwyn cadw systemau’n ddiogel. Mae rhoi’r cyfrifoldeb yma i ddarparwr gwasanaeth cwmwl yn lleihau risg a chost.
Fodd bynnag, mae angen gofal pan ddaw at ddiogelwch cwmwl hefyd. Mae’n rhaid gosod a gweithredu ei ddiogelwch yn gywir ar gyfer anghenion eich sefydliad.
3. Hyblygrwydd: Gallu addasu nodweddion a chynhwysedd heb orfod dysgu sgiliau arbenigol
Nid yw gwasanaethau cwmwl yn gyfyngedig fel y mae gweinyddion ffisegol.
Er enghraifft, os yw eich sefydliad yn cyflogi mwy o staff bydd angen iddynt gael mynediad at eich systemau. Gyda gwasanaeth cwmwl yr unig beth sy’n rhaid gwneud yw prynu mwy o drwyddedau.
Ond mae meddalwedd ar weinyddion yn gallu cyrraedd capasiti defnyddwyr neu raglenni ac efallai bydd angen uwchraddio neu newid. Golygai hyn staff arbenigol, a gall hynny fod yn gostus. Efallai bydd angen cyfluniadau a rheoliadau diogelwch ychwanegol hefyd.
Os yw’ch sefydliad yn mynd yn llai, gallech chi stopio neu leihau taliadau trwydded gyda gwasanaeth cwmwl.
Mae’r cwmwl wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg i’ch anghenion a gall dyfu a lleihau gyda chi. Os yw’ch sefydliad yn dyblu, nid oes rhaid poeni am ofod storio ar eich gweinydd i ymdopi gyda mwy o ffeiliau. Os yw’ch gwefan yn cael mwy o draffig, gallech gynyddu ei adnoddau gyda chlic botwm.
4. Symudedd: Mynediad diogel i wasanaethau a data yn unrhyw le, unrhyw amser, o unrhyw ddyfais
Mae’r gallu i weithio o unrhyw le wedi dod yn hollbwysig. Mae hwn yn gynsail allweddol o systemau cwmwl. Gall unrhyw berson, yn gweithio o unrhyw ddyfais mewn unrhyw leoliad, gael cysylltiad ag aelodau’r tîm a data sefydliadol. Bydd mewngofnodi diogel a phrotocolau priodol yn sicrhau eich bod yn rhannu data gyda’r rhai sydd angen ei weld yn unig.
5. Cynaladwyedd: Uwchraddio neu drwsio meddalwedd neu galedwedd yn cael ei wneud i chi
Chi sydd yn gyfrifol am uwchraddio caledwedd a meddalwedd os ydych chi’n lletya gweinyddion eich hun. Bydd angen gwneud hyn bob tro bydd unrhyw ddiweddariadau a datrysiadau diogelwch newydd yn cael eu creu. Gofynnir hyn am sgiliau TG arbenigol a/neu gefnogaeth partner TG.
Mae datrysiadau cwmwl yn sicrhau bod yr holl feddalwedd a chaledwedd sylfaenol yn ddiweddar ac yn gyfredol. Nid oes rhaid i chi boeni. Er enghraifft, os ydych chi’n defnyddio Google Workspace, bydd yr holl nodweddion newydd ac unrhyw newidiadau ar gael i chi wrth iddynt gael eu rhyddhau.
6. Cyllideb gyfeillgar: Costau symlach a thryloyw yn arwain at arbedion ac effeithlonrwydd
Gall prynu gweinyddion a meddalwedd eich hun fod yn ddrud, gyda chostau parhaus i orfod lletya a chadw’n rheolaidd. Mae uwchraddio ac adnewyddu sylweddol yn creu costau ychwanegol. Os yw’ch sefydliad yn tyfu mae’n debyg bydd rhaid cynyddu rhwydwaith y gweinydd. Gall y costau yma gynyddu ac maen anodd cynllunio ar gyfer hyn.
Gyda datrysiad cwmwl rydych chi fel arfer yn talu ar fodel tanysgrifio/trwyddedu. Cyfyngir y costau i gymorth cychwyn a ffioedd misol. Diffinnir ffioedd gan eich tanysgrifiad a nifer y trwyddedau defnyddwyr sydd eu hangen. Mae’n syml ymateb i dwf sefydliadol wrth dalu am drwyddedau pellach.
Rhaglenni disgownt sefydliadau dielw ar wasanaethau cwmwl
Mae gan sefydliadau meddalwedd mawr raglenni disgownt gwych i sefydliadau dielw. Er enghraifft:
- Mae Google Workspace ar gael yn rhad ac am ddim i sefydliadau dielw.
- Mae Microsoft yn cynnig deg trwydded Office 365 am ddim. Mae gostyngiad sylweddol i gostau pob trwydded ychwanegol.
- Mae Microsoft Azure (datblygwr a datrysiadau lletya) yn cynnig grant Azure sydd yn rhoi hyd at $2000 o gredydau’r flwyddyn i gael mynediad i’w portffolio llawn a gwasanaethau cwmwl.
- Mae Amazon Web Services (AWS) (datblygwr a datrysiadau lletya) hefyd yn cynnig rhaglen credyd dielw sydd yn rhoi hyd at $5,000 o gredyd i helpu gwrthbwyso costau sy’n gysylltiedig â gweithredu datrysiadau cwmwl.
Cofiwch fod costau gweithredu parhaus wrth ddefnyddio’r cwmwl hefyd. Efallai bydd angen gwybodaeth TG mewnol neu bartner TG arnoch i helpu gweithredu rhai gwasanaethau cwmwl.
Pam na fyddech chi’n symud i’r cwmwl?
Mae tipyn o resymau pam fyddech chi’n dewis aros gyda datrysiad hunangynhaliol:
- Rydych chi’n hapus gyda’ch systemau presennol a ddim angen y buddiannau disgrifir uchod.
- Mae gennych chi system sefydledig a chadarn a phartner TG gallech chi ymddiried ynddynt, nid ydych chi’n teimlo bod angen newid.
- Mae gennych feddalwedd perchnogol etifeddol yn barod.
- Mae gennych rywfaint o feddalwedd arbenigol wedi’i osod ar eich gweinyddion ac nid oes datrysiad cwmwl priodol ar gael (gallai’r sefyllfa yma fod yn risg i’ch sefydliad).
- Mae gennych bryderon storio data. Efallai bod rheolau llym yn eich sefydliad am ble gellir storio eich data. Mae’r mwyafrif o ddarparwyr cwmwl bellach yn caniatáu i chi ddewis ble bydd eich data yn cael ei letya. Os yw eich gwefan yn cael ei letya yn Azure neu AWS, gallech ddewis lleoliadau yn y DU. Mae cyfrifon Google Worskpace a dalwyd amdano (gan gynnwys rhai â disgownt) yn caniatáu i chi ddewis lleoliad yn y DU. Mae rhai tanysgrifiadau Microsoft yn caniatáu hyn hefyd.
Mynediad i’r canllaw
Nawr bod gennych chi ddealltwriaeth o’r cwmwl a’i brif fanteision, edrychwch ar ganllaw DOT PROJECT ar symud i’r cwmwl.
Nodir
Mae’r adnodd hwn yn seiliedig ar ‘Moving to the cloud: A guide for nonprofits’ gan DOT PROJECT. Diolch iddynt am y caniatâd i’w ailddefnyddio.
Wedi'i gomisiynu gan Catalyst